Profiadau Pobl Ifanc o Gymorth Iechyd Meddwl Gwent

Fel rhan o Brosiect Meddwl Ymlaen Gwent, bu pobl ifanc Gwent yn helpu ymchwilio anghenion cymorth iechyd meddwl i wella gwasanaethau iddyn nhw a phobl ifanc eraill.
Beth yw Meddwl Ymlaen Gwent?
Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect pum mlynedd sydd yn cael ei redeg gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd ac yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys sefydliadau Mind lleol a gwasanaethau ieuenctid yng Ngwent.
Mae’r prosiect MYG yn dilyn proses Cynllunio Gwasanaeth, methodoleg sydd yn creu gwasanaethau gwell. Mae pedwar cyfnod i’r broses yma – Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni.


Yr ymchwil
Cychwynnom y prosiect gyda darn o ymchwil Darganfod. Roeddem eisiau deall anghenion pobl ifanc Gwent a’r dirwedd cymorth yn well.
Y nod yw cynllunio ffyrdd newydd i atal heriau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yng Ngwent, a sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth cywir ar yr amser cywir, ble bynnag yr ânt am gymorth.
Cyflogwyd grŵp o ymchwilwyr cyfoed o Went i helpu gyda’r ymchwil. Mae’r ymchwilwyr cyfoed yn cynrychioli’r pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Torfaen.
Bydd yr ymchwil Darganfod a’r darganfyddiadau yn ein helpu i adnabod prif feysydd ar gyfer gwelliant i’r prosiect ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen. Ar ôl penderfynu ar y blaenoriaethau, byddem yn datblygu syniadau ac yn dechrau profi’r rhain. Byddem yn dysgu o’r profion, yn mwyhau’r syniadau, ac yn cyflawni’r datrysiadau.

Prif Fewnwelediadau
Mae Adroddiad Darganfod Meddwl Ymlaen Gwent yn rhoi trosolwg o’r ffordd rydym ni’n casglu data a prif fewnwelediadau o’r ymchwil.
Y prif fewnwelediadau oedd:
- Mae angen i staff fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar a’u bod yn deall wrth gynnal proffesiynoldeb
- Mae angen i wasanaethau fod yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb
- Mae yna ddiffyg gwybodaeth ymysg pobl ifanc am y gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn agored iddynt yng Ngwent
- Mae angen cysondeb ar bobl ifanc, yn enwedig wrth drosglwyddo o fewn, a rhwng, gwasanaethau
- Mae profiadau negyddol o wasanaethau yn creu rhwystr i bobl ifanc wrth chwilio am, a chael mynediad i, gymorth
- Mae ofni stigma yn cael effaith ar barodrwydd person ifanc i ofyn am gymorth
- Mae pobl ifanc angen y cymorth cywir ar yr adeg gywir
Mae pob mewnwelediad yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder yn yr Adroddiad Darganfod, gyda dyfyniadau gan rai o’r 203 person ifanc 11-27 oed o ledled Gwent a gafwyd eu cyfweld gan eu cyfoedion.

Cefnogaeth gan Rhanddeiliaid
Wrth i ni symud yn ei blaen i gyfnodau Diffinio a Datblygu’r broses Cynllunio Gwasanaeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliad o Went fydd yn gallu helpu ni i gyrraedd ein nodau.
Os oes gennych chi neu eich sefydliad ddiddordeb yn y gwaith yma, e-bostiwch info@mindourfuturegwent.co.uk i gofrestru am ein rhestr bostio.
Rydym yn arbennig o awyddus i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl yng Ngwent, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc.
Bydd ein rhanddeiliaid ymysg y cyntaf i ddysgu am ddiweddariadau’r prosiect ac yn derbyn gwahoddiad i ymuno â ni ar gyfnodau gwahanol y prosiect.

Halyna Soltys
6 Tachwedd 2023
Newyddion
Cynllunio Gwasanaeth
Cydgynllunio
Erthyglau Perthnasol

Cynllunio Gwasanaeth
Arddangos Gwaith Ieuenctid Cymru yn Strasbwrg
Arddangos arfer da o Gymru mewn seminar iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Strasbwrg Derbyniodd ProMo Cymru wahoddiad gan Bartneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop i fynychu’r Seminar ar Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid yn Strasbwrg, Ffrainc rhwng 18 a 19 Mawrth 2025. Iechyd Meddwl a Gwaith Ieuenctid Yn mynychu’r seminar roedd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, […]

Cynllunio Gwasanaeth
Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]

Institiwt Glyn Ebwy
Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Pantri EVI a’r Caffi Trwsio wedi dod yn adnoddau hanfodol i’r gymuned, yn helpu pobl i arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi’i gilydd. Yn ddiweddar, daethom at ein gilydd i ddathlu’r gwaith yma gyda pharti pen-blwydd. ProMo Cymru yw gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy (EVI), adeilad Gradd II sydd yn […]