Pencampwyr Digidol: Un o’r Dulliau Gorau i Greu Cynhwysiant Digidol
Awdur: Katharine Teed;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae allgau digidol wedi tyfu. Mae’r angen i bobl fod ar-lein wedi cynyddu ac mae’n fwy o her i’w cynnwys.
Mae cynhwysiant digidol yn anodd
I lawer o elusennau, mae cynhwysiant digidol yn parhau i fod yn rhwystr i ddarparu gwasanaethau digidol. Mae dros 1 o bob 5 (22%) wedi canslo gwasanaethau am nad oes gan eu defnyddwyr y sgiliau na’r dechnoleg i’w defnyddio (Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennol, 2021). Roedd hyn i fyny o 15% ar ddechrau’r pandemig COVID. Roedd yn rhaid i bron hanner (45%) ddarparu eu defnyddwyr gyda dyfeisiau, data neu gefnogaeth i fynd ar-lein neu gael mynediad at wasanaethau. Mae galluogi cynhwysiant digidol a chefnogi sgiliau digidol yn dod yn hanfodol.
Ond os oes un peth y gellir dibynnu arno i helpu, yna pobl ydyw. Cyfalaf dynol unrhyw weithlu neu gymuned. Grym cyfunol sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Gyda’r genedl yn y pair, mae pobl wedi aros yn gyson, gan ymateb i heriau mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Felly yn y frwydr yn erbyn allgau digidol, mae’n gwneud synnwyr i chi gyfarparu’ch pobl gyda’r offer fydd yn helpu chi i ennill.
Mae Pencampwyr Digidol yn ddatrysiad
Mae Digital Unite yn eu galw’n Pencampwyr Digidol. Efallai eich bod chi wedi clywed Cyfeillion Digidol, Ffrindiau Digidol, neu rywbeth arall. Gall y pencampwyr yma fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth neu’n gwsmeriaid. Gallant fod yn staff neu’n wirfoddolwyr, yn gyflogedig neu’n wirfoddol. Nid ydynt o reidrwydd yn arbenigwyr TG ond mae ganddynt ddealltwriaeth eithaf da o dechnoleg ac maent yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Gall Pencampwyr Digidol fod yn unrhyw un, yn debygol o fod yn rhyngweithio â rhai sydd angen sgiliau digidol gwell yn barod, ac yn cynnig y profiad personol mae pobl yn ei hoffi.
Mae’r ysgogiad i ddod yn Bencampwr Digidol yn syml fel arfer: maent eisiau dysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd a bod yn rhan o rywbeth gwerthfawr. Ar draws rhwydweithiau Digital Unite, roedd 80% o Bencampwyr Digidol wedi cymryd rhan er mwyn gallu helpu pobl eraill.
Mae’r model Pencampwyr yn gynaliadwy
Mae Digital Unite wedi bod yn hyfforddi pobl i fod yn Bencampwyr Digidol ers blynyddoedd. Dyma 100% o’r hyn rydym yn ei wneud. Mae ein rhwydwaith ar-lein yn meithrin cymhwysedd a hyder pobl i fod yn bencampwyr. Ymhlith y nifer o rinweddau, mae model Pencampwyr yn canolbwyntio ar y dysgwr. Mae’n hyblyg, yn gynaliadwy, a gellir ei wreiddio yng nghalon sefydliad.
Rydym yn arbenigo yn y model hwn am ein bod yn gwybod ei fod yn llwyddiannus. Mae 96% o’r rhai sy’n cael eu hyfforddi wedi gweld cynnydd yn eu sgiliau digidol ac mae 94% yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi eraill yn well. Mae’n creu newid sy’n ystyrlon ac yn hirdymor.
Sut y newidiodd Mencap eu cymorth sgiliau digidol
Roedd Mencap yn gwybod bod allgau digidol yn broblem i’w buddiolwyr. Ond nid yw Mencap yn arbenigwyr digidol. Felly roedd darparu cymorth sgiliau digidol i dros 300 o sefydliadau partneriaid lleol yn teimlo’n ormod.
Ond fe orfododd y pandemig COVID i bobl ailfeddwl. Yn 2022 recriwtwyd 70 o’u partneriaid lleol yn eu menter ‘Let’s Get Digital’. Mae’r rhaglen yn cyfuno hyfforddiant Pencampwyr Digidol â chyllid sbarduno ar gyfer dyfeisiau. Gan ddefnyddio rhwydwaith Digital Unite mae Mencap wedi hyfforddi dros 150 o staff a gwirfoddolwyr i’w cymuned Pencampwyr Digidol hyd yn hyn.
Model llwyddiannus i sefydliadau bach a mawr
Roedd rhwydwaith lleol Mencap yn amrywio o grwpiau gwirfoddol micro i elusennau mawr. Felly, pennwyd yr hyfforddiant Pencampwyr Digidol gan flaenoriaethau a chapasiti lleol. Cafodd cwrs e-ddysgu byr ei greu i helpu partneriaid i gael amser i gymryd rhan. ategwyd hyn gyda chyfres o weminarau. Roedd y rhain yn cynnwys diogelu, darparu cymorth o bell a helpu pobl ag anableddau dysgu i ddefnyddio technoleg.
Mae’r effaith hyd yn hyn wedi bod yn dda. Mae cymuned Mencap wedi helpu dros 1,000 o aelodau Mencap. Mae’r gwaith yn parhau…
Mae Pencampwyr Digidol yn cael effaith mewn mwy nag un ffordd
Mae sgîl-effaith y gweithgareddau hyn wedi lledaenu ar draws Mencap. Mae canlyniadau sefydliadol buddiol yn cael eu gweld ar lefel genedlaethol a lleol.
Mae wedi meithrin diwylliant dysgu ac wedi cychwyn sgyrsiau newydd yn fewnol. Er enghraifft, roedd adran TG Mencap yn ansicr am y prosiect i gychwyn. Bellach maent yn deall ac yn gwerthfawrogi natur gyflenwol y gwaith. Maent wedi gofyn am gefnogaeth Pencampwyr Digidol ar gyfer prosiect maent yn chwilio am gyllid amdano hyd yn oed.
Mae’r dull hwn hefyd wedi helpu partneriaid i ddod yn rhan o’u strategaeth genedlaethol. Er enghraifft, mae pencampwyr Mencap Heart of England yn helpu i brofi a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau digidol newydd. Maent yn rhoi adborth am broblemau gweithredu ac yn cefnogi staff eraill gyda’r dechnoleg.
Yr hyn mae pobl wedi’i ddweud
“Rwyf wedi dysgu am bethau fel defnyddio’r meicroffon i chwilio yn lle’r bysellbad. Gallaf newid lliw’r bysellbad. Mae’r rhain yn bethau nad oeddwn i wedi bod angen gwybod fy hun sydd yn helpu ein cwsmeriaid i ddefnyddio’r dabled. Hefyd yn helpu pobl ar lefel y gallant ei ddeall,” Laura, Pencampwr Digidol Mencap
“Rwyf wedi dysgu sut i gysylltu â’r rhyngrwyd. Rwy’n gwneud YouTube, gemau, lliwio, cwisiau cerddoriaeth, canu a dawnsio. Nid oeddwn yn gallu gwneud unrhyw beth cynt a nawr dwi’n defnyddio’r dabled bob dydd,” Elizabeth, cwsmer yn Mencap Heart of England.
Mae model Pencampwyr Digidol llwyddiannus angen ymagwedd sefydliad cyfan
Fel pob menter cynhwysiant digidol, nid yw dull Pencampwyr Digidol yn syml drwy’r adeg. Mae angen cefnogaeth uwch arweinwyr ac ymagwedd sefydliad cyfan i lwyddo. Mae angen eglurder a strwythur ac adnoddau. Mae cynnydd yn lleihau pan fydd y math yma o waith yn cael ei arwain gan staff sydd wedi’u gorymestyn. Mae Pencampwyr Digidol angen cefnogaeth, eu cydlynu a’u hannog. Maent yn hoffi cyfnewid syniadau, straeon a phryderon. Maen nhw eisiau gwrando a dysgu, wrth gael eu clywed.
Mae partneriaethau yn cryfhau’r gweithredu
Mae llawer o aelodau ein rhwydwaith bellach yn gweithio mewn partneriaethau lleol. Mae yna Bencampwyr ar fysiau iechyd a lles. Mae llyfrgelloedd cymunedol yn creu ardaloedd Pencampwyr Digidol pwrpasol. Mae gan un siop offer anabledd Pencampwyr sy’n helpu cwsmeriaid i adnewyddu bathodynnau glas ar-lein. Mae’r holl enghreifftiau yma yn cydnabod bod creu dull cydgysylltiedig, sy’n gallu rhannu adnoddau, yn cyflawni mwy am lai. Mae’n ei gwneud yn haws i’r buddiolwyr terfynol gael mynediad at y cymorth sgiliau sydd ei angen arnynt.
Mae cefnogi ein gilydd yn sicrhau cynhwysiant digidol cynaliadwy
Nid oes rhaid i chi fod yr un maint â Mencap i greu model Pencampwyr Digidol. Dim ond llond llaw fach o Bencampwyr Digidol sydd gan lawer o’r elusennau rydym yn gweithio â nhw. Maent yn galluogi eraill ac yn galluogi eu hunain.
Gwyddom nad yw cynhwysiant digidol yn hawdd. Ond mae model Pencampwyr Digidol yn ffordd i’w gyflawni sydd wedi’i brofi. Gellir ei ehangu ac mae’n gynaliadwy. Mae’n ysgogi sgiliau digidol eang ac yn effeithio ar newid cymdeithasol ehangach. Mae’n hanfod cymdeithas ble mae pawb yn cefnogi ei gilydd i ffynnu.
Darllenwch am brosiect lle defnyddiodd y sefydliad pencampwyr digidol.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst