Deallusrwydd Artiffisial – Beth yw’r Holl Ffwdan?
Mae’n teimlo fel bod pawb ym mhobman yn siarad am AI’r dyddiau hyn. Ond a ddylai trydydd sector Cymru fod yn troi tuag ato i helpu gyda’u gwaith? Arhoswch efo ni i ddysgu mwy.
Beth yw Deallusrwydd Artiffisial (AI)?
Meddyliwch am AI fel ymennydd cyfrifiadurol deallus sydd yn gallu dysgu i wneud pethau fel y gallwn ni. Mae’n gallu deall a dysgu o wybodaeth ac yn gallu gwneud penderfyniadau.
Edrychwch ar eich bywyd bob dydd ac mae’n debyg y bydd deallusrwydd artiffisial o’ch cwmpas heb i chi sylweddoli. Efallai’n awgrymu pa ffilm neu sioe deledu i wylio nesaf, yn helpu eich cyfrifiadur i’ch deall pan fyddech chi’n siarad ag ef, ac (yn y dyfodol agos iawn yn y DU) yn gyrru’r car i chi.
Mae AI yn gallu gwneud pethau’n fwy sydyn, yn fwy clyfar, ac yn fwy cyfleus i’r defnyddiwr. Mae’n dysgu o’r wybodaeth sydd yn cael ei roi, ac yn gwella yn cwblhau tasgau, yn union fel yr ydym ni’n dysgu o’n profiadau. Mae’n datblygu o hyd ac yn dod yn fwy cywir dros gyfnod.
Sut gall AI eich helpu chi gyda’ch gwaith?
Mae elfennau o AI yn y systemau a’r meddalwedd rydym yn ei ddefnyddio bob dydd. Esiampl o hyn yw Google Search sydd yn cael ei bweru gan AI, yn helpu peiriannau chwilio i ddarganfod gwybodaeth yn sydyn. Gall AI ddysgu llawer o ddata yn sydyn a chyflwyno allbwn mewn mater o eiliadau. Golygai hyn eich bod yn cael atebion i’ch problemau mewn ffordd effeithiol iawn.
Un o fuddiannau mwyaf cyffredin deallusrwydd artiffisial yw’r gallu i awtomeiddio gwaith diflas gyda llai o gamgymeriadau. Er enghraifft, defnyddio AI i yrru nodyn atgoffa cyfarfodydd neu i ddiweddaru gwybodaeth mewn cronfa ddata. Mae peiriant yn dysgu o batrymau, felly mae’n cadw’r gwaith digidol yma yn gywir ac yn ddibynadwy, gan nad oes camgymeriadau dynol. Os yw AI yn cymryd y tasgau ailadroddus, fel trefnu ffeiliau neu e-byst, mae’n arbed amser, a gallem ni ganolbwyntio ar dasgau sydd yn bwysicach neu’n fwy diddorol.
Mae chatbots sydd yn cael eu pweru gan AI wedi tyfu yn eu poblogrwydd. Mae sawl canolfan gwasanaethau cwsmer yn defnyddio chatbots i helpu pobl i ddatrys problemau. Er bod lle i wella, y syniad yw bod problemau llai yn gallu cael eu datrys gan chatbot. Yna, mae person go iawn yn gallu rhoi cymorth cynt i’r rhai sydd â phroblemau mwy cymhleth.
Mae AI wedi datblygu i fod yn fwy nag testun yn unig. Mae cyfrifiaduron yn gallu deall iaith ddynol gan ddefnyddio AI. Pan fyddech chi’n siarad â’ch cyfrifiadur, ffôn, neu ddyfais glyfar, mae’n deall yr hyn sydd yn cael ei ddweud. Os ydych chi wedi defnyddio Alexa gan Amazon, Siri gan Apple, neu Google Assistant, yna rydych chi wedi cyfathrebu ag AI. Agwedd mwy newydd o AI yw’r gallu i greu cynnwys sydd ddim yn destun, fel cerddoriaeth, gwaith celf a graffeg.
Beth yw’r peryglon a’r heriau o ddefnyddio AI?
Mae AI yn gwella drwy’r adeg, ond mae angen bod yn wyliadwrus ac ystyried y problemau posib wrth ei ddefnyddio.
Un o broblemau AI yw ei fod yn dysgu o ddata sydd yn cael ei ddarparu gan bobl. Os yw’r data yma yn anghywir, annibynadwy, neu’n annheg, mae’n gallu cael effaith ar benderfyniadau AI. Er yn anfwriadol o bosib, mae gan bob system AI fiasau yn ddibynnol ar y sawl sydd wedi’i greu ac wedi mewnbynnu’r data. Gallai hyn effeithio ar bethau fel pwy sydd yn cael benthyciad neu swydd. Yn y dwylo anghywir, gall hyn olygu bod peiriannau yn dysgu pethau peryglus. Mae hyn yn amlygu’r pwysigrwydd o foesau wrth ddatblygu offer digidol AI.
Mae nifer o bobl yn poeni y bydd AI yn dileu’r angen am bobl i wneud swyddi. Yn yr un modd, mae yna bryderon y bydd dibynnu gormod ar AI yn gallu gwneud pobl yn fwy dibynnol ar beiriannau, gan arwain at golli sgiliau neu wybodaeth bresennol. Er esiampl, mae defnyddio tiliau awtomataidd mewn siopau yn golygu nad oes angen aelod o staff wrth bob til. Mae yna ddadl i’r gwrthwyneb sydd yn awgrymu bod gostyngiad mewn rhai swyddi yn arwain at gynyddiad mewn eraill – fel mecaneg i drwsio’r peirannau a pheiriannydd i ddatblygu’r AI.
Mae yna bryderon preifatrwydd a diogelwch ynghlwm â AI hefyd. Peryglon fel hacio systemau AI a’i ddefnyddio mewn modd negyddol, fel rhannu gwybodaeth ffug. Gan fod AI yn cael mynediad i ddata preifat, fel ein gweithgareddau ar-lein a gwybodaeth gyswllt, gall peryglon fel hacio arwain at broblemau preifatrwydd os nad yw’r wybodaeth yma wedi ei gadw’n ddiogel.
Archwilio gallu AI
Y ffordd orau i ddeall gallu dealltwriaeth artiffisial yw wrth archwilio eich hun.
Pwynt cychwyn da yw defnyddio ffynhonnell OpenAI am ddim fel Google Bard neu ChatGPT (3.5) i ddod i ddeall gallu AI. Teipiwch eich awgrym yn y blwch chwilio ac edrychwch ar y canlyniadau.
Archwiliwch feddalwedd rydych chi’n defnyddio ar gyfer eich gwaith eisoes, fel Canva. Mae’n gallu bod yn ffordd dda i archwilio gallu AI sydd ddim yn destun. Gwybodaeth bellach am hyn yma.
Gwrandewch ar y podlediad ERYICA yma wedi ei gyflwyno gan Bennaeth Datblygiad ProMo-Cymru, Arielle Tye, yn archwilio’r effaith mae AI yn ei gael ar wybodaeth ieuenctid digidol. Ceir sgwrs â Alexandre Sayad, academydd ac ymchwilydd AI a moeseg a chyd-gadeirydd Cynghrair Gwybodaeth a Llythrennedd Cyfryngau UNESCO.
Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd mae AI yn gweithio, yna mae gwefannau fel Coursera a edX yn cynnig cyrsiau am ddim a rhai gellir talu amdanynt ar AI a dysgu peiriant.
Os hoffech archwilio sut gall AI helpu eich sefydliad Trydydd Sector ymhellach, neu os oes gennych chi unrhyw broblemau pellach hoffech gyngor arno, yna beth am sesiwn am ddim DigiCymru gydag un o’n harbenigwyr digidol? Manylion pellach yma.
Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol.
I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Halyna Soltys
4 October 2023
Adnoddau DTS
Related Articles
Newyddion
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]