star

Sut Gall eich Elusen Ddefnyddio AI yn Foesegol



Awdur: Dawn Kofie; Amser Darllen: 9 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi’i fewnosod yn ein bywydau bob dydd. Ac mae dros chwarter o elusennau yn ei ddefnyddio yn eu gwaith bob dydd. Mae gan AI’r potensial ar gyfer lles cymdeithasol ac effeithlonrwydd, ond mae materion moesegol ynghylch ei ddefnyddio.


Mae’r erthygl yma yn canolbwyntio ar sut y gall eich elusen wneud y gorau o fanteision offer sy’n cael eu pweru gan AI mewn ffordd foesegol.

Beth yw AI

Diffiniad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o AI yw:

“…term ymbarél ar gyfer ystod o dechnolegau sy’n seiliedig ar algorithmau gall ddatrys tasgau cymhleth trwy gyflawni swyddogaethau a oedd gynt yn gofyn am feddwl dynol. Mae penderfyniadau a wneir gan ddefnyddio AI naill ai’n gwbl awtomataidd, neu gyda ‘bod dynol yn y broses.”

Cyfleoedd i ddefnyddio AI yn eich sefydliad

Gall offer AI arbed amser ac arian i’ch elusen.

Gall offer fel ChatGPT, Jasper AI a Copy.ai eich helpu i greu cynnwys. Mae Alzheimers UK yn eu defnyddio i:

  • Dechrau’r broses o feddwl am syniadau
  • Helpu i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • Newid adroddiadau neu ymchwil yn sgriptiau fideo. Maent hefyd yn defnyddio offer fideo AI, fel pictory.ai, i gynhyrchu fideo i fynd gyda’r sgript.

Ond fel mae Tom Pratt yn amlinellu yn ei flog ar AI i elusennau, nid yw AI yn cychwyn nac yn gorffen gydag offer creu cynnwys. Gallwch ei ddefnyddio i:

  • Creu delweddau a sain, yn ogystal â fideo
  • Codi arian yn fwy effeithlon
  • Gwella ymgysylltiad cefnogwyr
  • Gwneud eich ymgyrchoedd marchnata yn fwy effeithiol
  • Tracio eich cynnydd a mesur eich effaith
  • Symleiddio prosesau a gwella llif gwaith.

Mae Torchbox wedi cynhyrchu cyflwyniad clyfar i AI. Maent hefyd wedi llunio rhai enghreifftiau o sut mae AI yn cael ei ddefnyddio i helpu sefydliadau dielw i greu effaith.

Materion moesegol gyda sut mae AI yn cael ei ddatblygu

Nid yw materion moesegol gyda datblygu technoleg yn newydd. Er enghraifft, mae’r gadwyn gyflenwi gliniaduron a ffonau symudol yn cynnwys cloddio cobalt, achos camdriniaethau hawliau dynol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Byddai rhai’n dadlau bod y ffordd y mae AI yn cael ei ddatblygu hefyd yn ei gwneud yn anfoesegol. Mae’r cwmnïau sy’n creu AI yn gyfrinachol ynglŷn â’r setiau data maen nhw’n eu defnyddio i hyfforddi eu meddalwedd. Mae’r setiau data yma yn cynnwys symiau enfawr o ddelweddau, testun, sain, fideo a phwyntiau data o’r rhyngrwyd. Ond ychydig iawn o sylw, neu ddim sylw o gwbl, a roddir i hawlfraint, trwyddedu, perchnogaeth na chaniatâd.

Fel gyda chloddio cobalt, mae yna hefyd faterion moesegol ynghylch cadwyni cyflenwi llafur dynol sy’n gysylltiedig â datblygu AI. Mae cwmnïau’n cyflogi gweithwyr yn Affrica a’r Philipinas i adolygu’r cynnwys sy’n pweru eu systemau AI. Mae’r gweithwyr hyn yn delio â chynnwys sy’n cynnwys cam-drin rhywiol graffig, araith gasineb a thrais. Maen nhw’n cael eu talu’n wael, yn aml yn cael trawma o’r cynnwys maen nhw’n ei gymedroli a gellir eu diswyddo ar fyr rybudd.

Peryglon a chyfyngiadau AI

Mae anfanteision eraill y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt os yw’ch elusen am ddefnyddio AI yn foesegol.

Materion diogelwch data a phreifatrwydd

Gall systemau AI gasglu data personol sydd ar gael i’r cyhoedd o bethau fel proffiliau cyfryngau cymdeithasol a Thŷ’r Cwmnïau. Gallant hefyd ei gasglu’n anfwriadol, er enghraifft trwy adnabyddiaeth wyneb. A gall sgwrsfotiaid AI ddyfalu gwybodaeth sensitif – er enghraifft eich hil, lleoliad a galwedigaeth – gan ddefnyddio’r hyn rydych chi’n ei deipio. Nid ydynt yn dryloyw bob amser am sut mae systemau AI yn defnyddio’r data personol yma. Nid yw pob cwmni AI yn agored ynglŷn â pha mor hir, ble, a pham maen nhw’n storio data personol pobl. Ac nid oes gan bob model AI fesurau diogelwch ar waith i amddiffyn data personol.

Cynnal a gwaethygu rhagfarn a gwahaniaethu

Yn aml, mae’r setiau data a’r data y mae cwmnïau AI yn eu defnyddio yn dod o’r rhyngrwyd, sy’n llawn cynnwys anghywir a rhagfarnllyd. Yn aml, mae’r setiau data yma’n anghyflawn, anghywir, sydd ddim yn amrywiaethol. Mae hyn yn gallu, ac wedi, arwain at benderfyniadau gwahaniaethol.

Cynnwys ffug

Gall offer AI fel ChatGPT gynhyrchu gwybodaeth anghywir a’i gyflwyno fel pe bai’n wir. A gellir defnyddio AI i glonio lleisiau a chreu delweddau, fideo a sain ffug. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn sydd, fel llawer o rai eraill, yn agored i gamdriniaeth neu ei ddefnyddio i achosi niwed.

Diffyg eglurder

Natur egluradwy (a elwir hefyd yn ‘natur ddeongladwy’) yw’r cysyniad y gellir egluro system AI a’i hallbwn mewn ffordd sy’n “gwneud synnwyr” i berson ar lefel dderbyniol. Ond, nid yw wastad yn glir sut mae’r algorithmau a ddefnyddir mewn systemau AI yn gwneud penderfyniadau. Felly mae’n anodd i bobl ddeall sut mae eu data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau sy’n cael effaith arnynt.

Perygl enw da

Os yw staff yn mewnbynnu gwybodaeth sefydliadol i offer fel ChatGPT yna gall fod yn risg gollyngiad data. Gall problemau cyfreithiol godi os bydd deallusrwydd artiffisial yn cynhyrchu cynnwys anghywir neu wahaniaethol. A gall pryderon ynghylch preifatrwydd olygu colli ffydd y bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau, a rhoddwyr sy’n cefnogi eich gwaith.

Effaith amgylcheddol

Mae’r swm enfawr o ynni sydd ei angen i hyfforddi model AI fel arfer yn cael ei gynhyrchu gan danwydd ffosil. Mae hyn yn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae datblygu modelau AI hefyd yn creu gwastraff electronig sy’n cynnwys cemegau peryglus. Gall y rhain lygru cyflenwadau dŵr a phridd, niweidio ein hiechyd a difrodi’r amgylchedd.

Effaith gymdeithasol negyddol

Mae gan AI ac awtomeiddio’r potensial i newid y ffordd rydym yn gweithio. Os na all pobl ddod o hyd i gyflogaeth arall neu ailhyfforddi, mae posib y bydd swyddi’n cael eu colli.

Gellir defnyddio AI i greu proffiliau o bobl heb eu caniatâd. Ac oherwydd bod cwmnïau fel Google, Apple a Microsoft yn bwerus, y nhw fydd yn llunio’r cyfeiriad y mae AI yn ei gymryd.

Rheoleiddio AI yn y DU

Mae papur gwyn (Mawrth 2023) Llywodraeth y DU  yn gosod dull rheoleiddio AI. Yn wahanol i’r UE, ni fydd cyfres newydd cynhwysfawr o gyfreithiau AI. A ni fydd rheolydd AI newydd. Yn hytrach, bydd rheolyddion fel Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, yn goruchwylio sut mae eu diwydiannau’n defnyddio AI. Bydd rhan newydd o’r Llywodraeth ganolog yn cefnogi’r gwaith yma.

Mae’r papur gwyn yn cynnwys 5 egwyddor y dylai rheolyddion eu dilyn:

  • Diogelwch, sicrwydd, cadernid – dylai systemau AI fod yn ddiogel, yn gadarn ac yn addas at y diben.
  • Tryloywder ac eglurder – dylai cwmnïau sy’n creu ac yn defnyddio AI fedru egluro at ba bwrpas mae’n cael ei ddefnyddio a phryd. A hefyd, y ffordd maent yn gweithio a sut maent yn  gwneud penderfyniadau.
  • Tegwch: ni ddylai systemau AI wahaniaethu yn erbyn unigolion na sefydliadau, torri eu hawliau na chreu canlyniadau annheg.
  • Atebolrwydd a llywodraethu: dylai mesurau fod ar waith i oruchwylio systemau AI. Rhaid cael llinellau cyfrifoldeb clir wrth eu defnyddio.
  • Cystadleuaeth a chywiro: rhaid cael ffyrdd clir i herio canlyniadau niweidiol a phenderfyniadau a wneir gan AI.

Yn anffodus, mae llawer o broblemau gyda rheoleiddio AI. Ac oherwydd bod cwmnïau technoleg yn symud mor gyflym, mae llywodraethau’n ymdrechu i ddal i fyny.

Sut i ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol

Nid oes amheuaeth bod offer AI yn ddefnyddiol. Ond i’w defnyddio’n foesegol mae angen i chi fod yn agored, yn gynhwysol ac yn atebol.

Cwestiynau i’w hystyried

Gofynnwch hyn i chi’ch hun:

  • Ydych chi’n deall yr effaith gall AI ei gael ar eich elusen? (ystyriwch brosesau dadansoddi data a chynhyrchu cynnwys fel man cychwyn)
  • Sut effaith bydd AI yn ei gael ar y bobl rydych chi’n eu cefnogi?
  • Ydy offer AI yn cyd-fynd â’ch cenhadaeth a’ch gwerthoedd?
  • Sut y gallent eich helpu i gyflawni eich nodau?
  • Beth yw lefel aeddfedrwydd digidol eich sefydliad?
  • Sut mae defnyddio offer AI yn cyd-fynd â’ch nodau digidol ehangach?
  • Ble fyddech chi’n eu defnyddio? Darparu gwasanaethau? Cyfathrebu a marchnata? Codi arian?
  • Beth yw’r niwed posibl i’ch elusen, staff a’ch defnyddwyr?

Mae’r Llawlyfr Civic AI yn awgrymu y dylech:

  • Bod yn agored am sut a phryd y defnyddir AI
  • Cael person yn adolygu’r cynnwys bob tro
  • Peidio rhannu gwybodaeth breifat na sensitif gyda gwasanaethau AI trydydd parti (heb wirio eu polisïau preifatrwydd yn gyntaf)

Mae angen i chi wybod hefyd:

  • Pa ddata y byddwch chi’n mewnbynnu i offer fel ChatGPT
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau eich bod chi’n gwirio cywirdeb yr hyn sy’n cael ei greu
  • Sut y byddwch chi’n sicrhau bod person yn rhan o’r broses
  • Yr effaith bosibl ar swyddi yn eich elusen
  • Pryd y dylech chi ddatblygu llif gwaith sy’n dibynnu ar AI

Camau i’w cymryd

Gallwch chi:


Credydau: Diolch i Ed Baldry, Cyfarwyddwr Arloesi Torchbox, a Tom Pratt,, Cyfarwyddwr Albert Road Consulting, am gymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer yr erthygl yma.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889