Croeso Joe
Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Joe Williams fel ein Swyddog Prosiectau Digidol newydd!
Mae gan Joe flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector, yn cysylltu gyda chymunedau a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd difreintiedig.
Mae’n falch iawn i fod wedi gweithio gyda mamau ifanc yng Nghymoedd De Cymru, yn cynnal grwpiau cymorth i wella iechyd meddwl a lles, cyflwyno dosbarthiadau sgiliau bywyd i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, a chynnal clybiau ar ôl ysgol i blant a phobl ifanc.
Mae Joe yn angerddol am ddefnyddio digidol i wella bywydau cymunedau a phobl ifanc yng Nghymru
“Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn gan bawb yn ProMo. Mae’r gwaith yn bwysig, a dwi’n edrych ymlaen at gael cymryd mwy o ran!”
Y tu allan i’r gwaith, mae Joe wedi graddio gyda MA Hanes, ac mae’n caru heicio a gwersylla – yn cerdded a champio hyd Prydain yn 2021, a Chymru yn 2023.
Croeso i’r tîm Joe!
Halyna Soltys
12 February 2024
Newyddion
Related Articles
Hyfforddiant DTS
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]