Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ffiniau: Mewnwelediadau o Gatalonia

Catalan Youth Agency visit to Wales in 2018

Llynedd, fel rhan o daith gyfnewid a ariannwyd gan Taith, ymwelodd ein tîm â Chatalonia, ynghyd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i archwilio eu systemau gwybodaeth ieuenctid.

Rydym yn awyddus i rannu rhai o’n mewnwelediadau a’n cymariaethau â Chymru. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn ystod y daith, mae mwy am hynny yma.

Pam Cymru a Chatalonia?

Yn 2018, ymwelodd Asiantaeth Ieuenctid Catalonia â ProMo Cymru i archwilio ein gwasanaethau.

Mae Catalonia a Chymru yn debyg o ran llywodraethu, iaith a diwylliant, gyda llywodraethau datganoledig yn ymdrin ag addysg ac iechyd. Mae’r ddau ranbarth yn wynebu heriau sy’n ymwneud â dwyieithrwydd a darpariaeth gwasanaethau gwledig.

Catalonia – Cydgysylltu Canolog

Mae Generalitat Catalonia yn cydlynu gwasanaethau ieuenctid trwy rwydwaith Xarxa Nacional d’Emancipació Juvenil (XNEJ). O fewn y rhwydwaith mae Agència Catalana de la Joventut yn gweithredu polisïau, yn rheoli rhaglenni, ac yn cydweithio â sefydliadau lleol.

Mae’r XNEJ yn cynnig cymorth cyflogaeth, cymorth tai, arweiniad addysgol, adnoddau iechyd a mwy. Mae dros 300 o Bwyntiau Gwybodaeth Ieuenctid. Er bod y model hwn yn darparu unffurfiaeth, mae biwrocratiaeth yn ei gwneud yn anodd addasu a dyrannu adnoddau.

Cymru – Hyblygrwydd Datganoledig

Mae gwasanaethau ieuenctid ac addysg wedi’u hintegreiddio o fewn Adran Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae’r dull datganoledig yn caniatáu hyblygrwydd ac arloesedd gydag awdurdodau lleol yn teilwra gwasanaethau i anghenion cymunedol. Mae sawl sefydliad lluosog yn cynnig cymorth amrywiol mewn lleoliadau fel ysgolion, canolfannau cymunedol a llwyfannau ar-lein

Gall hyn arwain at anghysondebau o ran ansawdd ac argaeledd gwasanaethau sydd yn arwain at gefnogaeth anghyson, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

Cymariaethau allweddol

Mae’r ddau ranbarth yn wynebu heriau tebyg, yn enwedig o ran hygyrchedd gwasanaethau gwledig a chynnal ieithoedd lleol.

Mae Catalonia yn integreiddio iechyd mewn gwasanaethau ieuenctid yn fwy effeithiol, gyda chymorth iechyd pwrpasol mewn lleoliadau fel Canolfan Iechyd Ieuenctid Girona.

Mae’r cynghorwyr iechyd yno yn cael eu hystyried fel gweithwyr ieuenctid,  sydd yn gwella darpariaeth ac yn creu canolfannau iechyd gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig sydd yn canolbwyntio ar ieuenctid.

Mae pobl ifanc yn 12-35 yng Nghatalonia (11-25 yng Nghymru). Maent yn cynnig cymorth cynhwysfawr ar bethau fel cyflogaeth a thai, ond gallai’r ystod oedran ehangach yma roi straen ar adnoddau. Gall Cymru gynnig cymorth wedi’i dargedu i’n hystod oedran llai ond nid i oedolion ifanc hŷn sy’n trosglwyddo i annibyniaeth.

Outside Girona Youth Health Centre

Heriau Integreiddio Digidol

Mae gwasanaethau ieuenctid Catalonia yn dibynnu’n fawr ar ymgysylltu wyneb yn wyneb gydag adnoddau digidol cyfyngedig, ond gallai’r amgylchedd ffurfiol, tebyg i swyddfeydd sydd i’w cael mewn rhai canolfannau annog pobl ifanc i beidio ag ymgysylltu. Gwelsom rai elfennau digidol yn ystod ein hymweliad â chlwb ieuenctid Breda, fel gemau a chystadleuaeth gwneud fideos.

Gallai ymgorffori ymgysylltu digidol gyrraedd y rhai sydd yn osgoi neu’n cael trafferth gyda gwasanaethau wyneb yn wyneb. Mae prosiectau ProMo fel Sprout a Meic, ynghyd â thîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, yn dangos sut mae platfformau ar-lein yn gallu gwella hygyrchedd i bobl ifanc.

Cerdyn hawliau ac apiau

Gyda dros 500,000 o ddefnyddwyr, mae cerdyn hawliau Catalonia yn canolbwyntio ar ostyngiadau yn hytrach na rhannu gwybodaeth yn ddigidol. Ymddangosai fel nad oedd apiau a chardiau wedi’u datblygu’n ddigonol, gyda diffyg diweddariadau ac ymgysylltiad isel. Roedd rhai gweithwyr proffesiynol yn pryderu am bartneriaethau â brandiau sy’n hyrwyddo cynhyrchion sydd ddim yn iach.

Welsh Youth Implementation Board members meeting the Catalan Director General of Youth, Rut Ribas.

Dysgu gan ein gilydd

Gallai Cymru fabwysiadu cydgysylltu canolog Catalonia, cerdyn hawliau ieuenctid, a gweithwyr iechyd ieuenctid. Gallai Catalonia elwa o ddulliau digidol Cymru. Gallai cyfuno ein dulliau wella cymorth ieuenctid a mynediad at wybodaeth.

Tania Russell-Owen
23 Awst 2024

star

Newyddion

star

Gwybodaeth

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]

star

Newyddion

Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889