Cryfhau Gwybodaeth Ieuenctid Ar Draws Ewrop: Cymru yng Nghynulliad ERYICA

Youth information workers from across Europe standing for a group photo at the ERYICA General Assembly in 2025

Yn gynharach eleni, teithiodd ein Prif Weithredwr, Marco Gil-Cervantes, i Chișinău, Moldofa, i fynychu 36ain Cynulliad Cyffredinol ERYICA. Dyma ei hanes.


Roedd Marco yn cynrychioli’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid yn ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Gwybodaeth Ieuenctid a Digidol, ymunodd ag arbenigwyr gwybodaeth ieuenctid o bob cwr o Ewrop i archwilio sut y gallwn wella mynediad at wybodaeth o safon i bobl ifanc.

Daeth y digwyddiad, noddwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Dinas Chișinău, ag aelodau ERYICA ynghyd i lunio strategaeth y dyfodol, rhannu arloesiadau, a chryfhau cydweithio rhyngwladol. Cefnogwyd ymweliad Marco gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw ERYICA?

ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth a Chynghori Ieuenctid Ewrop) yw’r sefydliad ymbarél Ewropeaidd ar gyfer gwybodaeth ieuenctid, sy’n cynnwys dros 30 o aelodau cenedlaethol. Mae’r aelodau yma’n cynrychioli buddiannau gwybodaeth ieuenctid eu gwledydd ac yn cefnogi darpariaeth gwybodaeth hygyrch a dibynadwy i bobl ifanc.

Mae gwybodaeth ieuenctid yn rhan hanfodol o’r cynnig gwaith ieuenctid. Mae’n cyd-fynd yn agos â’r CCUHP, Erthygl 17 yn benodol, sy’n nodi bod gan “bob plentyn yr hawl i wybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau.”

Mewn sawl rhan o Ewrop, mae gwybodaeth ieuenctid wedi’i hymgorffori’n dda mewn polisi ac ymarfer. Yn yr Alban, er enghraifft, mae’n gysylltiedig â chynigion a cherdyn Hawliau Ieuenctid.

Graffiti on a wall in Moldova with the words 'Post Soviet Kids'

Cymru ac ERYICA

Llywodraeth Cymru yw aelod swyddogol ERYICA, ac mae ProMo Cymru wedi gweithio gydag ERYICA ers dros ddegawd. Mae’r berthynas hir yma wedi helpu i adeiladu’r sylfeini ar gyfer datblygu gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru.

Fel sefydliad yn y sector gwirfoddol, nid yw cynnal yr ymgysylltiad yma wedi bod yn hawdd bob amser, gan ei fod yn gofyn am amser ac adnoddau. Mae CWVYS yn cefnogi lledaenu gwaith ERYICA ledled Cymru, gan sicrhau bod gwybodaeth ieuenctid ar yr agenda cenedlaethol.

Uchafbwyntiau o’r Cynulliad Cyffredinol

Mae’r cynulliad yn lle ar gyfer rhwydweithio, rhannu arfer da, a gosod cyfeiriad strategol ar gyfer dyfodol ERYICA. Mae hefyd yn creu cysylltiadau â mentrau ehangach trwy’r Bartneriaeth Ieuenctid, cangen polisi ieuenctid Cyngor Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Bu grŵp o bobl ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Chișinău yn cefnogi’r digwyddiad cyfan.

Cymerodd Marco ran mewn sawl gweithgaredd allweddol yn y cynulliad, gan gynnwys:

  • Sesiwn gynllunio strategol ar gyfer ERYICA
  • Ethol Bwrdd newydd ERYICA
  • Rhannu prosiectau a sgiliau ar draws gwledydd
  • Trafodaethau â gwledydd eraill am eu datblygiadau a’u dulliau o ran gwybodaeth ieuenctid
  • Seremoni Wobrwyo Label Ansawdd Gwybodaeth Ieuenctid
Three people crouched on the floor working on a flip chart paper with  post its stuck on, drawing connecting lines between each with blue and black type. A group of people are gathered around them watching.

Ffocws Presennol ERYICA

Mae rhai o brif brosiectau a gweithgareddau ERYICA yn cynnwys:

  • Hyfforddiant Gwybodaeth Ieuenctid i weithwyr proffesiynol
  • Grwpiau gwaith a thasgluoedd
  • Deallusrwydd Artiffisial wrth ddarparu gwybodaeth ieuenctid
  • Iechyd meddwl
  • Llythrennedd y cyfryngau
  • Datblygu adnoddau digidol
  • Pecyn cymorth a hyfforddiant DesYIgn (egwyddorion cynllunio gwasanaeth ar gyfer datblygu gwasanaethau gwybodaeth)
  • Label Ansawdd Gwybodaeth Ieuenctid

Beth Nesaf i Gymru?

Mae ein cynlluniau ar gyfer Cymru yn cynnwys:

  • Cyflwyno hyfforddiant gwybodaeth ieuenctid ERYICA a’r Label Ansawdd Gwybodaeth Ieuenctid
  • Ehangu’r defnydd o’r Pecyn Cymorth DesYIgn i osod dulliau cynllunio gwasanaeth mewn gwasanaethau ieuenctid

Wrth i’r Corff Ieuenctid yng Nghymru barhau i ddatblygu, rydym yn gobeithio bydd yn rhoi mynediad gwell i bobl ifanc i wybodaeth ddibynadwy, glir, a pherthnasol. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwell iddynt gael llais ac i bobl wrando arnynt.

Os hoffech chi wybod mwy, mae croeso i chi gysylltu: marco@promo.cymru

Tania Russell-Owen
23 Gorffennaf 2025

star

Gwybodaeth

star

ProMo Cymru

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889