Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Swyddfa VR: Camu i Ddyfodol Gweithio o Gartref

Screenshot whilst using the VR headset. The screenshot shows the homepage of the ProMo Cymru website open on a virtual monitor within an office. The windows of the office show breathtaking view of mountains, forest, and a lake.

Llond bol o weithio gartref ar ben eich hun? Eisiau gweithle mwy ysbrydoledig? Eisiau cydweithio’n rhwydd gyda chydweithwyr o bell? Mae Realiti Rhithwir (VR) yn cynnig cyfle i greu amgylcheddau swyddfa gartref ymdrochol sy’n fwy cynhyrchiol o bosib.


Creu swyddfa gartref gwell gyda VR

Mae VR yn cynnig cyfle unigryw i gynllunio gweithle wedi’i deilwra sy’n darparu ar gyfer eich anghenion a’ch dewisiadau penodol. Gallwch greu amgylchedd swyddfa gartref ymdrochol sydd â’r posibilrwydd o fod yn fwy cynhyrchiol yn VR! Dyma sut mae’n gweithio:

Apiau swyddfa VR pwrpasol
Mae’r apiau yma yn gweithredu fel eich man gwaith rhithwir. Mae opsiynau poblogaidd yn cynnwys  Immersed VRVSpatial, a Meta Horizon Workrooms. Maent yn caniatáu i chi addasu eich swyddfa rithwir gyda ffenestri gyda golygfeydd syfrdanol, gosod sgriniau rhithwir i weithio arnynt, neu gydweithio ag eraill mewn ystafell gynadledda rithwir.

Sgriniau lluosog
Dychmygwch sawl monitor yn arnofio yn eich gofod VR, perffaith ar gyfer amldasgio! Dim desgiau mawr yn y ffordd – mae VR yn caniatáu i chi drefnu a newid maint eich sgriniau rhithwir fel dymunir, gan fanteisio orau o’ch gweithle heb orfod gwneud hyn yn y byd go iawn.

Integreiddio bysellfwrdd
Er bod menig VR yn parhau i ddatblygu, mae’r mwyafrif o apiau swyddfa VR yn caniatáu i chi ddefnyddio bysellfwrdd a llygoden neu dracpad yn y byd go iawn i ryngweithio â’r gweithle rhithwir. Mae hyn yn rhoi profiad teipio cyfarwydd ar gyfer gwaith di-dor.

Technoleg ‘Passthrough’
Mae technoleg ‘Passthrough’ yn caniatáu i chi gyfuno’ch VR a’r byd go iawn. Mae’r nodwedd glyfar yma yn caniatáu ichi weld eich amgylchedd go iawn trwy’r penset wrth wasgu botwm. Eisiau gwneud coffi, edrych ar eich ffôn, neu ysgrifennu rhywbeth ar bapur? Gallech newid rhwng y byd rhithwir a’r byd go iawn gyda ‘Passthrough’ heb orfod tynnu’r penset.

Two staff members, Daniele and Halyna, meeting virtually in VR within an office in Meta Horizons Workrooms

Beth yw manteision defnyddio VR wrth weithio gartref?

Mae llawer o fanteision posibl i ddefnyddio VR i weithio gartref, gan gynnwys:

  • Gwell ffocws: Gall VR leihau ymyriadau wrth rwystro’ch amgylchedd corfforol. Dychmygwch weithio mewn caban tawel ar fynydd yn lle desg flêr gyda chymdogion swnllyd.
  • Ergonomeg well: Mae VR yn caniatáu mwy o osodiadau ergonomig. Gellir addasu’ch man gwaith rhithwir i uchder a lleoliad perffaith, gan leihau straen cefn a gwddf o bosibl. Nid oes angen llawer o le ar gyfer gosodiad a all gostio cannoedd, os nad miloedd, o bunnoedd i’w efelychu yn eich bywyd go iawn.
  • Gwell cydweithio: Mae offer cydweithio VR yn caniatáu i chi gyfarfod gyda chydweithwyr yn rhithiol mewn gofodau a rennir, gan feithrin ymdeimlad o bresenoldeb a gwaith tîm. Dychmygwch drafod syniadau gyda chydweithwyr ar draws y byd mewn sesiwn bwrdd gwyn rhithwir.
  • Ffactor hwyl: I fod yn gwbl onest,  gall gweithio o gartref fod yn undonog. Mae VR yn rhoi ychydig o hwyl a newydd-deb i’ch diwrnod gwaith. Dychmygwch gyflwyno eich prosiect diweddaraf mewn amffitheatr rithwir neu fynychu cyfarfod tîm ar draeth trofannol rhithwir. Gall fod yn newid golygfa braf sy’n rhoi hwb ac egni i chi.

Ond, efallai na fydd y buddion yma yn briodol i bawb. Er bod VR yn cynnig posibiliadau cyffrous, nid yw’n gweithio mor llyfn a awgrymir yn yr hysbysebion bob tro.

A VR workspace within the app called Immersed. The screenshot shows Halyna meeting with Andrew in a large, open plan virtual cafe, whilst having a screen open on Notion.

Beth ellir ei wneud i wella VR?

Mae yna wastad lle i wella, yn enwedig gyda thechnoleg newydd. Dyma rai agweddau ar weithleoedd VR sy’n parhau i gael eu datblygu:

  • Integreiddio bysellfwrdd llyfn: Weithiau, gall fod yn anodd teipio yn defnyddio ‘Passthrough’, felly mae posib gwneud mwy o gamgymeriadau.
  • Straen llygaid a cyfforddusrwydd: Gall defnyddio VR achosi straen llygaid, cur pen, a phendro i rai.
  • Pwysau penset a bywyd batri: Gall pensetiau VR presennol deimlo’n drwm ar ôl gwisgo am ychydig oriau, a gall bywyd batri gyfyngu ar eich diwrnod gwaith.
  • Afatarau afrealistig: Er bod posib addasu eich afatar VR, mae’n parhau i edrych fel cartŵn. Gall arwain at letchwithdod cymdeithasol wrth ymuno â chyfarfodydd â gweithwyr proffesiynol eraill ar-lein, sydd efallai ddim yn deall ac yn meddwl bod ymuno gyda VR yn gimigaidd.

Er bod technoleg VR yn parhau i ddatblygu, mae’n cynnig cipolwg ar ddyfodol gwaith. Gyda’r potensial i wella ffocws, creadigrwydd a chydweithio, gall VR fod yn allweddol i ddatgloi profiad gwaith mwy cynhyrchiol a deniadol o gartref.


Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.

Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.

Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025

star

Technoleg

star

Digidol Trydydd Sector

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Institiwt Glyn Ebwy

Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Over the past two years, EVI Pantry and Repair Café have become vital community resources, helping people save money, reduce waste, and support each other. Recently, we came together to celebrate their impact with a birthday party. ProMo Cymru are the guardians of Ebbw Vale Institute (EVI), a Grade II listed building that serves as […]

Llun o ddau aelod o staff Kidscape o flaen sgrin sy'n dweud 'roedden ni'n gwybod ein bod ni eisiau helpu pobl ifanc, doedden ni ddim yn gwybod sut i wneud eto'
star

Hyfforddiant DTS

Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus. Beth oedd y broblem? Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr […]

star

Cynllunio Gwasanaeth

Diweddariadau Dros Gyfnod: Cylchlythyrau Meddwl Ymlaen Gwent

Gall llawer ddigwydd dros gyfnod pum mlynedd. Er mwyn rhannu hyn i gyd, rydym wedi penderfynu rhannu’r holl gylchlythyrau sydd wedi’u creu dros oes prosiect Meddwl Ymlaen Gwent. Y daith cyd-gynllunio Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) wedi’i gyd-gynllunio’n fwriadol gyda phobl ifanc 16-25 oed ledled Gwent. Mae’r dull cydweithredol yma o weithio, wedi’i wreiddio […]