star

Ymddiriedolwyr digidol: sut i ddeall pa fath sydd ei angen

Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Mae ymddiriedolwyr eich elusen yn defnyddio amrywiaeth o ddoethineb a sgiliau i arwain eich sefydliad. Efallai bod gennych ymddiriedolwyr sydd yn arwain ar gyllid, strategaeth, gweithrediadau, cyfathrebu ac ati.

Ond oes gennych chi ymddiriedolwr digidol?

Ymddiriedolwr gyda doethineb digidol a phrofiad o weithio yn y sector digidol?

Ymddiriedolwr sydd yn helpu’ch sefydliad i dyfu’n ddigidol?

Os nad oes gennych chi ymddiriedolwr digidol bydd yn llawer anoddach i chi dyfu.

“Mae 58% o elusennau yn credu bod sgiliau digidol isel neu le i wella ymysg aelodau eu bwrdd. Dyw 68% o’r rhain ddim yn glir, neu heb gynllun, ar sut i dyfu’r sgiliau yma” – Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennol 2021

Sut mae ymddiriedolwr digidol yn helpu

Bydd ymddiriedolwr digidol yn:

  • Cyflwyno arbenigedd digidol i drafodaethau bwrdd – felly rydych chi’n ystyried cyfleoedd ac effeithiau digidol yn eich penderfyniadau
  • Hyrwyddo digidol o fewn eich tîm – fel bod eraill yn dod yn ymwybodol o’i bwysigrwydd
  • Helpu i adeiladu llythrennedd digidol eich bwrdd – fel y gall pawb feddwl am sut y gall digidol gryfhau strategaeth a gweithrediadau
  • Helpu pob ymddiriedolwr i rannu cyfrifoldeb am ddigidol – fel y maent mewn meysydd eraill
  • Helpu gyda phrosiectau digidol penodol o bryd i’w gilydd (ond nid dyma’r prif bwrpas)

Mae pobl ddigidol eisiau bod yn ymddiriedolwyr

Nid yw’r DU yn brin o arbenigwyr digidol sydd â diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwyr elusen. Mae eu rhesymau’r un fath ag unrhyw un arall:

  • Maent yn teimlo’n angerddol am fater 
  • Maent yn sylweddoli fod ganddynt sgiliau a phrofiad y gall elusennau gael budd ohonynt
  • Maent am ennill profiad, gan gymhwyso sgiliau mewn ffyrdd newydd i feysydd newydd
  • Maent eisiau’r wobr o wneud cyfraniad ystyrlon i eraill

Mae 3 miliwn o bobl (10% o weithlu’r DU) yn gweithio yn y diwydiant technoleg neu ddigidol. Mae hynny’n llawer o ddarpar ymddiriedolwyr i ddewis ohonynt. Ar hyn o bryd, mae digwyddiadau paru ymddiriedolwyr digidol y Third Sector Lab  yn denu mwy o bobl ddigidol sydd eisiau bod yn ymddiriedolwyr yn hytrach nag elusennau yn chwilio am ymddiriedolwr digidol.

Gall pobl ddigidol gynnwys rhai sy’n gweithio yn y maes:

  • Cyfathrebu digidol a marchnata
  • Datblygu cynnyrch (gwefannau a rhaglenni)
  • Cynllunio gwasanaeth
  • Rheoli data

A disgyblaethau ac is-sectorau digidol eraill.

Sut i ddeall yr hyn rydych chi ei angen

“Dewch o hyd i ymddiriedolwr digidol i’ch helpu i feddwl yn strategol am ddigidol, nid am fod gennych chi brosiect digidol rydych chi angen cymorth ag ef” – Ross McCulloch, Third Sector Lab

Weithiau mae’n anodd i elusennau feddwl beth sydd ei angen arnynt – boed hyn yn ymddiriedolwr neu’n rhywun i’w helpu ar brosiect tymor byr.

Os ydych chi angen help digidol ar brosiect…

…ac nid ydych yn ystyried newid sefydliadol na thwf drwy ddigidol…

…yna rydych chi eisiau caffael rhywun sydd â set sgiliau digidol penodol sydd yn addas ar gyfer eich prosiect. Gallant eich helpu i feddwl am ddatrysiad a rhoi hwnnw ar waith.

Mae’n debyg eich bod angen gweithiwr llawrydd neu asiantaeth. Mae’n debyg y byddwch yn talu cyfraddau elusen safonol iddynt. Os ydych chi’n ffodus efallai y byddant yn eich helpu pro-bono (er nid opsiynau am ddim yw’r gorau bob tro).

 Os ydych chi angen cymorth i feddwl am ddigidol ar draws eich sefydliad…

…ac rydych chi eisiau:

  • her i’ch elusen i ddefnyddio digidol yn well
  • mwy o fewnwelediad i gyfleoedd digidol nad ydych yn ymwybodol ohonynt
  • cymorth i ymddiriedolwyr eraill ddod yn fwy deallus yn ddigidol
  • dod â digidol yn ddyfnach i’ch strategaeth

Yna mae angen arbenigedd digidol arnoch ar lefel Bwrdd – ymddiriedolwr digidol.

Tri math o ymddiriedolwr

Mae model tair haen o ymddiriedolwyr digidol Reach Volunteering yn parhau i fod yn berthnasol. Rydym wedi ail-weithio hwn rhywfaint, ac wedi dileu beth fyddai pob math o ymddiriedolwr yn ei wneud.

Haen 1: Cyffredinol – ar gyfer sefydliadau bach a’r rhai sydd yn cychwyn gyda digidol

Haen 2: Arbenigwr cyffredinol – ar gyfer sefydliadau sydd â seilwaith digidol da sydd yn awyddus i feithrin gallu mewn rhai meysydd penodol

Haen 3: Arbenigwr gwasanaeth – ar gyfer sefydliadau â phrofiad digidol sydd am arloesi a darparu mwy o wasanaethau digidol

Pa fath o ymddiriedolwr sydd ei angen ar eich elusen?

1. Cyffredinolwr

Rydych chi angen cyffredinolwr os:

  • Rydych yn elusen fach neu’n cychwyn gyda digidol, neu
  • Mae gennych seilwaith digidol sylfaenol (ac mae’n debyg nad oes strategaeth ddigidol)

Bydd cyffredinolwr yn:

  • Deall potensial digidol a’r dirwedd ddigidol
  • Meddu ar wybodaeth eang mewn llawer o feysydd, hyd yn oed os ydynt yn arbenigo mewn un
  • Bod â chysylltiadau da â phobl ddigidol eraill
  • Meddu ar allu gwych i esbonio termau a jargon technoleg mewn ffyrdd sydd yn ddealladwy i weddill y Bwrdd
  • Awyddus i rymuso’r Bwrdd

2. Arbenigwr-Cyffredinol

Rydych chi angen arbenigwr cyffredinol os:

  • Rydych yn elusen sydd â sylfaen gadarn o arfer digidol
  • Rydych chi eisiau datblygu ymhellach mewn meysydd digidol penodol

Bydd gan arbenigwr cyffredinol holl rinweddau cyffredinolwr (mae’r rhain yn parhau i fod  yn bwysig!), ynghyd â:

  • Gwybodaeth a phrofiad mewn meysydd penodol yr ydych yn dymuno datblygu
  • Y gallu i arwain ffyrdd newydd o weithio mewn maes penodol

Efallai yr hoffech chi ddatblygu disgrifiad rôl fwy penodol ar gyfer arbenigwr cyffredinol nag y byddech chi i gyffredinolwr.

3. Arbenigwr gwasanaeth

Rydych chi angen arbenigwr gwasanaeth os:

  • Mae’r Bwrdd yn hyderus yn ddigidol (efallai bod gennych chi gyffredinolwr yn barod)
  • Mae eich sefydliad yn defnyddio digidol yn hyderus ar draws ei weithrediadau mewnol
  • Rydych chi eisiau datblygu eich gwasanaethau digidol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf

Os ydych chi yn y sefyllfa yma, yna mae’n debyg eich bod chi’n gwybod digon i wybod yr hyn nad ydych chi’n gwybod! Felly gallech chi feddwl am hyn wrth benodi arbenigwr.

Bydd gan arbenigwr gwasanaeth holl rinweddau cyffredinolwr ac arbenigwr cyffredinol. Byddant hefyd yn:

  • Deall arfer gorau wrth ddylunio gwasanaethau digidol (gan gynnwys ymchwil defnyddwyr, prototeipio, cyflwyno a chynnal gwasanaethau digidol)
  • Profiad o weithio gyda thimau cynnyrch gan ddefnyddio dulliau ystwyth i gynllunio ac adeiladu
  • Bod yn brofiadol mewn caffael asiantaethau digidol a gweithwyr llawrydd

Bydd angen disgrifiad rôl benodol arnoch ar gyfer arbenigwr gwasanaeth. ‍

Adnoddau defnyddiol

Credyd delwedd: gdsteam ar Flickr. Trwyddedig o dan Creative Commons 2.0

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst