Croeso Molly
Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Molly Brown i’r tîm fel Dylunydd Cyfryngau Digidol ac Animeiddiwr Iau ar interniaeth â thâl.
Mae Molly yng nghanol ei hail flwyddyn yn astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Gyda phrofiad animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’r tîm ac yn awyddus i ehangu ei ymwybyddiaeth o’r diwydiant cynhyrchu cyfryngau.
Mae rôl Molly ar ein tîm Cyfryngau yn cynnwys:
- Creu dyluniadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau wedi’u hargraffu
- Helpu gyda sawl agwedd o gynhyrchu cyfryngau
- Cyfrannu at raffeg symud a phrosiectau animeiddio
- Cynorthwyo yn ein gweithdai a sesiynau hyfforddiant.
“Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm ProMo Cymru ac i gael cyfrannu i’r holl brosiectau anhygoel mae’r sefydliad yn gweithio arnynt. Edrychaf ymlaen at ddysgu mwy am y diwydiant cynhyrchu cyfryngau ac i ddilyn fy angerdd dros olygu fideo a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chymunedau. Fy nod ar gyfer y dyfodol yw bod yn ddylunydd cyfryngau digidol!”
Croeso i’r tîm, Molly!
Halyna Soltys
30 April 2024
Newyddion
Related Articles
Newyddion
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]