star

Gwefan Elusen: Help Gyda 5 Problem Gyffredin



Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae’r adnodd hwn ar gyfer arweinwyr digidol gwefannau neu gyfathrebu sydd angen cynllunio a diweddaru gwefan eu sefydliad. Mae’n cynnig help gyda 5 her gall fod yn wynebu eich gwefan. Efallai eich bod chi eisiau gwneud mân newidiadau, gyda theimlad nad yw rhai elfennau’n gweithio, neu’n ystyried ail-ddylunio’r wefan yn llwyr.


Rydym yn cynnig un neu mwy o adnoddau o’r archif Catalyst diweddaraf ar gyfer pob her. Beth bynnag yw cyflwr eich gwefan, bydd rhywbeth yma i’ch helpu i’w symud ymlaen.

1. Rydych chi o’r gred nad yw eich gwefan yn addas i’ch ymwelwyr, ond ddim yn siŵr chwaith

Efallai eich bod wedi clywed pobl yn dweud na allant ddod o hyd i bethau ar eich gwefan. Efallai mai rhai o’r bobl hynny yw eich staff eich hun.

Neu efallai bod gan rai o’ch prif dudalennau niferoedd annisgwyl o isel o ymwelwyr.

Ni allwch fod yn siŵr a oes problem neu pam, ac nid oes gennych feincnod i’w gymharu ag ef.

Gallwch:

✔️ Defnyddio Hotjar (am ddim i sefydliadau dielw) i weld sut mae pobl yn ymddwyn ar eich gwefan. Gweler canllaw gam wrth gam i Hotjar gan y sefydliad VONNE .
✔️ Mynd gam ymhellach a phrofi eich gwefan gyda phobl a fyddai fel arfer yn ei defnyddio. Darllenwch ein canllaw i brofi defnyddioldeb eich gwefan.

2. Nid yw’ch gwefan yn ddigon hygyrch

Rydych yn ymwybodol nad yw’r safle yn cynnig profiad di-dor i bawb. Efallai eich bod wedi cael rhywfaint o adborth uniongyrchol gan ddefnyddwyr sydd ag anghenion mynediad. Neu, efallai eich bod wedi’i brofi gyda gwiriwr hygyrchedd.

Neu efallai eich bod chi’n dechrau ailgynllunio ac eisiau sicrhau bod pawb yn gallu ei ddefnyddio’n iawn.

Neu efallai eich bod chi eisiau dysgu beth i gadw llygaid allan amdano.

✔️ Lliw, llywio a labelu yw’r 3 pheth sydd fwyaf tebygol o achosi safle anhygyrch. Darllenwch sut i adnabod 3 rhwystr hygyrchedd cyffredin.
✔️ Darllenadwyedd yw’r 4ydd rhwystr hygyrchedd cyffredin. Gallech wastad ei wella. Mae gwneud hyn yn helpu pawb i gael mynediad i’ch safle. Darllenwch Pam fod Darllenadwyedd yn Bwysig i’ch Elusen.

3. Mae angen gwella rhai tudalennau

Mae eich safle yn gyffredinol dda. Rydych chi’n ddigon hapus ag ef, ac mae’n eithaf hygyrch, ond gall rhai o’r tudalennau fod yn well.

Efallai bod eich dadansoddeg yn dangos nad yw pobl yn aros mor hir ag y byddech chi’n ei ddisgwyl.

Neu efallai bod llawer o bobl yn gadael eich safle ar y tudalennau hynny, yn hytrach na pharhau â’u taith.

✔️ Mae angen gwella eich tudalen gartref. Darllenwch awgrymiadau ar gyfer tudalen gartref sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy’n rhoi’r cynnwys yn gyntaf

✔️ Nid yw’r tudalen Amdanom Ni yn helpu pobl i ddeall pwy ydych chi. Darllenwch sut i greu tudalen Amdanom Ni effeithiol.

✔️ Mae yna lawer o dudalennau cyngor ac arweiniad ar eich gwefan. Dysgwch ffordd syml i wirio bod eich tudalennau cyngor yn ddefnyddiol.

Yna dysgwch sut i greu tudalennau gwe sy’n helpu pobl i ddatrys problemau eu hunain.

4. Rydych chi eisiau gwella eich safle, ond nid oes llawer o amser gennych.

Yn bendant, gellid gwella eich safle. Ond nid oes gennych amser na chyllideb am ail-ddyluniad llwyr. Pa welliannau bach fedrwch chi eu gwneud?

Cychwynnwch yn fach wrth ddewis unrhyw un o’r tasgau 30 i 60 munud yma:

✔️ 1: Diweddaru tudalen boblogaidd
✔️ 2: Sicrhau bod cynnwys eich tudalen yn addas i batrymau darllen pobl
✔️ 3: Gwirio hygyrchedd ar ddyfeisiau symudol
✔️ 4: Sicrhau bod gwybodaeth eich gwefan yn hawdd i’w ganfod
✔️ 5: Dileu PDF

5. Mae angen ail-ddylunio eich gwefan yn llwyr

Efallai eich bod wedi profi eich safle ac wedi penderfynu bod angen ail-ddyluniad.

Neu efallai eich bod eisoes wedi gwneud y penderfyniad yma ac yn pendroni beth i’w wneud nesaf.

✔️ Rydych chi’n barod i ddechrau cynllunio. Dysgwch y cynhwysion allweddol, yr hyn y dylech chi fod yn ei ofyn i chi’ch hun a 7 cam wrth gynllunio gwefan newydd i elusen.

✔️ Cael trosolwg ehangach o pam, pryd a sut mae pobl yn diweddaru eu gwefannau gyda’r canllaw NCVO yma am y pethau i’w gwneud cyn cychwyn gwefan newydd.

Mae NCVO hefyd yn rhoi cyngor da ar gyflogi datblygwr neu i adeiladu’r safle eich hun.

✔️Os ydych chi’n barod i gychwyn yna gallwch chi hefyd ddod o hyd i ddatblygwr gyda Dovetail.

6: Rydych chi eisiau gweld sut mae safleoedd pobl eraill yn gwneud

Efallai nad ydych chi’n siŵr ble i gychwyn.

Neu rydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth.

Bydd y 5 beirniadaeth gwefan elusen yma yn rhoi blas i chi o’r mathau o broblemau ac atebion y gallai eich gwefan eu cael. Maent yn defnyddio enghreifftiau bywyd go iawn o ddylunio da a drwg.

✔️ 1. Quaker Social Action

✔️ 2. Reach Volunteering

✔️ 3. Dementia UK

✔️ 4. Llyfrgell Gwirfoddolwyr Reach Volunteering

✔️ 5. Catalyst


Angen cymorth pellach?

Weithiau mae angen pâr ffres o lygaid ar eich gwefan a chyngor ar y ffordd ymlaen. Mae Digital Candle yn cynnig 60 munud o gyngor am ddim gan arbenigwr.

Sometimes you need a fresh pair of eyes on your website and advice on the way forward. You can get 60 minutes of free advice from an expert through Digital Candle.


Credyd delwedd: Llun gan Keira Burton

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889