Croeso Molly

Two people working on a joint table. One persons laptop screen is visible, and they are working on a website.

Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Molly Brown i’r tîm fel Dylunydd Cyfryngau Digidol ac Animeiddiwr Iau ar interniaeth â thâl.

Mae Molly yng nghanol ei hail flwyddyn yn astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Gyda phrofiad animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’r tîm ac yn awyddus i ehangu ei ymwybyddiaeth o’r diwydiant cynhyrchu cyfryngau.

Molly, a young female employee, standing with her arms folded cross behind a professional camera on a tripod.

Mae rôl Molly ar ein tîm Cyfryngau yn cynnwys:

  • Creu dyluniadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau wedi’u hargraffu
  • Helpu gyda sawl agwedd o gynhyrchu cyfryngau
  • Cyfrannu at raffeg symud a phrosiectau animeiddio
  • Cynorthwyo yn ein gweithdai a sesiynau hyfforddiant.

“Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm ProMo Cymru ac i gael cyfrannu i’r holl brosiectau anhygoel mae’r sefydliad yn gweithio arnynt. Edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am y diwydiant cynhyrchu cyfryngau ac i ddilyn fy angerdd dros olygu fideo a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chymunedau. Fy nod ar gyfer y dyfodol yw bod yn ddylunydd cyfryngau digidol!”

Croeso i’r tîm, Molly!

Halyna Soltys
30 Ebrill 2024

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.  Gwybodaeth am y prosiect ymchwil  Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng […]

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889