Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd.

Wynebau cyfarwydd

Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd ac maent yn chwarae rhan bwysig iawn yn ei lwyddiant parhaus. Mae eu penodiad fel Prif Weithredwyr ar y Cyd yn adlewyrchu eu cryfderau fel unigolion, ond hefyd grym dull cydweithredol sydd wastad wedi bod yn ganolog i weithrediadau ProMo.

“Mae derbyn y cyfrifoldeb yma yn anrhydedd ac yn fraint. Gan fod y ddau ohonom wedi bod yn rhan o ProMo ac wedi gweithio ochr yn ochr â’n gilydd am flynyddoedd, mae’r rôl yma yn hynod bwysig i ni,” meddai Arielle a Cindy.

Mae ein rôl a rennir fel Prif Weithredwyr ar y Cyd yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad a’n egwyddorion cydweithredol sydd eisoes yn sail ein ffordd o weithio.”

Two young women (Arielle and CIndy) wearing black tshirts with neon writing saying 'CLIC You are connected) staring at someone off camera

Mwy am Arielle Tye

Cychwynnodd Arielle ei thaith gyda ProMo Cymru yn berson ifanc fel golygydd theSprout, llwyfan newyddion a gwybodaeth ar-lein i bobl ifanc. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid digidol, cynllunio gwasanaeth ac arloesedd sefydliadol, gan helpu sefydliadau i ailfeddwl gwasanaethau yn ôl anghenion cymunedau a’r cyfleoedd y gall digidol eu cynnig.

Fel Pennaeth Digidol ac fel rhan o raglen Newid, mae Arielle wedi cefnogi cannoedd o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru i ddatblygu gwasanaethau mwy hygyrch, cyfranogol ac effeithiol. Hyfforddodd mewn cynllunio gwasanaeth a chwblhaodd dystysgrif ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth, gan arbenigo mewn meddwl cynllunio ac arloesedd.

Mae Arielle hefyd yn cyfrannu at waith polisi digidol ac arloesedd ar lefel Gymreig ac Ewropeaidd, gan gynnwys gwaith yn ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial cyfrifol a gwasanaethau ieuenctid digidol.

Mwy am Cindy Chen

Mae Cindy, cyn Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo, wedi goruchwylio sawl prosiect, gan arddangos ei harbenigedd yn rheoli rhaglenni cymhleth, effaith uchel. Daw â phrofiad helaeth mewn gwaith ieuenctid a chyfathrebu, gyda Thystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid a chymwysterau ôl raddedig mewn Newyddiaduraeth ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Cindy yn arwain ac yn datblygu timau i gyflawni prosiectau a gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel, gyda hanes profedig o reoli prosiectau, monitro perfformiad a chyd-gynllunio ystyrlon gyda phobl a’r gymuned ehangach.

Gweledigaeth ar y cyd

Fel Prif Weithredwyr ar y Cyd, bydd Arielle a Cindy yn arwain gyda’i gilydd gyda gweledigaeth gyffredin sydd yn cynnal y gwerthoedd a’r diwylliant sydd yn diffinio’r sefydliad.

Bydd Arielle yn arwain ar gynhyrchu incwm, datblygu busnes a chynaliadwyedd incwm, gan weithio’n agos iawn gyda’r Tîm Cyllido a Datblygu a phartneriaid allanol.

Bydd Cindy yn arwain ar ddiwylliant a datblygiad sefydliadol, cyfathrebu ac ymgysylltiad, gyda chyfrifoldeb dros lywodraethu a strwythurau mewnol.

Three people (Cindy, Arielle and Marco) engaged in conversation sat at a desk with a laptop on it and two orange mugs with the letter P on them.

Edrych tuag at y dyfodol

Yn y misoedd nesaf byddant yn canolbwyntio ar drawsnewid i’w cyfrifoldebau newydd, yn cryfhau partneriaethau, gweithio’n agos gyda’r cyn Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes ar drosglwyddiad llyfn, a threulio amser gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i ddeall ehangder gwaith ProMo a’r bobl a’r syniadau sy’n ei yrru yn well.

Rhannai Marco, sydd wedi symud i swydd newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu:

“Wedi gweithio’n agos gyda Cindy ac Arielle mae gen i bob ffydd yn eu harweinyddiaeth a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol ProMo.”

Mae’r foment hon yn un llawn cyfrifoldeb a phosibiliadau i Arielle a Cindy: “Rydym wir yn edrych ymlaen at y bennod nesaf yma.”

Mae ProMo Cymru yn symud ymlaen gyda sylfaen cryf, yn cael ei arwain gyda phwrpas clir a thîm arweinyddiaeth sydd yn barod i adeiladu ar etifeddiaeth falch.

Tania Russell-Owen
8 Mai 2026

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]

Love Your Period Campaign Poster
star

Cydgynllunio

Caru dy Fislif: Ymgyrch Wedi’i Chyd-gynhyrchu

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i roi llwyfan i leisiau ifanc a chreu newid ystyrlon. Mae Caru Dy Fislif, ymgyrch a gynhyrchwyd ar y cyd â llinell gymorth Meic a phobl ifanc o Gymru, yn enghraifft berffaith o hyn. Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgyrchydd ifanc Molly Fenton, sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889