Llwyddiant ProMo yn Ail-dendro am Linell Gymorth Meic
Mae ProMo-Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn y cytundeb i gynnal y gwasanaeth llinell gymorth Meic, wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru am hyd at £2.3 miliwn o bunnoedd. Bydd y gwasanaeth yn parhau i redeg am bum mlynedd arall, yn ddibynnol ar adolygiad.
Mae Meic yn llinell gymorth wedi ei sefydlu ar hawliau yn targedu plant a phobl ifanc dan 25 yng Nghymru. Mae ProMo wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ers 2009, yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ddwyieithog yn ddienw, cyfrinachol ac am ddim 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Eiriolwyr Gynghorwyr y Llinell Gymorth ar gael rhwng 8yb a hanner nos bob dydd ar y ffôn, neges testun neu negeseuo sydyn.
Mae Meic yn rhywun ar eu hochr nhw, yn darparu gofod diogel gellir dibynnu arno. Rydym yn galluogi plant a phobl ifanc i fynegi barn, dymuniadau a theimladau a’u cefnogi i sicrhau bod rhywun yn gwrando, yn clywed ac yn gweithredu.

Sut mae Meic yn gweithio?
Defnyddir canolfan galw rhithiol diogel sydd yn golygu gellir cynnal y gwasanaeth o unrhyw le. Roedd hyn yn fuddiol iawn yn ystod y pandemig COVID gan nad oedd toriad yn y gwasanaeth nac cwtogiad yn yr oriau agor; yr unig linell gymorth yn y DU i gyflawni hyn. Sicrhawyd hefyd bod negeseuon ac ymgyrchoedd pwysig yn cael eu cynhyrchu a’u rhannu yn y cyfnod yma mewn ffurf oedd yn gyfeillgar i ieuenctid.
Mae gan Meic wefan hygyrch a chyfeillgar i ieuenctid hefyd gyda llawer o flogiau cynorthwyol yn llawn gwybodaeth. Mae ymgyrch gwybodaeth newydd yn cael ei greu bob chwarter ar ein gwefan a’n tudalennau cymdeithasol, yn canolbwyntio ar themâu penodol sydd yn aml yn cael eu hadnabod trwy gysylltiadau i’r wefan. Yn 2018 gwelwyd bod tueddiad cynyddol o reolaeth orfodol mewn perthnasau. O hyn daeth ymgyrch Perthnasau Iach a chreu Pili-pala, cerdd gair llafar wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan bobl ifanc, a enillodd wobr Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online y flwyddyn honno.
Mae gwybodaeth a negeseuon pwysig yn cael eu rhannu’n rheolaidd ar draws sawl sianel, gan gynnwys y wefan, YouTube, Facebook, Twitter, Instagram, ac, yn fwy diweddar, TikTok. Roedd tyfiant enfawr i gyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar-lein yn ystod y pandemig. Roedd cynyddiad o 1715% mewn ymgysylltiad yn ystod 2020-2021. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd ag ail-ddylunio dyluniadau a brandio Meic ar draws ein holl lwyfannau a sianeli, yn gweithio gyda thimau Cyfathrebu ac Amlgyfryngau ProMo i greu delweddau a fideos ffres a deniadol.
Mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn buddio o wasanaeth llinell gymorth Meic wrth iddynt chwilio am gyngor ar sut i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc maent yn gweithio â nhw, yn cyfeirio at y gwasanaeth Meic ac yn defnyddio’r adnoddau sydd gennym ar wefan Meic a chynlluniau gwers wedi’u creu i ysgolion ar Hwb.

Ein dull o weithredu
Mae ein cynghorwyr wedi’u hyfforddi yn y fodel stopio, cychwyn, newid, gan ymgorffori dull byr o ganolbwyntio ar ddatrysiad a defnyddio archwilio, herio a chynllunio gweithrediad yn benodol i bob cyswllt unigol a’u problem nhw. Anogir iddynt egluro ac ystyried y newid hoffant ei gyflawni.
Mae Meic yn gweithredu o fewn paramedrau diogelu ac yn aml yn derbyn cysylltiadau sydd angen eu cyfeirio at awdurdodau diogelu wedi iddynt ddatgelu rhywbeth yn ymwneud â nhw’u hunain a/neu ffrindiau neu berthnasau.
Rydym yn aml yn talu pobl ifanc am eu hamser a’u mewnwelediad ac yn cyflogi pobl ifanc i weithio ar ymgyrchoedd cyfathrebu Meic. Mae ProMo wedi cyflogi sawl person ifanc, yn 2021 roedd person ifanc yn gyfrifol am greu ymgyrch, gwybodaeth ac adnoddau LDHTC+.
Yn y dyfodol
Byddem yn parhau i wella Meic gyda dull Cynllunio Gwasanaeth ac yn cynnwys plant a phobl ifanc i gyflawni hyn. Ein prif flaenoriaethau gyda’r cytundeb newydd ydy cydgynllunio a pharhau i gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddatblygu ac arbrofi arloesiad technegol, gan ganolbwyntio’n syth ar wella’r cyfleoedd i negeseuo’n syth trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol fel dewis gwahanol i’r wefan.
Byddem yn edrych ar adnewyddu ac arloesi brandio a dyluniadau Meic yn barhaol i gefnogi presenoldeb cryf ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol defnyddir gan blant a phobl ifanc. Yn ddiweddar rydym wedi cychwyn sianel TikTok newydd ac wedi newid ychydig o’n dyluniadau i ganolbwyntio mwy ar fideo er mwyn creu cynnwys sydd yn briodol ar gyfer TikTok a Reels. Y bwriad ydy parhau i arloesi a thyfu ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol ymysg y rhai sydd efallai ddim yn cysylltu gyda gwasanaethau traddodiadol.
Rydym hefyd yn bwriadu cynnal a gwella perthnasoedd gweithio cydweithredol gyda hapddalwyr presennol a datblygu a chynnal rhai newydd.
Am wybodaeth bellach am linell gymorth Meic, cysylltwch â’n Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol – Stephanie Hoffman.
Tania Russell-Owen
22 Medi 2022
Newyddion
Meic
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd
Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]
Cynllunio Gwasanaeth
Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent
Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]
Cydgynllunio
Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid
Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]