✕

O Went i Helsinki: Cyfnewidfa Iechyd Meddwl

Group photo of MoFG Peer Service Designers with the Welsh Flag outside Helsinki Railway station

Ym mis Medi 2026, teithiodd naw o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent i Helsinki am wythnos o ddysgu ar y cyd gyda’r sefydliad ieuenctid Ffinnaidd Yeesi, wedi’u cyllido gan Taith.

Wedi’i ysgrifennu gan Lexy, Cynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed, Meddwl Ymlaen Gwent

Cefndir Meddwl Ymlaen Gwent

Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd rhwng ProMo Cymru a Mind yng Ngwent, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau Mind lleol ar draws Gwent.

Rydw i yn un o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed y prosiect. Rydym yn bobl ifanc oed 16 i 24, sy’n cael ein talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ac rydym yn arwain y prosiect.

Hyd yn hyn, rydym wedi:

  • Creu hyfforddiant iechyd meddwl rydym yn cyflwyno ein hunain i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc
  • Cynnal cyfrif Instagram @KeepInMindGwent
  • Gweithio gyda gwasanaethau lleol fel ei bod yn haws i bobl ifanc cael mynediad at gymorth

Ym mis Medi, aethom â’r gwaith hwnnw i’r Ffindir. Dyma hanes ein hwythnos, dydd i ddydd.

Diwrnod 1: Cyrraedd Helsinki

Ar yr 2il o Fedi, cyfarfu ein tîm yn gynnar yn y bore, yn llawn cyffro, nerfusrwydd a gobeithion mawr. Ar ôl teithio ar ddwy awyren, trên a dwy dram – gyda stop byr yn Schiphol, Amsterdam – cyrhaeddom yr EuroHostel, a fyddai’n gartref i ni am yr wythnos. Roedd gweithdy ysgrifennu creadigol yn cael ei gynnal yn yr hostel, felly ymunom. Yna, aethom i’r ddinas ar gyfer ein pryd bwyd cyntaf, cyn cael seibiant haeddiannol.

Diwrnod 2: Cwrdd â Yeesi

Ar ôl bore hamddenol a brecwast Ffinneg, cwrddon â’n gwesteiwyr, Yeesi, ar gyfer cinio bwffe ym mwyty’r Factory, sydd wedi’i leoli o dan eu swyddfeydd. Cawsom ein tywys o gwmpas eu swyddfa, sydd wedi’i ddylunio o gwmpas eu pobl ifanc, gyda lliwiau bywiog, cysur, ac awyrgylch cynnes a chroesawgar.

Yna, cyflwynodd Yeesi ein gwaith. Maent yn cefnogi pobl ifanc i archwilio lles meddyliol mewn ffyrdd creadigol a phositif, er mwyn iddynt allu edrych ar ôl eu hunain a’u chyfoedion. Maen nhw hefyd yn:

  • Helpu pobl ifanc i ddathlu Balchder yn ddiogel ac yn agored
  • Cynnal sesiynau ar-lein, er mwyn i bobl ifanc ledled y Ffindir allu cymryd rhan
  • Codi arian ar gyfer prosiectau newydd sydd wedi’u dylunio a’u cynnal gyda help y bobl ifanc

Nesaf, cyflwynodd ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed, Lexy a Lucy, hanes pedair blynedd o waith Meddwl Ymlaen Gwent. Dechreuodd y prosiect gydag ymchwil a roddodd lais i dros 200 o bobl ifanc. Yn seiliedig ar yr ymchwil hwnnw, datblygom weithdai hyfforddi, ymgyrchoedd a rhwydwaith eang o randdeiliaid. Rhannwyd ein cyflawniadau a’n heriau. Eglurwyd hefyd sut mae’r hyfforddiant a ddatblygwyd gennym yn helpu pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â rhieni a gofalwyr, i gael sgyrsiau ystyrlon am iechyd meddwl.

Diwrnod 3: Dysgu gan sefydliadau Helsinki

Cawsom gyfarfod â thri sefydliad arall. Y cyntaf oedd Koala, sy’n defnyddio celf, cyfryngau digidol a chyfryngau cymdeithasol i ysbrydoli pobl ifanc i siarad am les positif. Mae eu pobl ifanc yn dylunio ‘memes’ eu hunain i hyrwyddo hyn. Mae Koala hefyd yn cynnal digwyddiadau celf, crefftau ac ysgrifennu creadigol, ac wedi creu cyfleoedd i bobl ennill gradd a ddyluniwyd i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl.

Yna ymwelon â Helsinki Girls House, y cyntaf yn y Ffindir, a Helsinki Boys House.

  • Mae’r Girls House yn gweithio gyda merched a menywod, gan gynnwys unrhyw un sy’n uniaethu fel benywaidd. Mae’n cynnig rhywle diogel a chefnogaeth o ran hunaniaeth, tai, lles meddyliol ac eiriolaeth.
  • Mae’r Boys House yn cynnig cefnogaeth debyg i fechgyn a dynion ifanc, gyda phwyslais cryf ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Dangosodd y ddau brosiect i ni beth sy’n bosibl pan dderbynnir pobl fel y maent, a phan ystyrir cydraddoldeb a thegwch.

Yn y prynhawn, cynhaliodd ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed weithdy hyfforddi gweithwyr proffesiynol. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys darlithwyr prifysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol a staff o’r sefydliadau yr oeddem wedi cwrdd â nhw. Roedd y gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd ac roedd yn cynnwys pawb. Dysgom hefyd am yr heriau y mae gweithwyr proffesiynol yn y Ffindir yn eu hwynebu wrth siarad â phobl ifanc am iechyd meddwl.

Daethom â’r diwrnod i ben yn ymweld â’r siopau, ac yna canu carioci gyda Yeesi. Roedd yna dalent gerddorol wirioneddol anhygoel i’w gweld!

Diwrnod 4: Hyfforddi gyda phobl ifanc Yeesi

Ar ôl bore araf, ymunom â phobl ifanc Yeesi i gyflwyno ein gweithdy hyfforddiant i bobl ifanc. Ymunodd y Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed oedd ddim yn cyflwyno, a dysgu ochr yn ochr â hwy. Roedd yn gyfle i gymharu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc y Ffindir a Chymru, ac i ddechrau meithrin cyfeillgarwch.

Wedi hynny, cafwyd gweithgareddau creu bathodynnau a breichledau, sgyrsiau da a llawer o bitsa. Dysgom am ddiwylliannau ac ieithoedd ein gilydd, ac yna gorffen gyda rownd gystadleuol o golff-mini.

Diwrnod 5: Archwilio Helsinki

Ynghyd â Yeesi, ymwelon ni ag Amgueddfa Iechyd Meddwl Lapinlahden Lähde. Mae’n hen ysbyty iechyd meddwl sy’n dangos sut mae polisi iechyd meddwl y Ffindir wedi newid dros amser. Mae’n cynnwys gwaith celf gan gyn-gleifion, yn ogystal â straeon gan gleifion a staff.

Yn y prynhawn, cawsom weld ynysoedd hanesyddol y ddinas ar daith cwch o amgylch ynysfor Helsinki. Dangosodd hefyd gyfeillgarwch yn tyfu rhwng dau brosiect o ddwy wlad.

Diwrnod 6: Y Senedd a ffarwelio

Ar ein diwrnod olaf gyda Yeesi, rhoddodd yr Aelod Seneddol Fatim Diarra daith bersonol i ni o Senedd y Ffindir. Esboniodd hanes y Ffindir a’r ffordd mae’r Senedd yn gweithio. Roedd yn brofiad anhygoel!

Gorffennom yn Oodi, Llyfrgell Ganolog Helsinki, sydd â phopeth o lyfrau, cerddoriaeth a chelf i argraffwyr 3D a mannau tawel. Dyma’r lle perffaith i fyfyrio ar ein hwythnos ac i ffarwelio, am y tro.

Diwrnodau 7 ac 8: Y daith hir adref

Cafwyd heriau annisgwyl ar ein taith adref. Yn Amsterdam, cawsom ein dal yng nghanol aflonyddwch rheolaeth traffig awyr a effeithiodd ar hediadau i’r DU, a bu’n rhaid i ni aros noson ychwanegol. Roedd emosiynau’n uchel, ond gofalom am ein gilydd. Bu staff y prosiect yn Amsterdam ac yn ôl gartref yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cyrraedd adref cyn gynted â phosibl.

Ar ôl pedair awr o gwsg yn unig, cawsom dacsi i Frwsel, dal y trên Eurostar i Lundain, ac yna trên adref i Gymru. Roedd hynny’n chwe gwlad mewn dau ddiwrnod – antur go iawn – ond glynom gyda’n gilydd ac wynebu’r heriau fel tîm!

Diolch

Diolch enfawr i Taith am ariannu’r cyfnewid hwn, ac i Yeesi a’u pobl ifanc am fod yn westeiwyr gwych.

Diolch arbennig i Sarah, Daniele, Kim a Jane o ProMo Cymru, Mind yng Ngwent a Meic am ein cefnogi drwy’r broses gyfan.

Uwchlaw popeth, diolch i’r Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed a wnaeth y profiad hwn yn antur sydd werth ei chofio. Da iawn pawb!

Halyna Soltys
21 Hydref 2026

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Cydgynllunio

divider

Erthyglau Perthnasol

Bethan against a black background wearing a brown plaid shirt, smiling.
star

Newyddion

Croeso, Bethan!

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Bethan Gallivan i’r tîm fel ein Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg newydd! Mae gan Bethan radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ac yn dod â thair blynedd o brofiad o’i swydd flaenorol mewn elusen sy’n ffocysu ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon, bu’n […]

Marco holding his Award
star

Newyddion

Enillydd Cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield

Mae Cyfarwyddwr Datblygiad ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2026. Derbyniodd Marco’r wobr mewn seremoni yn yr Hilton, Caerdydd, ar 15fed Hydref 2026. Gwobr newydd gydag ystyr arbennig Mae’r wobr yn newydd eleni. Fe’i henwir er cof am Graham Benfield, a oedd yn Brif Weithredwr CGGC […]

star

Newyddion

Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.  Gwybodaeth am y prosiect ymchwil  Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889