Egwyddorion Cynllunio ar Sail Trawma: Sut i Ddefnyddio Hyn Yn Eich Gwaith
Awdur: Rosanna Thomasoo;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd yma ar gyfer:
- Pobl sy’n gweithio mewn elusennau bach sy’n cefnogi pobl wedi profi, neu sydd yn profi, trawma.
- Pobl sy’n ymwneud ag ymchwil defnyddwyr, cynllunio gwasanaethau a phrofi gwasanaethau digidol (i ddeall ystyr gwasanaethau digidol darllenwch ‘Beth yw Ystyr Digidol‘).
Mae’n trafod:
- Ystyr cynllunio ar sail trawma
- Awgrymiadau i weithredu egwyddorion cynllunio ar sail trawma
- Adnoddau i’ch helpu chi i ddysgu mwy a chychwyn arni
Ystyr cynllunio ar sail trawma
Oherwydd ei fod yn gysyniad eithaf newydd, nid oes un diffiniad penodol o gynllunio ar sail trawma. Ond, mae ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd yn cynyddu.
Cyn i ni geisio deall cynllunio ar sail trawma, rhaid cychwyn wrth ddeall trawma. Yn ei ystyr symlaf, trawma yw’r ymateb dynol, emosiynol i ddigwyddiad ofnadwy. Mae trawma yn cael effaith ar bawb. Ond, mae rhai grwpiau ymylol yn profi trawma yn fwy nag eraill.
Llynedd cyhoeddodd Catalyst ‘Cynllunio ar Sail Trawma: Cyflwyniad i Sefydliadau Dielw‘. Mae cynllunio ar sail trawma yn cael ei ddiffinio fel “ffordd o feddwl am sut mae trawma pobl yn cael effaith ar eu profiad o’n gwasanaethau”. Mae’r adnodd yn cyflwyno wyth egwyddor allweddol Chayn ar gyfer cynllunio ar sail trawma. Y rhain yw:
- diogelwch
- rheolaeth bersonol (agency)
- cydraddoldeb
- preifatrwydd
- atebolrwydd
- amrywiaeth barn (plurality)
- rhannu grym
- gobaith
Gellir addasu’r egwyddorion yna i gyd-fynd â gwahanol gyd-destunau a sefydliadau.
Mae’n bwysig deall bod y ffordd rydym yn gweithio, a’r cynnyrch neu wasanaethau rydym yn creu, yn gallu achosi niwed weithiau. Mae cynllunio ar sail trawma yn gosod camau a phrosesau i geisio lleihau’r perygl o hynny’n digwydd.
Awgrymiadau ar gyfer rhoi egwyddorion cynllunio ar sail trawma ar waith
1. Creu gofodau diogel a chroesawgar
Yn hyrwyddo gobaith a diogelwch, gan ddarparu mannau digidol tawel, positif a chadarnhaol.
Mae’n rhaid ystyried diogelwch corfforol, emosiynol a seicolegol wrth gynllunio gwasanaethau digidol. I elusennau, gall hyn fod y gwahaniaeth rhwng rhywun yn gofyn am gymorth neu beidio.
Ymgynghorwch â defnyddwyr ar gynlluniad eich gwasanaethau, profiadau ac adnoddau ar-lein gan gynnwys:
- Y lliwiau defnyddir. Mae lliwiau penodol yn gallu creu ymatebion penodol. Ble’n bosib, defnyddiwch liwiau cynnes, croesawgar. Cofiwch feddwl am ddarllenadwyedd gyda chyferbyniad rhwng lliw’r geiriau a lliw’r cefndir. Mae yna offer ar-lein i’ch helpu gyda hyn. Rhowch gynnig ar ‘Colour Contrast‘ neu darllenwch am liw yn Hygyrchedd: Sut i Adnabod 3 Rhwystr Cyffredin ar Wefan eich Elusen.
- Y ffont defnyddir. Oeddech chi’n gwybod bod ffontiau penodol wedi’u cynllunio ar gyfer hygyrchedd? Mae’r rhain yn cynnwys OpenDyslexic a Tiresias. Defnyddiwch y rhain lle gallwch chi. Os nad oes gennych chi fynediad atynt, mae ffontiau cyffredin fel Arial, Helvetica a Verdana hefyd yn ddewisiadau da. Os yn bosib, cadwch at un ffont a defnyddio maint sy’n ddarllenadwy (e.e. maint 16).
- Y delweddau defnyddir. Ydy’r delweddau dewiswyd yn gynhwysol? A yw’n bosib iddo sbarduno gofid neu ymateb emosiynol fel arall i rai pobl? Gofynnwch y cwestiynau yma bob tro. Casglwch adborth gan grŵp mor amrywiol â phosibl.
2. Cynllunio ar gyfer anghenion penodol
Yn darparu rheolaeth bersonol (agency), diogelwch a phreifatrwydd, gan roi rheolaeth i’r person dros sut a phryd maent yn cyrchu gwybodaeth a chymorth.
A oes gan eich defnyddwyr anghenion penodol? Sut allech chi ymateb iddynt? Yn ddibynnol ar y bobl rydych chi’n targedu, efallai bydd angen i chi gynllunio ar gyfer anghenion penodol. Er enghraifft, os mai’r bwriad yw targedu pobl sydd yn profi camdriniaeth, efallai bod angen iddynt gau eich gwefan yn sydyn. I gefnogi hyn, dylid creu botwm gadael clir, mawr wedi’i osod mewn man cyson ar bob tudalen. Os yw rhywun yn profi camdriniaeth yn y cartref, bydd y nodwedd yma’n hyrwyddo rheolaeth bersonol, diogelwch a phreifatrwydd.
Mae’r elusen Brydeinig Pause yn gweithio i wella bywydau menywod ble mae mwy nag un plentyn wedi, neu mewn perygl o gael, eu tynnu o’u gofal. Efallai nad yw rhai pobl wedi rhannu’r profiad o’u plant yn cael eu tynnu o’u gofal gyda phartneriaid, teulu neu ffrindiau. Er mwyn cefnogi rheolaeth bersonol, diogelwch a phreifatrwydd menywod, mae gan wefan Pause far gadael mawr clir ar bob tudalen (gweler isod). Bydd clicio arno unwaith yn eich tywys yn ddiogel i Google.

3. Rhannu grym trwy ymchwil defnyddwyr
Yn hyrwyddo cydraddoldeb a rhannu grym, yn cyd-gynllunio i greu datrysiadau sy’n gweithio i bawb.
Mae deall ein defnyddwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn wybodus am drawma. Ond dylai ymchwil defnyddwyr fod yn ystyriol, yn gynhwysol ac yn gwneud bywydau pobl yn well. Gwireddwch hyn wrth wneud y canlynol:
- Cynnwys grŵp mor amrywiol â phosib o ddarpar ddefnyddwyr. Darparu llwyfan ar gyfer lleisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn aml.
- Creu fideo cyflwynedig, yn egluro’r broses o ymchwil defnyddwyr
- Gofyn i bobl sut hoffant gymryd rhan – beth sydd yn gwneud iddynt deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus?
- Gofyn i bobl os oes ganddynt sgiliau hoffant ymarfer fel rhan o gyfrannu
- Meddwl o flaen llaw i liniaru unrhyw beth gall sbarduno trawma
- Darparu gwybodaeth/pynciau i’w trafod o flaen llaw
- Rhowch ofod ac ymreolaeth i bobl fedru dweud wrthych os nad ydynt am barhau i gyfrannu
- Dilyniant. Cadwch mewn cysylltiad i weld os yw pawb yn iawn ar ôl iddynt gymryd rhan yn yr ymchwil. Os yw’r ymchwil yn ymwneud â phwnc anodd, dylid cyllidebu ar gyfer ôl-ofal therapiwtig. Cynigwch hyn i bob defnyddiwr a sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael mynediad iddo.
- Rhannwch fewnwelediadau’r ymchwil gyda’r defnyddwyr, fel y gallant weld sut y maent wedi cyfrannu a sicrhau eich bod wedi eu deall.
Mae’r elusen Pause wedi defnyddio’r camau yma yn ei waith cyfranogiad (Getting Involved). O ganlyniad, mae pobl yn teimlo’n ddiogel, ac mae gwasanaethau Pause wedi gwella.
4. Meddwl am bob rhyngweithiad fel ymyriad
Yn hyrwyddo amrywiaeth barn ac atebolrwydd, gan gydnabod bod trawma yn amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd a bod angen i gynllunwyr gofio hyn.
Mae’r seicolegydd Karen Treisman yn arbenigwr ar drawma, a dulliau gweithredu ar sail trawma. Ei chred yw bod “pob rhyngweithiad yn ymyriad”. Os yw rhyngweithio yn gadarnhaol, mae’n dod yn gyfle i wella a magu hyder. Os yw’n negyddol, gall sbarduno trawma’r gorffennol neu greu trawma newydd.
Mae trawma yn bersonol ac yn oddrychol – ni ellir rhagweld yn iawn beth all sbarduno rhywun a sut mae trawma yn effeithio ar eu hymateb. Gall ymchwil a chynllunio da ein helpu ni i ‘beidio gwneud niwed’. Ond gallwn fynd ymhellach i chwilio am gyfleoedd i roi cyfnod o dawel a llawenydd i bobl. Yr ‘eiliadau goleuni’ yw’r gwrthwyneb i sbardun trawma.
Wrth gynllunio gwasanaeth, gall pethau bach helpu i greu tawelwch a llawenydd. Er enghraifft:
- Gofyn am y camau lleiaf posibl i gwblhau gweithred.
- Cael ffurflenni sy’n llenwi’n awtomatig o wybodaeth y mae’r person eisoes wedi’i darparu (mae gofyn i bobl ailadrodd gwybodaeth sensitif yn flinedig)
- Egluro’n glir pam bod angen y wybodaeth, a sut defnyddir.
- Symleiddio’r broses o gael cymorth gan berson go iawn os ydynt angen hynny. Nid yw profiadau pawb yr un peth, ac efallai na fydd datrysiadau digidol yn llwyddiannus i bawb.
Dysgwch fwy
- Darllen: Karen Treisman – A Treasure Box for Creating Trauma informed organisations
- Gwrando: Designing for: Trauma Informed Design
- Gwylio: Inclusive Design, Trauma-informed Website Design gan Melissa Eggleston
Credyd prif lun: Llun gan Thomas Vimare ar Unsplash
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst