Goleuadau, Camera, Cynhwysiant: Siwrne TikTok Pobl yn Gyntaf

Person holding mobile phone with TikTok app open.

Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Y Fenter yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

Beth yw Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan?

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad ar gyfer ac arweinir gan rhai gydag anableddau dysgu. Mae’r sefydliad yn disgrifio ei hun fel ‘llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a phobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru’.

All Wales People First logo

Pa broblem oedd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn wynebu?

Daeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan at ProMo Cymru am gymorth trwy’r gwasanaeth DigiCymru.

Roeddent yn awyddus i greu cyfrif TikTok ond ddim yn gwybod ble i gychwyn. Nid oedd gan y staff na’r gwirfoddolwyr brofiad yn creu cynnwys fideo. Nid oeddent yn deall llawer am sut roedd TikTok yn gweithio nac am y pethau pwysig i’w hystyried, fel gosodiadau preifatrwydd a rhagofalon diogelwch wrth ddefnyddio’r app.

Roeddent angen cyngor arbenigol heb y gost felly daethant at ein gwasanaeth cymorth digidol am ddim i gychwyn.

TikTok logo

Dysgu sut i greu cynnwys ar Zoom

Cafodd Lucy Palmer, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo Cymru, gyfarfod gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar Zoom.

Ar ôl deall y broblem, rhannodd Lucy, sydd wedi creu llawer iawn o gynnwys fideo byr i ProMo, sut y mae hi’n defnyddio’r app. Rhannodd gyfarwyddiadau cam wrth gam i greu a golygu fideo wrth rannu sgrin ei iPad gyda’r rhai ar yr alwad Zoom.

Roeddent yn gallu gweld sut i greu fideo a’i olygu mewn amser go iawn yn defnyddio TikTok. Awgrymwyd CapCut, adnodd golygu arall, hefyd. Mae CapCut yn adnodd creu a golygu fideo sydd yn gallu cysylltu i TikTok. Mae’n cynnig amrywiaeth eang o dempledi hwyl, deniadol, am ddim gellir eu defnyddio i greu fideos yn sydyn ac yn hawdd.

Cadw’n ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol

Mae sefydliadau yn aml yn poeni am beryglon cyfryngau cymdeithasol, ac os dylent gysylltu gyda’r llwyfannau yma.

Y newyddion da ydy bod gan y mwyafrif o apiau cyfryngau cymdeithasol adnoddau i helpu amddiffyn y rhai sydd yn eu defnyddio rhag niwed. Rhannodd Lucy ein cyngor arfer da, gan gynnwys manteision ac anfanteision rhai nodweddion a sut i liniaru’r risg. I egluro hyn defnyddiwyd ein profiad personol, gan rannu’r hyn dysgwyd yn ein hymgyrch ymwybyddiaeth Pride Caerdydd: Mwy Na Mis.

Cafodd sawl fideo ei rannu ar TikTok yn cyfweld y bobl ifanc yn Pride Cymru. Llwyddodd un fideo i fynd yn feirol, gyda dros 3.5 miliwn yn gwylio. Tra bod hyn yn llwyddiant mawr, daeth hefyd â llith o sylwadau negyddol a homoffobig.

I amddiffyn y bobl ifanc oedd yn rhan o’r ymgyrch, yn ogystal â’n cynulleidfa, defnyddiwyd yr hidlydd sylwadau ar TikTok i fynd trwy’r sylwadau. Ni oedd yn dewis pa sylwadau oedd yn cael ei gyhoeddi ar y post. Dysgwyd hefyd sut i osod hidlydd i atal geiriau penodol rhag ymddangos yn y sylwadau.

Canlyniadau

O ganlyniad sesiynau DigiCymru Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, mae cyfrif TikTok wedi ei greu. Mae hidlydd sylwadau wedi ei osod i gael mwy o reolaeth dros sylwadau ac i amddiffyn y bobl sydd yn cymryd rhan yn y fideos.

I greu cynnwys, roeddent am ddefnyddio unrhyw ddigwyddiadau roeddent yn ei fynychu fel cyfle i ffilmio cynnwys am yr hyn sydd yn digwydd a chyfweld â rhai oedd yn cymryd rhan. Cyfle i ymarfer y sgiliau dysgwyd yn ystod y sesiynau DigiCymru.

Ewch draw i weld TikTok Pobl Yn Gyntaf Cymru Gyfan yma a dilynwch.

Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol.

I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

Halyna Soltys
16 Ionawr 2024

star

Astudiaethau Achos DTS

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889