Deall GDPR: Beth ydyw a sut i reoli data yn eich elusen
Awdur: Joe Roberson;
Amser Darllen: 3 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Bydd y clip fideo yn eich addysgu am Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a rheoli data. Byddwch yn dysgu pam mae llawer ohono yn synnwyr cyffredin. Erbyn y diwedd bydd gennych ddealltwriaeth sylfaenol o bopeth rydych ei angen er mwyn deall a chydymffurfio â GDPR yn eich sefydliad.
Arweinir gan Lucy Knight a Martin Howitt o The Data Place. Cynhaliwyd yn wreiddiol ym mis Mawrth 2021 fel rhan o raglen Beyond (sydd bellach wedi dod i ben).
I gwblhau’r hyfforddiant bydd angen 3.5 awr arnoch gan eich bod angen egwyl hefyd!
Mae hyn yn cynnwys 80 munud o amser gwylio, 1 x 30 munud a 2 x 20 munud o weithgareddau, a 50 munud o egwyl.
Gallwch gwblhau Ymarfer 1, cymryd egwyl, ac yna cwblhau gweddill y cwrs.
Edrychwch ar y sleidiau o’r cwrs byw er mwyn cael trosolwg.
Defnyddiwch y dolenni isod er mwyn canfod gwahanol rannau o’r fideo.
00.00: Cyflwyniad
Agenda, amcanion a chyflwyniadau.
8.00: Cyflwyniad i amddiffyn data
Hanes, buddion a ble i gychwyn gyda data. Ewch yma i gychwyn yn syth.
12.32: Egwyddorion GDPR
Dysgu’r 7 egwyddor.
21.03: Ymarfer 1 – Data yn eich sefydliad
Gwyliwch y rhan yma ac yna defnyddiwch y cynfas data i fapio data yn eich sefydliad.
>> 20 munud i wneud y map data
Pan rydych wedi rhoi cynnig ar y cynfas, trosglwyddwch y cynnwys i’r templed Catalog Data yma er mwyn cael catalog trefnus o’r data yn eich sefydliad.
>> 10 munud i drosglwyddo cynnwys o’r cynfas i’r catalog.
29.22: Pyrth Cyfreithiol
Rhesymau cyfreithiol dros brosesu data, gallwch chi eu dyfynnu i gyfiawnhau’r data rydych yn ei gadw.
46.44: Ymarfer 2: Pyrth Cyfreithiol
Gwyliwch y rhan yma. Yna’n defnyddiwch y daenlen cofnod o brosesu a’r canllaw cyfeirio cyflym er mwyn adnabod rheswm cyfreithiol dros gadw rhai o’r data rydych wedi’i gofnodi yn Ymarfer 1.
>> 20 munud i wneud Ymarfer 2.
55.36: Dulliau a thechnegau i reoli data
Chwe dull, yn cynnwys y record o weithgareddau prosesu sydd wedi’i grybwyll yn barod yn yr hyfforddiant.
1.10.51: Ymarfer 3: adeiladu eich cynllun gwaith data
Cymorth i gynllunio’r camau nesaf. Gwyliwch y rhan yma ac yna ysgrifennwch gychwyn eich cynllun.
>> 20 munud i wneud Ymarfer 3.
1.18.10: Cloi
Yn cynnwys cyfeiriadau
Get more help
Cynllun Gwaith Defnyddio Data – helpu chi gynllunio sut i ddefnyddio’r darnau allweddol o ddata.
Bydd 7 awgrym ar ddefnyddio data yn eich elusen yn helpu i wella ansawdd a defnydd eich data.
Holl adnoddau Catalyst
Diolch i Martin a Lucy am greu’r hyfforddiant yma. Maent yn gweithio i The Data Place, menter gymdeithasol sy’n helpu pobl, llefydd a sefydliadau gyda data.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst