Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan.
Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y blaen yn fantais angenrheidiol i sefydliadau. Bydd ein rhaglen yn eich grymuso â’ch ysgogi i gynllunio neu ailfeddwl eich gwasanaethau i gyrraedd eich cymunedau yn well.
Manylion y Rhaglen
Mae’r Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 7 mis yma wedi ei deilwro i sefydliadau trydydd sector Cymru, beth bynnag eu maint neu brofiad digidol blaenorol.
Bydd pum sefydliad yn cael eu dewis i ymuno â’r rhaglen. Y bwriad yw grymuso sefydliadau trydydd sector Cymru i wella gwasanaethau i ddefnyddwyr eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol.
Gall trawsnewid eich gwasanaeth gyda digidol feddwl unrhyw beth, o ddigideiddio gwaith papur fel ei bod yn haws i gofrestru am gymorth i ddarganfod ffyrdd mwy effeithiol i gysylltu â defnyddwyr eich gwasanaeth gyda’ch ffôn.
Os oes gennych chi her ac eisiau cymorth i ddarganfod datrysiad digidol effeithiol, dyma’r cyfle i chi!
Unwaith i chi benderfynu ar eich her, byddech yn dilyn y fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth i archwilio i fanylder dyfnach a darganfod datrysiadau posib. Nid oes rhaid poeni os ydych chi’n hollol newydd i gynllunio gwasanaeth. Bwriad y rhaglen yma yw eich cyfarparu gyda’r holl wybodaeth ac adnoddau sydd ei angen.
Beth yw manylion y rhaglen cynllunio gwasanaeth?
Mae’r rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol yn cychwyn fis Ebrill 2025 ac yn gorffen fis Hydref 2025. Os ydych chi’n llwyddo i gael lle ar y rhaglen, byddech yn penodi dau aelod staff fel arweinwyr prosiect.
Bydd yr arweinwyr prosiect yn derbyn arweiniad, mentora, a’r cyfle i gynllunio a phrofi gwasanaethau digidol newydd neu i wella rhai sydd yn bodoli eisoes yn eich sefydliad.
Mae’r rhaglen yn gweithredu ar y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni. Mae’n caniatáu i’r sefydliad weithio ar heriau go iawn maent yn wynebu.
Byddech yn cychwyn wrth ddysgu am y fethodoleg cynllunio gwasanaeth, y broses, a sut i ddeall anghenion eich defnyddwyr yn well. Yna, byddech yn ymchwilio anghenion eich defnyddwyr, yn dadansoddi eich prif fewnwelediadau, yn datblygu datrysiadau posib i’ch her ac yn eu profi.
Bydd y mwyafrif o’r rhaglen yn digwydd yn rhithiol, gan ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer hunan-astudio a gwaith. Mae yna rhai digwyddiadau wyneb i wyneb yn ystod y cwrs hefyd. Mae yna ddyddiadau pwysig yn ystod y rhaglen ble mae presenoldeb yn orfodol. Mae’r dyddiadau yma, ynghyd â gwybodaeth bellach a chwestiynau cyffredin i’w gweld ar dudalen y rhaglen yma.
Manteision y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth
Nid dysgu yn unig sydd i’w ennill o gymryd rhan yn y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol; mae’n fuddsoddiad yn nyfodol eich sefydliad. Mae cael cyfle i ddatrys gwir broblemau o fewn eich sefydliad, gyda chymorth ein harbenigwyr Cynllunio Gwasanaeth, yn amhrisiadwy.
Bydd pob sefydliad sy’n cymryd rhan yn y garfan yma yn derbyn tâl o £4,800 (yn cynnwys TAW) i gyfrannu tuag at amser staff ac adnoddau.
Y Broses Ymgeisio
Dim ond lle i bum sefydliad trydydd sector sydd ar gael. Bydd hyn yn golygu proses ymgeisio.
Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais tair rhan.
Mae’r rhan gyntaf yn holi am eich sefydliad ar y cyfan, yr ail ran am y bobl rydych chi wedi penodi i arwain y prosiect, a’r trydydd am eich prosiect a’i effaith ar ddefnyddwyr eich gwasanaeth.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos eu bod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cwrs yma i wneud newid sydd yn cael effaith.
Mae ProMo Cymru yn annog pawb sydd â diddordeb i wneud cais. Nid yw’n angenrheidiol i gael profiad o’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28ain Chwefror, 11:59pm.
Peidiwch â cholli’r cyfle i chwyldroi’r eich sefydliad gan ddefnyddio cynllunio gwasanaeth digidol i gael effaith barhaol ar eich cymuned.
Ymgeisiwch nawr a bod yn rhan o’r siwrne trawsnewid ddigidol! Gwybodaeth bellach yma.
\Mae’r rhaglen yn cael ei ariannu trwy brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo Cymru mewn partneriaeth â CGGC. Ariannir y prosiect trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd â’r nod o gefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru gyda digidol.
Sarah Namann
19 December 2024
Newyddion
Hyfforddiant DTS
Related Articles
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]
Newyddion
Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ffiniau: Mewnwelediadau o Gatalonia
Llynedd, fel rhan o daith gyfnewid a ariannwyd gan Taith, ymwelodd ein tîm â Chatalonia, ynghyd â chynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i archwilio eu systemau gwybodaeth ieuenctid. Rydym yn awyddus i rannu rhai o’n mewnwelediadau a’n cymariaethau â Chymru. Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweithgareddau yn ystod y daith, mae […]