star

Cynyddu amrywiaeth a gallu digidol ar fyrddau elusennau: 2 her, 1 ymagwedd

Awdur: Zoe Amar; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â’r bwlch sgiliau digidol ar fyrddau elusennau. Mae’n her gyffredin. Fel y mae diffyg amrywiaeth, ac  fel y mae ymchwil defnyddwyr gyda chymunedau amrywiol wrth gynllunio gwasanaethau digidol hefyd.

1. Sgiliau digidol ar lefel bwrdd: y broblem

Mae Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennol 2022 yn mesur y broblem. Mae sgiliau digidol isel (neu angen gwelliant) yn wir i bron i ddwy ran o dair (64%) o fyrddau. Ac eto nid oes gan 54% gynllun i gynyddu’r sgiliau yma neu’n anymwybodol beth yw’r cynllun. Dim ond 1 o bob 5 (21%) a ddywedodd fod ganddynt gefnogaeth ymddiriedolwyr i wella digidol.

2. Amrywiaeth ar lefel bwrdd: y broblem

Ar yr un pryd, mae amrywiaeth hefyd yn her fawr. Mae 92% o ymddiriedolwyr yn wyn, 64% yn ddynion. Cyfartaledd oedran yw 60-62. Ac mae 75% yn uwch na’r canolrif cenedlaethol o ran incwm aelwyd (Ffynhonnell: Taken on Trust).

Yn fwy o achos pryder: mae 59% o elusennau yn dweud nad yw’r bwrdd yn cynrychioli’r gymuned y maent yn gwasanaethu.

3. Ymchwil defnyddwyr gyda chymunedau amrywiol: y broblem

Ar yr un pryd, dywedodd 1 o bob 4 elusen wrth yr Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau nad oes ganddynt dimau digidol amrywiol yn gweithio ar eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Nid ydynt ychwaith yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda chymunedau amrywiol.

Mae angen cynrychiolaeth profiad byw yn y broses o gynllunio a datblygu gwasanaethau. Sut arall y gallwn eu gwneud yn effeithiol i’r bobl rydym yn bwriadu cyrraedd? Ydyn ni’n cynllunio ar eu cyfer nhw neu ni?

Mae byrddau elusennau angen newid

Mae’r 3 problem yma yn cychwyn ar lefel bwrdd.

Mae’r byd elusennol wedi newid ers pandemig Covid-19. Mae mabwysiadu digidol wedi tyfu ar draws y sector. Mae ymdrechion cynhwysiant wedi cynyddu, yn enwedig wrth i ymgyrch fel Mae Bywydau Du o Bwys ehangu dealltwriaeth pobl o wahardd.

Mae anelu i fod yn sefydliad cynhwysol yn her fawr.

Mae mynd yn ddigidol yn her hefyd.

Ond os gallech chi ddatrys y ddau beth, yna bydd y penderfyniadau a wneir yn newid hefyd. Bydd penderfyniadau eich bwrdd yn dod yn decach ac yn fwy cynhwysol o botensial digidol.

Gellir gwella amrywiaeth a digidol gyda’i gilydd

Mae nifer o elusennau eisoes yn ymdrechu i wella naill ai sgiliau digidol neu gynrychiolaeth amrywiaeth ar lefel bwrdd. Mae cyfleoedd i fynd i’r afael â’r heriau hyn ar y cyd. Mae hyn fel arfer yn golygu newid meddylfryd. Dyma 3 argymhelliad i gyflawni hyn.

1. Symud pŵer mewnol

Mae cynhwysiant yn golygu gofyn, ar lefel bwrdd, os yw’ch elusen wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl mae’n ei wasanaethu. Ydych chi’n fodlon ac yn gallu gwneud yr ymdrech i recriwtio mwy o ymddiriedolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd i’r bwrdd? Ydych chi’n barod i weithio trwy faterion anodd?

Ydych chi’n barod i symud y grym o’r brig i’ch defnyddwyr, gan agor eich elusen i fyny i’r her? Ydych chi’n barod i wynebu’r anghysur a ddaw gyda hyn?

Mae trawsnewid digidol hefyd yn golygu gofyn cwestiynau dirfodol am eich elusen. Ydych chi’n barod i ailgynllunio gwasanaethau i weddu i anghenion ac ymddygiad pobl ar-lein? Ydych chi’n barod i groesawu cyd-gynllunio ar bob lefel o’r sefydliad, gan gynnwys eich defnyddwyr mewn strategaeth a gweithrediadau digidol?

Mae’r ddau newid yma yn newid y grym o’r arweinwyr i’r defnyddwyr. Bydd hyn yn teimlo’n newydd ac, yn ôl pob tebyg, yn ansefydlog. Eisteddwch gyda’r teimlad hwn. Ei gydnabod fel tîm. Siaradwch am pam rydych chi’n teimlo’n anghyfforddus. Cydweithiwch i groesawu newid.

Yn olaf, ystyriwch sut mae’ch bwrdd yn gweithio gyda’i gilydd. A yw lleisiau penodol yn dominyddu’r cyfarfodydd? Ydy pawb yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw? Draw yn Charity Digital, lle rydw i’n ymddiriedolwr, mae ein cadeirydd yn helpu pawb i deimlo’n rhan o’r broses. Mae’n annog pawb i gymryd rhan yn y drafodaeth, ac yn annog cyfraniadau gan y rhai sy’n siarad yn llai aml.

2. Byw eich gwerthoedd a’ch egwyddorion

Mae gwerthoedd ac egwyddorion eich bwrdd ar fin cael eu herio. Mae trawsnewid a chynhwysiant digidol yn gofyn am ymrwymiad gwerthoedd cryf i lwyddo. Heb hyn dim ond perfformiadol fyddan nhw byth.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol elusen wrthyf unwaith: “Efallai nad fi yw’r person cywir i arwain y sefydliad yma ar ddiwedd ein trawsnewidiad digidol.”

Dyna sut beth yw byw eich gwerthoedd. Roedd y Prif Swyddog yma yn barod i aberthu eu swydd os nad nhw oedd y person cywir i’r elusen.

Beth ydych chi’n fodlon ildio am ei werthoedd, fel bwrdd, neu fel sefydliad? Pa egwyddorion fydd yn arwain eich arweinyddiaeth ddigidol a chynhwysiant? Peidiwch â gwneud unrhyw benderfyniadau cyn gwirio os ydych chi wedi eu dilyn.

3. Ymrwymo i newid

Ni fydd trawsnewid digidol a chynhwysiant yn digwydd heb ymrwymiad. Os nad oes ymrwymiad yna gall yr holl beth fod yn berfformiadol neu’n waeth fyth, esgus gwneud.

Mae ymrwymo yn golygu cytuno ar gynllun, penderfynu ar y cam nesaf, yna ei wneud. Yn dilyn drwodd, a pharhau i gamu ymlaen.

Un ffordd o gamu ymlaen yw chwilio am adborth a’i archwilio.  Gallech chi gael sgwrs anffurfiol gyda staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr. Gallwch chi hefyd ei wneud yn ffurfiol wrth gynnwys ymddiriedolwyr mewn gweithgareddau ymchwil defnyddwyr a’u cyflwyno i egwyddorion datblygu gwasanaeth ailadroddol.

Crynodeb

Mae cynhwysiant a thrawsnewid digidol yn gofyn am newid meddylfryd. Mae’r newid yma’n bosibl. Gallwch chi a’ch bwrdd arwain y ffordd wrth ymrwymo i’r ddau ar yr un pryd.

Llun gan Tima Miroshnichenko

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst