Intern Cymorth Busnes (Interniaeth â thâl)
(Interniaeth rhan amser – perffaith i fyfyrwyr neu raddedigion)
Wyt ti’n awyddus i gychwyn dy yrfa yn y Trydydd Sector? Mae gan ProMo Cymru gyfle interniaeth 6 mis gyda thâl i gael profiad ymarferol o swyddogaethau gweithredol busnes sydd ar ei thyfiant. Ymuna â’n tîm.
Pam y byddi di’n hoff o weithio yn ProMo Cymru:
– Gweithio’n hyblyg ac yn hybrid: Byddem yn gweithio gyda thi i benderfynu oriau sydd yn gweithio i bawb (o fewn oriau swyddfa) a bydd posib gweithio un ai o’n swyddfa yng Nghaerdydd neu o adref, unrhyw le yng Nghymru.
– Gwneud newid: Rydym yn sefydliad Trydydd Sector sydd yn gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
– Bod yn rhan o dîm: Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig sydd ag ystod eang o brofiadau.
– Dysgu a thyfu: Datblyga dy sgiliau gan gefnogi tyfiant sefydliad prysur.
Beth fyddi di’n gwneud:
– Cydweithio ar draws dwy adran
– Cynnal y cyfriflyfr pryniant ynghyd â phrosesau ariannol eraill
– Cynorthwyo gyda chymorth gweinyddol
– Cefnogi amrywiaeth o waith AD gan gynnwys iechyd a diogelwch a pholisi
Cysyllta os:
– Rwyt ti’n gweithio tuag at, neu gyda gradd mewn maes sy’n ymwneud â Busnes
– Oes gen ti ddiddordeb cael profiad o weithio mewn sefydliad Trydydd Sector
– Rwyt ti’n awyddus i ddysgu a datblygu dy sgiliau
Lleoliad: Gweithio o gartref a/neu’r swyddfa yng Nghaerdydd
Cyflog: Cyflog byw o £12.60 yr awr
Oriau: 21 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025
Cyfweliadau: 13 Chwefror 2025
Darganfod mwy am ProMo Cymru: www.promo.cymru
Diddordeb? Byddem wrth ein boddau yn clywed gen ti!
Ymholiadau: people@promo.cymru neu 0736 634686
E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru
Megan Lewis
9 January 2025
Newyddion
Swyddi
Related Articles
Newyddion
Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr
Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]
Newyddion
Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. Yr hyn byddech chi’n ei […]
Newyddion
Croeso Glain
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]