Canllaw Fideo: Datgloi Pŵer AI i Ddechreuwyr
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 3 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Nid i’r cewri technoleg yn unig y mae Deallusrwydd Artiffisial (AI). Darganfyddwch sut y gall sefydliadau trydydd sector Cymru ddefnyddio pŵer offer AI i weithio’n fwy effeithlon, creu cynnwys gwell, a chael mwy o effaith gydag adnoddau cyfyngedig.
Beth Fyddwch chi’n ei Ddysgu
Dan arweiniad Andrew Collins, Uwch Reolwr Digidol ProMo Cymru, mae’r weminar yma (isod), a recordiwyd yn wreiddiol fis Hydref 2023, wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol trydydd sector sy’n newydd i AI neu sydd ar gychwyn eu taith deallusrwydd artiffisial. Mae’r hyfforddiant yma yn cymryd agwedd gefnogol, gam wrth gam at gyflwyno’r offer pwerus yma.
Mae’r gweminar yma’n egluro cysyniadau AI cymhleth gan roi mewnwelediadau ymarferol y gallwch eu gwneud ar unwaith yn eich gwaith. Byddwch yn darganfod:
- Beth yw AI cynhyrchiol a sut mae’n gweithio
- Sut i ddefnyddio offer wedi’u pweru gan AI i arbed amser i chi
- Arddangosiad o wahanol offer AI a’u galluoedd (ar adeg recordio)
- Sut i ysgrifennu ‘prompt’ effeithiol
- Arddangos cam wrth gam sut i greu cynnwys gan ddefnyddio AI
Pam Bod AI yn Bwysig i Sefydliadau Trydydd Sector
I sefydliadau sy’n gweithredu gyda chyllidebau tynn ac amser staff cyfyngedig, gall offer deallusrwydd artiffisial newid y gêm. O greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu ceisiadau grant i awtomeiddio tasgau arferol a chynhyrchu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd, gall AI helpu eich tîm i gyflawni mwy gan roi amser i ganolbwyntio ar eich cenhadaeth graidd.
Gwyliwch y weminar isod i ddarganfod sut y gall AI drawsnewid effeithlonrwydd ac effaith eich sefydliad. P’un a ydych chi’n chwilfrydig am ei botensial neu’n barod i ddechrau gweithredu’r offer yma, mae’r hyfforddiant yma yn fan cychwyn perffaith ar gyfer eich taith deallusrwydd artiffisial.
Dysgu pellach
Mae’r hyfforddiant AI yma yn rhan o’n prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ehangach, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae fideos eraill y gyfres yn cynnwys:
- Canva: Sut gall y trydydd sector greu dyluniadau proffesiynol yr olwg am ddim ar Canva Non-profit
- TikTok: Pam y dylai sefydliadau trydydd sector Cymru fod arno a sut i gyrraedd eich cynulleidfa
Barod i fynd â’ch sgiliau digidol i’r lefel nesaf? Mae ein gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau un-i-un personol, rhad ac am ddim gydag arbenigwyr digidol, sydd ar gael i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru yn unig. P’un a yw’n meistroli AI neu’n mynd i’r afael ag unrhyw her ddigidol arall, rydym yma i’ch helpu i lwyddo.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst