Newid – Digidol ar Gyfer y Trydydd Sector
Gwneud digidol yn haws i’r trydydd sector yng Nghymru
Cleient
Llywodraeth Cymru
Sector
Trydydd Sector Cymru
Partneriaid
CGGC
Cwmpas
Gwasanaethau
Cynllunio Gwasanaeth
Hyfforddiant ac Ymgynghoriad
Dylunio a Brandio
Marchnata Digidol
Trosolwg
Yn seiliedig ar ymchwil a byd sydd yn newid yn gyflym, sylweddolodd ProMo Cymru, CGGC a Cwmpas yr angen cynyddol i gefnogi’r trydydd sector gyda hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth ar bopeth digidol.
Arweiniodd hyn at greu Newid, rhaglen wedi’i ddatblygu a’i chyflwyno mewn partneriaeth rhwng CGGC, Cwmpas, a ProMo Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chefnogi gan CDPS. Y nod yw cefnogi sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru i feithrin hyder a gallu wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol a deall safon gwasanaethau digidol Cymru.
Hyd yma, mae Newid wedi cefnogi cannoedd o sefydliadau ledled Cymru.

Ein Dull Gweithredu
Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar gefnogi’r sector i gynllunio a phrofi gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan feithrin hyder mewn gwasanaethau digidol trwy brofiad ymarferol.
Rydym yn gwneud hyn gyda:
Hyfforddiant a Mentora
Rydym yn cefnogi sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gan ddefnyddio adnoddau digidol a chynllunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Rydym yn darparu hyfforddiant ymarferol sy’n helpu sefydliadau i feithrin eu sgiliau digidol a’u hyder. Mae hyn yn cynnwys ein cwrs Cynllunio Gwasanaeth Digidol, sy’n cyfuno mentora, hyfforddiant grŵp, a gweithdai wyneb yn wyneb. Mae cyfranogwyr yn defnyddio dulliau cynllunio gwasanaeth i ymchwilio i anghenion defnyddwyr, datblygu prototeipiau a phrofi datrysiadau ar gyfer yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Mae ein hyfforddiant yn helpu sefydliadau i:
- Mewnosod ffyrdd digidol o weithio
- Cynllunio a phrofi datrysiadau digidol gan ddefnyddio adnoddau dim cod a chost isel
- Gwella sgiliau a hyder digidol ar draws timau
- Cynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion defnyddwyr
Dywed cyfranogwyr blaenorol
“Brys mawr yw fy mywyd gwaith ran amlaf, felly mae cael amser i ymchwilio a datblygu wedi gwneud gwahaniaeth… mae’r profiad a’r wybodaeth darparwyd gan y staff wedi fy helpu i ddefnyddio fy amser yn effeithiol iawn.”
“Dysgais efallai ein bod yn meddwl ein bod yn deall y cyfeiriad cywir dylid ei gymryd, ond gall cynnwys defnyddwyr gwasanaeth newid natur y prosiect yn llwyr er gwell.”
“Rwy’n gwella pob rhan o fy niwrnod gwaith yn gyson wrth feddwl sut y gallaf weithredu’r hyn rwyf wedi’i ddysgu.”
“Mae’r ffaith nad oedd rhaid i mi fod yn berffaith yn syth wir wedi newid fy meddylfryd yn broffesiynol ac yn bersonol.”
Cyfathrebu ac Adnoddau
ProMo sy’n arwain ar gyfathrebu Newid. Rydym yn sicrhau bod negeseuon a brandio’r bartneriaeth yn glir ac yn gyson.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cynhyrchu’r brandio a’r dyluniadau
- Datblygu offer a chynnwys yn seiliedig ar anghenion a nodwyd gennym trwy ein gwaith gyda sefydliadau trydydd sector. Mae hyn yn cynnwys asesiad risg AI, templed CRM y gellir ei addasu, a ffordd o fesur Mabwysiadu Technoleg Ddigidol eich sefydliad.
- Creu pecyn cymorth cyfathrebu gyda negeseuon allweddol, canllawiau cynnwys, delweddau a thempledi at ddefnydd partneriaid Newid
- Cynhyrchu cylchlythyr misol i rannu diweddariadau, dysgu a chyfleoedd o fewn y sector
- Adeiladu a rheoli gwefan Newid, gan gynnwys cadw’r wefan yn gyfredol, gyda manylion am gefnogaeth, digwyddiadau ac adnoddau newydd
- Creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac olrhain y cyrhaeddiad a’r ymgysylltiad cyffredinol ar draws y bartneriaeth
- Cynhyrchu cynnwys fideo dwyieithog
Ein nod yw ei gwneud hi’n haws i sefydliadau ddeall a chael mynediad at gefnogaeth Newid.
Ymchwil i Anghenion y Sector
Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr i ddeall anghenion y sector.
Yn 2024, cyhoeddwyd Adroddiad Darganfod Newid, yn seiliedig ar gyfweliadau ag arweinwyr sefydliadau trydydd sector o wahanol feintiau a lefelau aeddfedrwydd digidol. Ein nod oedd deall yr heriau y maent yn eu hwynebu a nodi ble y gallai datrysiadau digidol ddarparu cefnogaeth.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) i gynnal prosiectau ymchwil wedi’u targedu. Roedd hyn yn cynnwys adolygu astudiaethau blaenorol, cynnal cyfweliadau a rhannu canfyddiadau trwy adnoddau ac adroddiadau ymarferol.
Mae’r mewnwelediadau yma yn llywio syniadau a phrototeipiau newydd, fel Dewch i Ni Drafod Digidol, cyfarfodydd ar-lein lle gall CVCs rannu arfer da ac archwilio pa gefnogaeth sydd fwyaf defnyddiol.
Canlyniad
Mae Newid yn parhau i ymateb i anghenion y sector. Mae ein cefnogaeth wedi helpu cannoedd o sefydliadau i ddatblygu eu hyder wrth ddefnyddio digidol a gwella eu gwasanaethau ar gyfer eu defnyddwyr.
Wrth gyfuno hyfforddiant, cyfathrebu, cynllunio gwasanaeth, ac ymchwil, rydym yn gweithio i helpu’r trydydd sector i ddefnyddio digidol mewn ffyrdd sy’n ymarferol, yn fforddiadwy, ac yn briodol ar gyfer eu hanghenion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag arielle@promo.cymru am sgwrs.