Cymorth Digidol
Cefnogi’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus gyda digidol i’ch helpu chi i oroesi heriau a gwella gwasanaethau.

Mae ProMo Cymru yn partneru â’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi, creu, gwasanaethau tecach sy’n cael eu cynllunio a’u cyflawni gyda phobl.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ddegawdau o ddarparu gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma gyda hyfforddiant, ymgynghoriad, darpariaeth a chreu partneriaethau hirdymor er budd pawb.