star

Strategaeth ddigidol: sut i gamu’n hyderus ar eich taith o newid

Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 1 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Mae datblygu strategaeth ddigidol yn cyflwyno newid.

Newidiadau i’r rolau sydd gan bobl.

Newidiadau i sut mae eich pobl a’ch timau yn rhyngweithio.

Newidiadau i’r gwaith rydych chi’n ei wneud.

Newidiadau i sut rydych chi a’ch pobl yn gweithio â’ch gilydd.

Wrth i chi feddwl am y newidiadau yma a’u rhoi ar waith, bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar eich pobl.

Mae llawer o’r gefnogaeth yma yn ymwneud â chydnabod teimladau a rhoi gofal i berthnasoedd.

Sesiwn micro-ddysgu ar newid digidol

Mae’r sesiwn micro-ddysgu hon yn eich helpu i feddwl am y daith sydd o’ch blaen a sut i helpu pobl i fod yn fodlon i gerdded ochr yn ochr â chi.

Mae’n 15 munud o hyd.

Cydnabyddiaeth

Datblygwyd gan Cat Ainsworth o DOT PROJECT ar gyfer y rhaglen Beyond yn 2021.

Mae delwedd taith drawsnewid yn seiliedig ar gromlin newid Kubler-Ross.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst