Hysbyseb Swydd: Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth

Gwnewch Wahaniaeth: Byddwch yn Bencampwr i Bobl Ifanc
Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth gyda Meic a thîm Gweithredu Cymdeithasol ProMo Cymru (llawn amser, rhan amser, sesiynol, dan hyfforddiant)
Ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl bob dydd?
Rydym yn chwilio am Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth angerddol ac ymroddedig. Byddech yn bencampwr dros blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, a gofalwyr.
Pam y byddech chi’n hoffi gweithio yn ProMo Cymru:
- Cael effaith go iawn: Yn galluogi newid ac yn grymuso pobl i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a’u hanghenion yn cael eu cyrraedd
- Bod yn rhan o dîm sy’n meithrin: Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr angerddol sydd yn rhannu eich ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol
- Dysgu a thyfu: Datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda hyfforddiant, adlewyrchu, a chefnogaeth
- Gweithio’n hyblyg: o’n swyddfa yng Nghaerdydd a/neu weithio gartref
Yr hyn byddech chi’n ei wneud:
- Darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar y person
- Darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, a chymorth fel arall ar y ffôn, e-bost, neges testun, neges ar y we a WhatsApp
- Gweithio gydag unigolion i gyflawni newidiadau positif sy’n seiliedig ar benderfyniadau gwybodus a hyder a gwytnwch gwell
- Creu cysylltiadau ystyrlon rhwng unigolion, adnoddau, a gwasanaethau
- Sicrhau perthnasau gwaith pwrpasol ac yn ddylanwad positif ar y tîm
Yr hyn ydych chi:
- Mae gwerthoedd yn bwysig i chi, ac rydych chi’n angerddol dros hawliau, cyfiawnder cymdeithasol a lles.
- Rydych chi’n awyddus i ddatblygu a defnyddio eich potensial, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
- Rydych yn agored, yn dosturiol, yn ddibynadwy, ac yn hyblyg
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Cyflog: £21,840 – £29,600 (dan adolygiad)
Dyddiad Cau: Hanner dydd, 31 Mawrth, 2025
Dyddiad Cyfweliadau: 2, 23, 24 Ebrill 2025
Barod i Wneud Gwahaniaeth? Ymgeisiwch Nawr!
E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru
Am wybodaeth cysylltwch: people@promo.cymru
Darganfod mwy am ProMo Cymru: www.promo.cymru
Darganfod mwy am Meic: www.meic.cymru

Megan Lewis
10 Mawrth 2025
Meic
Llinell Gymorth
Swyddi
Erthyglau Perthnasol

Cynllunio Gwasanaeth
Cyswllt Conwy Yn Creu CRM Yn Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr
Bu ProMo Cymru yn cefnogi ‘Cyswllt Conwy’ i symud o daenlenni rhwystredig i system CRM bwrpasol, hawdd i’w defnyddio. Beth oedd y broblem? Sefydlwyd Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu yn 1997 i helpu hyrwyddo hawliau pobl gydag anableddau dysgu sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae ei nodau yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael […]

Newyddion
Gwireddu Newid – Ymunwch â Bwrdd ProMo
Ydych chi’n angerddol am waith ieuenctid a chymunedol? Yn awyddus i ddefnyddio’ch sgiliau i wireddu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru? Yna ymunwch â’n Bwrdd. Mae dod yn Ymddiriedolwr gyda ProMo Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth, ennill profiad yn y sector elusennol a dielw, a chyfrannu […]

Digidol Trydydd Sector
Pwysigrwydd Cynllunio Sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr a Phrofi Syniadau
Mae ProMo Cymru wedi bod yn cefnogi Tempo i wella’u llwyfan digidol Credyd Amser Tempo, fel ei fod yn fwy clir, hygyrch a deniadol i ddefnyddwyr a staff. Beth oedd y broblem? Mae Tempo yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda’r gymuned i annog pobl o bob cefndir i wirfoddoli. Mae eu cynllun gwobrwyo gwirfoddolwyr, sef […]