O Gymru i Catalunya: Archwilio Mentrau Ieuenctid Dramor
Bu tri aelod o’n tîm ar daith astudio gyffrous i Catalunya yn ddiweddar gyda chyd gynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru (yn cynrychioli ProMo Cymru, CWVYS a Youth Cymru).
Cawsom groeso cynnes gan yr Agència Catalana de la Joventut (Asiantaeth Ieuenctid Catalonia), a chawsom daith o amgylch y rhanbarth yn archwilio mentrau ieuenctid, rhannu arferion da a gwneud cysylltiadau.
Diwrnod 1: Barcelona
Cychwynnodd y daith gyda chroeso cynnes yn yr Agència Catalana de la Joventut ym Marcelona. Rhannodd Rut Ribas, Directora General de Joventut, a’i chyd weithwyr, fewnwelediadau gwerthfawr i bolisïau ieuenctid Catalunya, gan drafod pynciau fel iechyd meddwl, amrywiaeth, dwyieithrwydd, a sawl ffactor cyd-destunol sydd yn dylanwadu’r rhanbarth. Ymwelwyd â Phwynt Gwybodaeth Ieuenctid, dysgu am bwrpas dros 300 o bwyntiau gwybodaeth ieuenctid ledled y rhanbarth, a’r 500,000 o ddefnyddwyr sydd yn defnyddio’u cerdyn ieuenctid. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys ymweliad i ysgol Ail Gyfle Fundacio Comtal, sydd yn canolbwyntio ar addysg a lleoliadau gwaith plant a phobl ifanc sydd mewn perygl cymdeithasol yn Ciutat Vella.
Diwrnod 2: Girona
Parhaodd ein hymweliad i ddinas odidog Girona. Ymwelwyd â chanolfan iechyd ieuenctid, ble rhannodd y tîm eu hymgyrchoedd a’r gwaith helaeth yn hyrwyddo iechyd rhyw i bobl ifanc y rhanbarth. Yna, ymwelwyd â Swyddfa Ieuenctid La Selba, gan ddysgu am yr ymgyrch iechyd meddwl ieuenctid anhygoel ‘Cap Caos al Cap’ (Dim Anrhefn yn y Clogyn). Cafwyd cloi’r dydd gydag ymweliad i glwb ieuenctid yn Breda, ble cawsom gyfarfod â gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc, yn cael mewnwelediad i’w prosiectau a chael mwynhau gêm o Fifa!
Diwrnod 3: Catalunya – Y Diwrnod Olaf
Gorffennwyd yr ymweliad astudio yn Sant Boi de Llobregat, lle cawsom gyfarfod ag adran ieuenctid y fwrdeistref a chael taith gyfoethog a thrafodaeth am eu gwaith. Cawsom hefyd gyfle i gael blas ar ddiwylliant yr ardal hefyd wrth gwrs!
Roedd y daith yn llawn dysgu, rhannu a chymharu ein dulliau gwaith ieuenctid ac ymgysylltu, arfer da, a chreu perthnasau parhaol. Teithiom adref gyda gwybodaeth werthfawr fydd yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith wrth ddatblygu gwybodaeth ieuenctid digidol a chynllun hawliau ieuenctid yng Nghymru. Byddem yn rhannu ein mewnwelediadau a’n darganfyddiadau mewn adroddiad yn fuan.
Diolch i Taith am gyllido’r daith gyfoethog hon ac i Agència Catalana de la Joventut am y croeso cynnes a chynllunio taith gynhwysfawr, addysgiadol a phleserus!
Cyllidwyd y daith astudio hon gan Taith.
Halyna Soltys
11 January 2024
Newyddion
Gwybodaeth
Related Articles
Hyfforddiant DTS
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]