Hysbyseb Swydd: Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth  

Gwnewch Wahaniaeth: Byddwch yn Bencampwr i Bobl Ifanc 

Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth gyda Meic a thîm Gweithredu Cymdeithasol ProMo Cymru (llawn amser, rhan amser, sesiynol, dan hyfforddiant) 

Ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl bob dydd? 

Rydym yn chwilio am Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth angerddol ac ymroddedig. Byddech yn bencampwr dros blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, a gofalwyr. 

Pam y byddech chi’n hoffi gweithio yn ProMo Cymru: 

  • Cael effaith go iawn: Yn galluogi newid ac yn grymuso pobl i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a’u hanghenion yn cael eu cyrraedd 
  • Bod yn rhan o dîm sy’n meithrin: Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr angerddol sydd yn rhannu eich ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol 
  • Dysgu a thyfu: Datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda hyfforddiant, adlewyrchu, a chefnogaeth 
  • Gweithio’n hyblyg: o’n swyddfa yng Nghaerdydd a/neu weithio gartref 

Yr hyn byddech chi’n ei wneud: 

  • Darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar y person 
  • Darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, a chymorth fel arall ar y ffôn, e-bost, neges testun, neges ar y we a WhatsApp 
  • Gweithio gydag unigolion i gyflawni newidiadau positif sy’n seiliedig ar benderfyniadau gwybodus a hyder a gwytnwch gwell 
  • Creu cysylltiadau ystyrlon rhwng unigolion, adnoddau, a gwasanaethau 
  • Sicrhau perthnasau gwaith pwrpasol ac yn ddylanwad positif ar y tîm 

Yr hyn ydych chi: 

  • Mae gwerthoedd yn bwysig i chi, ac rydych chi’n angerddol dros hawliau, cyfiawnder cymdeithasol a lles. 
  • Rydych chi’n awyddus i ddatblygu a defnyddio eich potensial, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad  
  • Rydych yn agored, yn dosturiol, yn ddibynadwy, ac yn hyblyg  

Lleoliad: Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref 

Cyflog: £21,840 – £29,600 (dan adolygiad)  

Dyddiad Cau: Hanner dydd, 31 Mawrth, 2025 

Dyddiad Cyfweliadau: 2, 23, 24 Ebrill 2025  

Barod i Wneud Gwahaniaeth? Ymgeisiwch Nawr! 

E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru

Am wybodaeth cysylltwch: people@promo.cymru 

Darganfod mwy am ProMo Cymru: www.promo.cymru  

Darganfod mwy am Meic: www.meic.cymru 

Megan Lewis
10 Mawrth 2025

star

Llinell Gymorth

star

Swyddi

star

Meic

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.  Gwybodaeth am y prosiect ymchwil  Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng […]

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889