Cynhwysiant Digidol: Cymorth Gyda 6 Her Gyffredin
Awdur: Joe Roberson;
Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwneud gwasanaethau a chynnwys digidol eu sefydliad yn fwy croesawgar a chynhwysol.
Mae’n cynnig help gyda 6 sefyllfa a all arwain at bobl yn cael eu heithrio. Mae datrysiadau yn cynnwys:
- Herio eich rhagdybiaethau
- Cynllunio gwasanaethau yn fwy cynhwysol
- Creu cynnwys sy’n wrth-ormesol
- Cefnogi pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol i gael mynediad i’r rhyngrwyd
Cynigir un neu fwy o adnoddau ysgrifenedig arbenigol o archifau’r Catalyst ar gyfer pob sefyllfa. Ble bynnag ydych chi gyda’ch arferion cynhwysiant digidol, bydd rhywbeth ar gael yma i’ch symud ymlaen.
1. Wrth gefnogi pobl sydd eisoes wedi’u hallgau’n ddigidol
Gall pobl gael eu hallgau oherwydd diffygion digidol fel:
- Sgiliau – prinder sgiliau neu hyder i ddefnyddio dyfeisiau, meddalwedd neu’r rhyngrwyd
- Caledwedd – dim mynediad i ddyfeisiau digidol
- Data – mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd
Bydd pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol yn aml yn profi tlodi neu’n cael eu hallgau o gymdeithas mewn ffyrdd eraill.
I’w helpu, gallwch newid y ffordd mae’ch sefydliad yn gweithio gydag unrhyw un sydd wedi’i eithrio’n ddigidol. Darllenwch grynodeb cynhwysiant digidol y Good Things Foundation a defnyddiwch eu dec sleidiau cynhwysiant digidol.
Gallwch hefyd gynnal prosiectau sy’n targedu pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol. Darganfod mwy am Fodel Pencampwyr Digidol Digital Unite
2. Wrth weithio gyda phobl sy’n wahanol i chi
Gall y ffordd rydym yn meddwl arwain at eithrio pobl yn ddamweiniol trwy’r cynnwys a’r gwasanaethau rydym yn creu. Rheswm hyn yw ei bod bron yn amhosib peidio bod â thuedd anymwybodol mewn rhyw ffordd.
Gallem fod â rhywfaint o duedd ymhlyg hyd yn oed os oes gennym brofiad bywyd ein hunain o heriau pobl. Tuedd ymhlyg yw’r stereoteipiau cymdeithasol sydd gennym am y rhai sy’n wahanol i ni. Rhai cyffredin yw hil, rhyw, cefndir diwylliannol, siâp y corff, rhywioldeb, dosbarth ac anabledd. Tuedd anymwybodol yw un o’r rhwystrau mwyaf sy’n ein hwynebu wrth greu cynnwys a gwasanaethau digidol.
Ond mae posib ei oresgyn. Defnyddiwch ganllaw NCVO i ddelio â thuedd anymwybodol.
3. Wrth ysgrifennu cynnwys
Mae cynnwys yn golygu’r geiriau, lluniau a fideos rydych chi’n eu defnyddio ar eich:
- Gwefan – gan gynnwys pob tudalen ac unrhyw gyhoeddiadau sydd yno
- Gwasanaethau – gan gynnwys unrhyw ffurflenni, dogfennau a rennir neu ddeunyddiau marchnata
- Cyfryngau cymdeithasol – gan gynnwys unrhyw ymgyrchoedd, marchnata a galwadau i weithredu
Mae’n hawdd creu cynnwys gall eithrio pobl, neu’n waeth: sy’n atgyfnerthu strwythurau pŵer gormesol. Yna rydym ni’n rhan o’r broblem.
Ond rydym ni’n rhan o’r datrysiad hefyd.
Ydych chi’n fodlon gwneud eich holl gynnwys yn gynhwysol? Ydych chi’n fodlon gweithredu ymhellach a’i wneud yn wrth-ormesol? Bydd yr adnoddau yma gan yr ymgynghorydd iaith gynhwysol Ettie Bailey-King yn helpu:
4. Wrth gynllunio gwasanaeth
Bydd datgelu eich rhagfarnau a chreu cynnwys gwrth-ormesol yn eich helpu i gynllunio gwasanaeth mwy cynhwysol. Ond mae angen iddo fod yn hygyrch i’r bobl rydych chi’n helpu hefyd.
Mae cynllunio ar gyfer hygyrchedd yn ffordd o greu gwasanaethau cynhwysol. Nid yw’n golygu eu gwneud yn hygyrch i bawb o reidrwydd (nid yw pobl ifanc angen mynediad i wasanaethau pobl hŷn). Ond golygai dileu rhwystrau mynediad i bawb o fewn y grwpiau rydych chi eisiau cyrraedd.
Bydd yr erthyglau yma gan Jamie Knight, arbenigwr awtistig mewn hygyrchedd digidol, yn eich helpu.
- Cynllunio Digidol Cynhwysol: Hygyrchedd, Rhagdybiaethau a Rhwystrau
- Hygyrchedd: Sut i Nodi 3 Rhwystr Cyffredin ar Wefan eich Elusen
5. Pan fyddech yn cynnal sesiynau fideo ar-lein
Y ffordd fwyaf cyffredin o gynnal gwasanaethau digidol yw trwy alwadau fideo. Mae fideo yn hyblyg ac yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ystod o wasanaethau. Er enghraifft: sesiynau cymorth un i un, gweithdai dysgu grŵp, digwyddiadau cymunedol.
O ganlyniad hyn mae llawer o arfer da yn dod i’r amlwg o ran defnyddio galwadau fideo:
- Yn union fel y mae ym mywyd go iawn, mae’r ffordd rydych chi’n cysylltu â phobl ar-lein yn newid pa mor gynwysedig maent yn teimlo. I helpu’r sector i ddysgu creu profiadau cynhwysol mae Catalyst wedi ariannu Deepr i greu Pecyn Cymorth Cysylltiad Dynol.
- Ydych chi’n gweithio gyda phobl sy’n niwrowahanol? Neu efallai eich bod am wneud eich galwadau fideo yn fwy cynhwysol i bawb? Dysgwch sut mae elusen Grapevine yn gwneud galwadau fideo yn fwy hygyrch i bobl niwrowahanol.
- Pan fyddwch yn cynnal gweithdai ar-lein dysgwch sut i greu a chyflwyno dysgu ar-lein cynhwysol.
6. Pan fydd eich cynulleidfa wedi profi trawma
Mae llawer ohonom wedi profi trawma. Os ydych yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu sawl rhwystr a her, yna mae bron yn sicr y bydd ganddyn nhw drawma. Bydd hyn yn cael effaith ar eu profiad o’ch gwasanaethau.
Os ydych chi’n creu gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma, yna byddant yn fwy cynhwysol.
- Darllenwch Cyflwyniad i Gynllunio sy’n Ystyriol o Drawma gan Hera Hussain o Chayn i gychwyn.
- Dysgwch sut i ddefnyddio’r egwyddorion yma yn eich gwaith gydag awgrymiadau Rosanna Thomasoo ar gyfer sut i weithredu egwyddorion cynllunio ar sail trawma.
Angen cymorth pellach?
Weithiau mae angen mwy o fewnwelediad a chyngor i symud ymlaen. Gellir cael 60 munud o gyngor am ddim gan arbenigwr digidol trwy Digital Candle.
Mae DigiCymru hefyd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Credyd delwedd: Gofod Adnoddau Centre for Ageing Better. Mae Ageing Better wedi gweithio mewn partneriaeth ag Independent Age i ryddhau lluniau llyfrgell delweddau positif o ran oedran sy’n cynrychioli amrywiaeth pobl 50+ oed yn Lloegr.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst