Croeso Simran
Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Simran Sandhu fel ein Swyddog Datblygu Cyllid newydd!
Cychwynnodd siwrne Simran gyda ProMo Cymru yn 2018, gyda rôl profiad gwaith o fewn tîm yr adran Cyfrifeg a Chyllid.
Yn dilyn graddio o Brifysgol Caerfaddon gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn 2022, bu Simran yn gweithio fel Rheolwr Cynnyrch mewn cwmni nwyddau tŷ cyn dewis dychwelyd i ProMo a thrawsnewid yn ôl i’r maes cyllid ym mis Rhagfyr 2023.
“Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o ddatblygiad ariannol ProMo a dysgu sut i ddefnyddio systemau ac adroddiadau digidol i gynyddu effeithlonrwydd. Mae delio â sefydliad sydd â dau endid gwahanol yn her yr wyf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy amdani,” meddai Simran.
“Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn yn ôl yn ProMo ac mae’r gefnogaeth y mae pawb wedi’i ddangos wedi bod yn amhrisiadwy. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac mae amrywiaeth y cyfleoedd yn braf.”
Croeso i’r tîm Simran!
Halyna Soltys
5 March 2024
Newyddion
Related Articles
Newyddion
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]