star

7 Darn o Gyngor i Elusennau Sy’n Awyddus i Adeiladu Gwasanaethau Digidol am y Tro Cyntaf



Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 4 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae ôl-ddoethineb yn beth rhyfeddol. Mae mor werthfawr â pherl. Felly yn 2018 gofynnodd y Ganolfan Tech for Good i chwe gwasanaeth a ariannwyd gan y rhaglen Tech for Good pa gyngor ôl-ddoethineb byddant yn cynnig i elusennau sydd eisiau adeiladu gwasanaethau digidol am y tro cyntaf.


Roedd y chwech wedi bod yn llwyddiannus. Roeddent yn dangos effaith ar ôl i’w grant ddod i ben. Felly, roedd ganddynt rywfaint o brofiad i rannu. Dyma beth roeddent yn awyddus i siarad amdano gyda’r rhai ifanc:

1. Datblygu cysyniad cyn gwneud cais am gyllid

Mae gan gysyniadau cryf gyfle am gyllid. Ond mae gan gysyniadau sydd wedi cael rhywfaint o ymchwil, a phrofi hyd yn oed, gyfle llawer gwell. Felly buddsoddwch amser ac arian i ddatblygu cysyniad a cheisio ei brofi cyn gwneud cais am gyllid. Gallwch brofi un gan ddefnyddio Design Hops hyd yn oed.

Meddyliwch pa adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael. Gallwch brofi rhywfaint o’ch meddwl gan ddefnyddio beiro a phapur neu apiau rhad ac am ddim sydd eisoes ar gael. Bydd hynny’n rhoi tystiolaeth dda i chi cyn mynd at gyllidwr.” – hen dderbynnydd grant

2. Darganfod y partner technoleg gywir

Dyma’r peth cyntaf a ddywedodd y rhan fwyaf. Rydym wedi ysgrifennu amdano eisoes. Ond nid yw’n ddigon i ddarganfod y partner cywir yn unig; dewch o hyd i gyllid sy’n eich galluogi i gyflogi’r un cywir heb dorri corneli.

Yn ddelfrydol, bydd y partner cywir eisoes wedi mentro i ganol gwasanaethau digidol o fewn y sector cymdeithasol ac yn gallu pontio’r bwlch diwylliant ac iaith rhwng eich sefydliad a’r technegwyr.

3. Cynllunio ar gyfer cynnal a chadw a chynaliadwyedd digidol

Mae cychwyn pethau o’r newydd yn broses gyffrous ac egnïol. Ond mae’n rhaid i chi gynllunio ymlaen llaw o hyd. Ystyriwch gynnal a chadw a chynaliadwyedd digidol eich darpar wasanaeth y tu hwnt i ddiwedd y grant (e.e. cyllid parhaus a sut mae’n cyd-fynd â chynigion eich sefydliad). Peidiwch ag aros, gwnewch hynny nawr.

“Meddyliwch am y costau a’r cyfreithlondeb ohono – y pethau a fyddai fel arfer yn ddiflas – yn hytrach na chael eich sugno i’r pethau effaith gymdeithasol gyffrous.” – hen dderbynnydd grant

4. Cefnogaeth eich uwch staff

Mae arweinyddiaeth ddigidol dda a chefnogaeth uwch reolwyr yn wirioneddol bwysig. Hebddo, mae’n annhebygol y byddwch yn cael cyllid. Ond mae’n fwy na chael cefnogaeth yn unig, mae’r gallu i adnabod noddwr cywir ar gyfer y prosiect a’r arweinydd prosiect cywir yn bwysig. Yna, mae’n ymwneud â rhoi cefnogaeth iddynt a sicrhau bod tîm gwych o’u cwmpas.

5. Rheoli disgwyliadau

Eich disgwyliadau chi, fi, a phawb.

Byddwch yn realistig. Byddwch yn ddoeth ynglŷn â’r hyn y gellir ei gyflawni. Osgowch addo gormod yn eich cais am gyllid neu gynllun cyflawni. Nid oes esgus i beidio ag addysgu’ch hun am y lefelau llwyddiant y gallwch eu cyflawni yn gynnar.

Yna addysgwch eich tîm, eich rheolwr, eich uwch reolwyr a’ch ymddiriedolwyr. Helpwch nhw i ddeall pam y gallai eich allbynnau cynnar fod yn llai na phrosiect wyneb yn wyneb traddodiadol, ond yn llawer uwch yn ddiweddarach.

6. Defnyddwyr i gymryd rhan o’r cychwyn

Mae cychwyn gydag anghenion defnyddwyr a’u cadw’n rhan o’r broses yn egwyddor graidd gwasanaeth digidol. Gallwch wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn diwallu anghenion defnyddwyr. Nid yw hyn yn golygu gofyn iddyn nhw beth maent eisiau, ond mae’n golygu deall eu hanghenion a’u profiad.

Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig deall beth yw’r gwasanaeth neu’r prosiect a phwy yw’r gynulleidfa. Felly, yn gyntaf oll, sicrhewch ei fod yn brosiect sydd wedi’i ddiffinio’n dda. Mae’r gynulleidfa’n wirioneddol bwysig, ar gyfer pwy, beth yw ei bwrpas a beth fydd y canlyniad.” – Grantiwr Aur

7. Byddwch yn onest am y bylchau yn eich gwybodaeth

Rydych chi’n mynd ar daith newydd a ddim yn gwybod sut brofiad fydd hyn. Ond gallwch chi ddysgu am beth i’w ddisgwyl. Dysgwch am brosesau datblygu ystwyth, gwahanol fathau o werth a’r heriau sydd o’ch blaen. Darllenwch am brofiad defnyddwyr a’r gwahaniaethau rhwng cyd-gynhyrchu a chynllunio gwasanaeth. Llenwch eich pen â gwybodaeth. Ni fydd yn rhoi profiad i chi ond bydd yn eich helpu i osgoi gorfod gwneud pethau i fyny wrth i bethau symud.

Un diwrnod gallai fod yn chi

Byddwch yn dysgu llawer wrth gynnal eich prosiect gwasanaeth digidol cyntaf. Un diwrnod gallech chi fod yn rhannu eich cyngor a’ch doethineb, neu’n ysgrifennu am eich profiadau eich hun.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889