Meta Quest Pro Rhad ar Gyfer eich Elusen
Mae yna botensial mawr i sefydliadau trydydd sector ym myd Realiti Rhithwir (VR). Gall pensetiau VR fod yn ddrud, ac felly’n anghyraeddadwy i nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn defnyddio technoleg i wella eu gwasanaethau, ond efallai bod ateb ar gael…
Beth sy’n arbennig am pensetiau VR?
Gyda realiti rhithwir (VR) gellir profi bydoedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur gan ddefnyddio pensetiau arbennig. Mae’r pensetiau yma’n eich tynnu allan o’ch realiti ac yn dangos amgylcheddau 3D gellir eu harchwilio a rhyngweithio â nhw wrth symud eich pen a’ch corff.
Gellir defnyddio VR ar gyfer chwarae gemau, addysg, hyfforddiant busnes, a mwy! Mae’n cynnig posibiliadau cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru i ddatblygu eich gwaith, gwella cynhyrchiant staff a chefnogi defnyddwyr eich gwasanaeth mewn ffyrdd unigryw ac effeithiol.
Dychmygwch eich bod yn elusen amgylcheddol. Gallech gludo’r rhai sy’n ariannu eich gwaith i’r Wyddfa, gan arddangos ymdrechion cadwraeth eich elusen.
Gydag ychydig o ddychymyg, gellir defnyddio VR o fewn y trydydd sector Cymreig.

A ddylai eich sefydliad fuddsoddi mewn VR?
Mae technoleg yn newid yn barhaus. Gall cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau digidol deimlo’n ormod, ond dyma’r allwedd i arloesi ac ystyried y dyfodol. Ni ddylai offer digidol godi ofn!
Er y gall cost fod yn rhwystr i elusennau sydd â blaenoriaethau eraill, efallai bod hyn yn haws nag yr oeddech chi’n meddwl gyda disgownt Charity Digital ar pensetiau Meta Quest Pro.
Mae’r meini prawf ar gyfer y disgownt yma yn ddibynnol ar anghenion eich sefydliad, ond, os mai cost yw’r rhwystr mwyaf i chi fuddsoddi mewn VR, yna efallai bod y disgownt yma yn berffaith i chi.
Beth yw’r disgownt?
Mae Charity Digital, mewn partneriaeth â Meta, yn cynnig cyfle gwych i fudiadau trydydd sector cymwys brynu pensetiau Meta Quest Pro VR am bris gostyngol sylweddol.
Pris y Meta Quest Pro yn 2024 oedd £999, ond mae Charity Digital yn cynnig pensetiau Meta Quest Pro VR ar eu gwefan am £200 + TAW.
Mae hwn yn arbediad o dros £750, ond rhaid ystyried ychydig o bethau pwysig cyn mynd ati i brynu. Er bod y gostyngiad yn un gwych, mae angen gwerthuso’n ofalus os yw’n cyd-fynd â chyllideb ac anghenion VR eich sefydliad.
Yn ail, mae dewisiadau eraill rhatach ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys y Meta Quest 2 neu Meta Quest 3. Ond, mae cost y Meta Quest Pro gyda’r gostyngiad elusen yn rhatach ar hyn o bryd.
Y tu allan i faes Meta VR, mae cynnyrch VR eraill ar y farchnad. Mae’r rhain yn cynnwys y Pico 4.

Pam y Meta Quest Pro?
Roedd y Meta Quest Pro yn offer VR o’r radd flaenaf cyn iddynt stopio cynhyrchu’r fersiwn yma. Gyda holl alluoedd VR ar gyfer chwarae gemau ac adloniant, yn ogystal â manylebau caboledig at ddefnydd proffesiynol.
Mae’r penset yn cynnwys delweddau eglurdeb o safon uchel, tracio llaw manwl gywir, a dyluniad cyfforddus o’i gymharu â phensetiau Meta VR cynharach.
Hawlio’r gostyngiad
Mae’n hawdd hawlio’r gostyngiad. Sicrhewch fod eich sefydliad trydydd sector wedi’i gofrestru gyda’r Charity Digital Exchange.
Ar ôl cofrestru a chael eich gwirio, chwiliwch am “Meta Quest Pro VR Headset” ar y dudalen cynnyrch. Gallwch ddysgu mwy am y pris gostyngol ac unrhyw ofynion cynnyrch penodol.
Os ydych chi’n awyddus i fwrw ymlaen, gallwch brynu’n uniongyrchol drwy’r Charity Digital Exchange.
Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.
Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.
Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025
Technoleg
Digidol Trydydd Sector
Erthyglau Perthnasol
Swyddi
Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau
Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel! Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]
Swyddi
Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg
Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]