Croeso Simran

Image of

Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Simran Sandhu fel ein Swyddog Datblygu Cyllid newydd!

Cychwynnodd siwrne Simran gyda ProMo Cymru yn 2018, gyda rôl profiad gwaith o fewn tîm yr adran Cyfrifeg a Chyllid.

Yn dilyn graddio o Brifysgol Caerfaddon gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid  yn 2022, bu Simran yn gweithio fel Rheolwr Cynnyrch mewn cwmni nwyddau tŷ cyn dewis dychwelyd i ProMo a thrawsnewid yn ôl i’r maes cyllid ym mis Rhagfyr 2023.

Image of Simran wearing a light purple sweater. She is presenting in front of a room of engaged staff.

“Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o ddatblygiad ariannol ProMo a dysgu sut i ddefnyddio systemau ac adroddiadau digidol i gynyddu effeithlonrwydd. Mae delio â sefydliad sydd â dau endid gwahanol yn her yr wyf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy amdani,” meddai Simran.

“Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn yn ôl yn ProMo ac mae’r gefnogaeth y mae pawb wedi’i ddangos wedi bod yn amhrisiadwy. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac mae amrywiaeth y cyfleoedd yn braf.”

Croeso i’r tîm Simran!

Halyna Soltys
5 Mawrth 2024

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889