Cyflwyniad i Realiti Rhithwir: Beth Ydyw a Sut Mae’n Gweithio
Mae Realiti Rhithwir (VR) yn dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym iawn ac sy’n caniatáu i chi brofi pethau mewn ffordd hollol newydd. Dychmygwch ymchwilio pyramidiau’r Aifft, brwydro estroniaid ar blaned bell, neu fynychu cyfarfod busnes, i gyd o gysur eich cartref.
Sut mae VR yn gweithio?
Wrth wisgo penset VR, mae’r byd go iawn yn cael ei gau allan a byd efelychiadol yn ei le. Mae’r amgylcheddau 3D yma yn gallu bod yn fanwl iawn, gyda golygfeydd a synau fydd yn gwneud i chi deimlo fel eich bod yno go iawn.
Mae pensetiau VR yn gorchuddio’r llygaid yn llwyr, gan gau allan y pethau sy’n tynnu sylw a’ch cludo i fyd arall.
Mae gan y pensetiau 3D yma ddisgiau agos i’r llygaid 3D, bron fel gwisgo sbectol. Mae’r sgriniau uwch dechnolegol yma yn creu dyfnder rhithiol, gyda’r byd rhithwir yn teimlo’n real a thri dimensiwn.
Gall VR dracio symudiadau’r pen a’r dwylo weithiau. Mae hyn yn caniatáu i chi ryngweithio â’r byd rhithwir yn naturiol, wrth droi eich pen neu ymestyn eich llaw yn unig.

Ydy VR ar gyfer gemau yn unig?
Er bod gemau VR yn ffordd boblogaidd o brofi bydoedd rhyfeddol mewn gemau, gellir defnyddio VR am lawer mwy nag adloniant yn unig. Mae VR yn datblygu o hyd, gyda defnydd gwych, gan gynnwys addysg, busnes a gofal iechyd.
Mae VR yn chwyldroi’r ffordd rydym yn dysgu. Dychmygwch daith ysgol i’r Barriff Mawr neu driniaeth lawfeddygol mewn amgylchedd diogel, rhithwir.
Mae sefydliadau’n defnyddio VR ar gyfer hyfforddiant efelychol, cynllunio cynnyrch, a chynnal cyfarfodydd rhithwir gyda chydweithwyr ledled y byd. Mae’n arf pwerus ar gyfer cydweithredu ac arloesi.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng VR, AR a MR?
Mae VR yn golygu Realiti Rhithwir (Virtual Reality), tra bod AR yn golygu Realiti Estynedig (Augmented Reality) a MR yn Realiti Cymysg (Mixed Reality).
Mae pob un yn eistedd dan yr ymbarél Realiti Ymestynnol (Extended Reality) gelwir yn aml yn XR.
Yn wahanol i VR, nid yw AR yn cymryd lle’r byd go iawn. Mae’n gosod gwybodaeth ddigidol ar ben y byd go iawn o’ch cwmpas. Dychmygwch eich bod yn edrych i fyny ar awyr y nos ac yn gweld clystyrau a gwybodaeth am y sêr yn cael ei ddangos trwy sgrin eich ffôn. Mae AR yn ychwanegu haen o wybodaeth ddigidol i’r byd corfforol. Efallai eich bod chi wedi clywed am Pokémon Go sydd yn un esiampl o hyn.
Mae MR yn cyfuno elfennau o VR ac AR. Mae’n creu amgylchedd hybrid ble mae pethau rhithwir a go iawn yn cydfodoli mewn amser go iawn. Dychmygwch drwsio eich beic. Gyda MR, gallech chi weld delwedd dryloyw o’r byd o’ch blaen. Wedi’i osod ar ben hynny wedyn, fe welwch amlinelliad glas llachar yn dangos yr union sbaner sydd ei angen a ble mae hwn ar eich mainc waith. Mae’n cyfuno’r byd go iawn (eich beic) gyda rhywbeth rhithwir (y sbaner) y gallech chi ei weld a rhyngweithio ag ef.
Dysgwch fwy am VR
Mae ProMo Cymru yn angerddol am archwilio potensial technoleg newydd a datblygol, yn enwedig o fewn y trydydd sector yng Nghymru.
Rydym yn deall bod VR yn faes sy’n tyfu, ond i’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad, gallai godi ofn. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu cyfoeth o gynnwys sydd wedi’i gynllunio i ddatgelu dirgelwch VR, gan arddangos VR ar waith a’ch helpu chi i benderfynu os yw VR yn rhywbeth gall weithio i’ch sefydliad chi.
Dyma rai o’r blogiau rydym wedi’u creu i’ch helpu chi i fynd i’r afael â grym VR a sut y gellid ei ddefnyddio yn y trydydd sector:
- Defnydd Posib VR i’r Trydydd Sector
- Swyddfa VR: Camu i Ddyfodol Gweithio o Gartref
- Meta Quest Pro Rhad ar Gyfer eich Elusen
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn VR ac eisiau siarad ag un o’n staff am sut y gallai fuddio eich sefydliad, trefnwch apwyntiad i siarad â ni trwy’r gwasanaeth am ddim DigiCymru. Gallem eich helpu i feddwl sut gall VR (neu ddatrysiad digidol fel arall) eich helpu chi i fynd i’r afael â her rydych chi’n wynebu.
Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.
Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.
Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025
Digidol Trydydd Sector
Technoleg
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd
Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]
Cydgynllunio
Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent
Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]
Cydgynllunio
Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid
Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]