default person image

Faith Walker

Pwyllgor Rheoli

Mae Faith yn ferch, chwaer, mam, modryb a mam-gu ffyddlon gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn cefnogi cymunedau ledled Cymru. Cydsefydlodd Women Stepping Out, sefydliad ar lawr gwlad sy’n hyrwyddo addysg a hyder ymysg y gymuned Affricanaidd Garibïaidd yng Nghymru.

Yn niwroamrywiol ei hun, mae Faith yn cynnig mewnwelediad profiad bywyd a chynhwysiant i bob agwedd o’i gwaith. Mae’n ymarferydd ieuenctid a chymuned cymwys ac mae ganddi BA (Anrh) mewn Addysg Gymunedol a Meistr mewn Addysg.

Mae Faith wedi cyflwyno prosiectau ymchwil ac ymgynghori i Diverse Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar brofiadau byw cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd, gan gynnwys rhai sydd â dementia. Mae hi wedi siarad ar lwyfannau rhyngwladol, gan gynnwys UNESCO a Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol, ac wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chynghrair Hil Cymru.

Mae Faith yn eistedd ar y Panel Ymgynghorol i Oedolion ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru. Hi yw Cyfarwyddwr Gweithredol FOCSCT C.I.C., Sefydliad Pobl Anabl sy’n cefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan Glefyd Celloedd Cryman a Thalasemia.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889