Croeso Ffion

Portrait of Ffion, with light pink hair and white and cream clothing, smiling at the camera

Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Ffion Powell fel ein Swyddog Cyllid a Datblygu newydd!

Mae gan Ffion brofiad helaeth yn y maes gwerthu, ble mae wedi rhagori mewn creu a chynnal perthnasoedd busnes hirdymor, yn ogystal â chynyddu a sefydlogi ffrydiau refeniw.

Yn gwneud y naid fawr o werthiant cyfryngau digidol i’r trydydd sector, mae Ffion yn frwdfrydig iawn i ddefnyddio’i sgiliau at achos mwy, yn enwedig i helpu’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.

Ffion and her colleague, Nathan, stood in front of a ProMo Cymru stall with branded banners and a tablecloth.

Yn ei swydd yn ProMo mae’n cefnogi cynhyrchu incwm a datblygu prosiectau a chyfleodd newydd.

Ar ddiwedd mis cyntaf Ffion yn ProMo, gofynnom iddi sut mae’n mwynhau. Dywedodd:

“Mae’r mis cyntaf yma wedi bod yn llawn prosiectau a dysgu – mae amlochredd y sefydliad a’r holl ddarnau sydd yn symud yn agoriad llygaid. Dwi’n awyddus i gyfrannu fy arbenigedd ymhellach yn ProMo ac yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth ym mywydau’r cymunedau rydym yn gweithio â nhw. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm am y croeso cynnes a chefnogol. Mae wedi bod yn bleser bod o gwmpas cymaint o unigolion disglair, dawnus a blaengar.”

Edrychwn ymlaen at weld yr effaith mae Ffion yn ei gael yma gyda ni yn ProMo. Croeso i’r tîm!

Halyna Soltys
12 Chwefror 2024

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

Woman in blue jacket stood in front of a presentation on a screen stood smiling in the middle of conference delegates sat watching.
star

Cynllunio Gwasanaeth

Arddangos Gwaith Ieuenctid Cymru yn Strasbwrg

Arddangos arfer da o Gymru mewn seminar iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Strasbwrg Derbyniodd ProMo Cymru wahoddiad gan Bartneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop i fynychu’r Seminar ar Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid yn Strasbwrg, Ffrainc rhwng 18 a 19 Mawrth 2025. Iechyd Meddwl a Gwaith Ieuenctid Yn mynychu’r seminar roedd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, […]

star

Cynllunio Gwasanaeth

Cyflwyno Carfan Ddiweddaraf Ein Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn hyrwyddo Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis newydd. Gwahoddwyd sefydliadau trydydd sector Cymru i ymgeisio. Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn gweithio i wella eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol. Roedd safon y ceisiadau derbyniwyd yn wych, a chynigwyd lle i bum sefydliad […]

star

Institiwt Glyn Ebwy

Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Pantri EVI a’r Caffi Trwsio wedi dod yn adnoddau hanfodol i’r gymuned, yn helpu pobl i arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi’i gilydd. Yn ddiweddar, daethom at ein gilydd i ddathlu’r gwaith yma gyda pharti pen-blwydd. ProMo Cymru yw gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy (EVI), adeilad Gradd II sydd yn […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889