Sut i Ddefnyddio ChatGPT i Helpu’ch Elusen i Gyrraedd ei Hamcanion
Awdur: Dawn Kofie;
Amser Darllen: 8 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Yn yr erthygl hon, byddaf yn egluro at ba bwrpas gallech chi ddefnyddio ChatGPT, y gwahaniaeth rhwng y fersiwn am ddim a’r fersiwn talu, ac enghreifftiau ‘prompts’ ChatGPT i’ch helpu chi yn eich gwaith.
Rwy’n canolbwyntio ar sut i ddefnyddio ChatGPT gan mai dyma’r sgwrsfot AI uwch mwyaf adnabyddus. Ond gellir defnyddio’r awgrymiadau yma ar gyfer unrhyw offer AI cynhyrchiol.
Beth yw AI cynhyrchiol?
Mae ChatGPT yn offeryn AI cynhyrchiol. Mae AI cynhyrchiol yn derm ymbarél ar gyfer modelau ac algorithmau a all greu testun, delweddau, fideo, sain a chod. Y prif ffyrdd y gall helpu eich elusen yw wrth:
- Arbed amser
- Symleiddio’r broses greadigol
- Caniatáu i chi ganolbwyntio ar dasgau eraill nad yw AI yn gallu eu gwneud (eto)
Mae’r math yma o dechnoleg yn hawdd ei ddefnyddio, ond rhaid ystyried cwestiynau moesegol os ydych chi am ei ddefnyddio yn eich llif gwaith. Ysgrifennom ganllaw ar sut y gall eich elusen ddefnyddio AI yn foesegol.
Beth allwch chi ddefnyddio ChatGPT ar ei gyfer
Gall ChatGPT eich helpu gyda:
- Ymchwilio – gallwch ofyn cwestiynau iddo
- Nodi bylchau. Er enghraifft, yr hyn dylech chi ei ystyried wrth feddwl am bwnc penodol
- Egluro cysyniadau nad ydych chi’n gwybod llawer amdanynt
- Meddwl am syniadau
- Creu cynnwys – pethau fel adroddiadau, cynlluniau, rhestrau gwirio a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
- Golygu – byrhau paragraffau a brawddegau i’w gwneud yn hawdd eu darllen. Ac addasu’r tôn, yr iaith a chyfrif geiriau
- Crynhoi testun
- Gwella strwythur dogfen
- Strwythuro nodiadau a gwella eu darllenadwyedd
- Cynhyrchu amlinelliadau
- Ailddefnyddio cynnwys – er enghraifft, troi astudiaeth achos neu bost blog yn bost LinkedIn
- Adolygu sgriptiau ar gyfer cyfweliadau gyda defnyddwyr
- Syntheseiddio data o sesiynau ymchwil defnyddwyr
Y gwahaniaethau rhwng ChatGPT am ddim a ChatGPT â thâl
Mae fersiwn am ddim ChatGPT yn rhedeg ar GPT-3.5 Turbo. Ar adeg ysgrifennu, Ionawr 2024, mae cyfrif Plus yn rhoi mynediad i chi i’r fersiwn o ChatGPT sy’n rhedeg ar y GPT-4 mwy datblygedig. Mae hyn yn costio $20 (tua £16) y mis.
Dyma sydd i’w gael ar y fersiwn am ddim a’r fersiwn taledig:
Fersiwn am ddim ChatGPT
- Rhedeg ar GPT-3.5 Turbo
- Deall, prosesu ac yn cynhyrchu testun
- Gallu ffaelu yn ystod oriau brig pan fydd traffig yn uchel
- Dim mynediad at y Dehonglydd Cod
- Ddim yn bosib adeiladu fersiwn addasiad eich hun o ChatGPT
- Dim mynediad at GPTs parod
Fersiwn taledig ChatGPT
- Rhedeg ar GPT-4 sy’n fwy pwerus, felly’n cynhyrchu atebion gwell a mwy cywir
- Deall, prosesu ac yn cynhyrchu testun a delweddau
- Statws blaenoriaeth ar adegau brig
- Mynediad at Ddehonglydd Cod sy’n eich galluogi i uwchlwytho ffeil, er enghraifft taenlen, dogfen, neu gyflwyniad. Mae ChatGPT yn dadansoddi’r ffeil ac yna’n gallu ateb cwestiynau amdani, neu ddewis gwybodaeth benodol a’i gyflwyno mewn fformat gwahanol
- Gallwch adeiladu fersiynau eich hun o ChatGPT wedi’u haddasu i gyflawni tasgau penodol. Er enghraifft, optimeiddiwr cyfryngau cymdeithasol sy’n gallu edrych ar bob trydar o’ch cyfrir X a chynnig yr amseroedd gorau i bostio yn seiliedig ar lefelau ymgysylltu yn y gorffennol
- Mynediad at gasgliad Open AI o fersiynau parod GPT wedi’u haddasu. Er enghraifft y Donor Communicator a’r Donor Communication Expert
Mae pa fersiwn a ddewiswch yn dibynnu ar eich cyllideb, a’r hyn rydych chi’n mynd i ddefnyddio ChatGPT ar ei gyfer. Os mai dim ond ar gyfer cynhyrchu syniadau, ymchwilio, drafftio a golygu y mae, mae’n debyg na fydd nodweddion ychwanegol ChatGPT Plus mor ddefnyddiol. Ond, dywedir ei fod yn gyflymach ac yn fwy cywir na’r fersiwn am ddim.
Beth sydd angen ei wybod am ‘prompts’
‘Prompts’ yw’r cwestiynau rydych chi’n eu gofyn, a’r cyfarwyddiadau rydych chi’n eu rhoi, i ChatGPT. Mae prompt clir, syml a phenodol yn rhoi’r canlyniadau gorau. Dylech gynnwys pethau fel y fformat, y tôn a sawl gair yr hoffech. Ac mae’n werth cynnwys enghreifftiau fel bod ChatGPT yn deall beth i anelu ato. Gallwch ofyn iddo ymateb yn Saesneg y DU ac i ddyfynnu ei ffynonellau. A gallwch roi adborth iddo wrth hoffi ymatebion defnyddiol a ddim hoffi’r rhai digymorth, anwir neu anniogel.
Mae ChatGPT yn cofnodi eich sgyrsiau, gan gynnwys unrhyw ddata personol, felly peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth gyfrinachol yn eich sgyrsiau. Mae cwestiynau cyffredin Open AI am ChatGPT yn dweud: “Efallai y bydd eich sgyrsiau’n cael eu hadolygu gan ein hyfforddwyr AI i wella ein systemau.” A “Nid ydym yn gallu dileu ‘prompts’ penodol o’ch hanes. Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth sensitif yn eich sgyrsiau.”
Rhai ‘prompts’ ChatGPT i roi cynnig arnynt
Bydd yr enghreifftiau ‘prompts’ yma yn dangos i chi’r hyn gall ChatGPT ei gyflawni, a sut i ddefnyddio hyn yn eich gwaith. Chwaraewch o gwmpas gyda nhw i weld pa fath o eiriad a lefel manylder sydd orau i chi.
‘Prompts’ ar gyfer ymchwil
- Mae angen help arnaf i ddeall sut mae [pwnc/mater] yn gweithio
- Eglurwch [pwnc/mater o’ch dewis] mewn iaith y byddai plentyn 9 oed yn ei deall
‘Prompts’ ar gyfer creu cynnwys cyffredinol
Wrth ymddwyn fel ysgrifennwr cynnwys arbenigol, drafftiwch [disgrifiad manwl o’r cynnwys sydd ei angen arnoch, gan gynnwys: y math o gynnwys (er enghraifft, post cyfryngau cymdeithasol, post blog, e-bost codi arian neu sgript fideo), y pwnc, y gynulleidfa darged, arddull neu naws (er enghraifft, ffurfiol, anffurfiol, perswadiol), pwyntiau penodol neu negeseuon allweddol i’w cyfleu, unrhyw ofynion ymchwil, swm geiriau, ac unrhyw fanylion perthnasol eraill].
‘Prompts’ ar gyfer golygu
- Gwiriwch y gramadeg yn yr adroddiad yma ar gyfer ein harianwyr ac awgrymwch welliannau: [dolen]
- Gwiriwch y [dogfen/paragraff] yma ac awgrymwch ffyrdd i wella eglurder a chrynodeb pob brawddeg: [cynnwys]
- Gwiriwch yr astudiaeth achos yma am eiriau ac ymadroddion ailadroddus a chynigwch ddewisiadau eraill: [cynnwys]
- Crynhowch y testun yma [testun] mewn 5 pwynt bwled
- A oes unrhyw wallau yn y capsiwn Instagram yma [testun]?
- Awgrymwch eiriau neu ymadroddion cysylltu/pontio i wella’r llif rhwng paragraffau a brawddegau yn y post blog yma: [testun]
- Sicrhewch nad oes unrhyw wallau yn yr e-bost yma a gwiriwch ei ddarllenadwyedd a’i naws [cynnwys]
‘Prompts’ ar gyfer digwyddiadau
- Rwy’n trefnu digwyddiad wyneb yn wyneb i hyrwyddo [yr hyn rydych chi’n ei hyrwyddo]. Nodau’r digwyddiad yma yw [nodau], mae ar gyfer [grŵp(iau) targed] a manylion y digwyddiad yma yw [manylion]. Ysgrifennwch e-bost perswadiol i farchnata’r digwyddiad hwn heb fod yn rhy ‘pushy’.
- Mae’r elusen rwy’n gweithio iddi yn canolbwyntio ar [cenhadaeth] mae’n cynnal digwyddiad ar [pwnc/thema]. Y pwrpas yw [pwrpas] ac mae’r mynychwyr o [sefydliadau/sectorau/swyddi]. Beth yw rhai syniadau creadigol ar gyfer cynnwys perthnasol, diddorol a deniadol y digwyddiad yma i’r mynychwyr?
- Beth ddylwn i’w gynnwys mewn holiaduron ôl-ddigwyddiad i gasglu adborth ymarferol ar bynciau a chynnwys sesiynau, y siaradwyr, y lleoliad a’r amseroedd? Beth yw’r ffordd orau i mi ddadansoddi’r data yma i wella digwyddiadau’r dyfodol?
‘Prompts’ ar gyfer taflenni a phosteri
Dyluniwch [taflen/poster] trawiadol a llawn gwybodaeth wedi’i anelu at [y gynulleidfa] sy’n egluro/amlinellu [yr hyn rydych chi am ei gyfleu/hyrwyddo]
‘Prompts’ ar gyfer recriwtio
- Gweithredwch fel Rheolwr Adnoddau Dynol arbenigol sy’n gorfod ysgrifennu disgrifiad swydd ar gyfer [ychwanegu teitl swydd]. Fedrwch chi greu amlinelliad swydd fanwl
- Troi’r paragraffau yma am gyfrifoldebau swydd ar gyfer [teitl swydd] yn bwyntiau bwled glir a byr
- Creu disgrifiad swydd sy’n rhestru’r sgiliau, gwybodaeth a’r profiad sydd ei angen mewn gwirfoddolwr [teitl swydd].
- Disgrifiwch ddiwylliant ein helusen, ein ffordd o weithio a buddion i weithwyr mewn ffordd a fydd yn ddeniadol i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am ein rôl [teitl swydd]
‘Prompts’ ar gyfer cynllunio cynnwys
Creu calendr cynnwys [cyfnod amser, er enghraifft 4 mis] ar gyfer cyfrif [llwyfan cyfryngau cymdeithasol] ar y pwnc [pwnc/mater] gan bostio [nifer] gwaith yr wythnos
‘Prompts’ ar gyfer postiadau blog
- Ysgrifennwch bost blog 750 gair am [pwnc], a chynnwys yr allweddeiriau canlynol yn y pennawd, yr is-bennawd, a pharagraffau’r darn [allweddeiriau]
- Ysgrifennwch 5 teitl sy’n ysgogi’r meddwl/yn ddiddorol ar gyfer post blog am [pwnc]
- Ysgrifennwch 5 is-bennawd ar gyfer post blog gyda’r teitl canlynol [teitl]
- Ysgrifennwch ddisgrifiad meta 150 nod (uchafswm) ar gyfer y post blog hwn [y cyflwyniad]
‘Prompts’ ar gyfer cyflwyniadau
Ysgrifennwch amlinelliad ar gyfer cyflwyniad i [cynulleidfa] am [pwnc]. Dylai gwmpasu [prif bwyntiau rydych chi am eu gwneud]
‘Prompts’ ar gyfer Instagram
- Creu 5 syniad ar gyfer creu cynnwys ar Instagram ar y pwnc [diwrnod ymwybyddiaeth berthnasol i’ch elusen]
- Ysgrifennwch gapsiwn Instagram deniadol ar gyfer delwedd sy’n cynnwys [disgrifiwch y ddelwedd]
- Creu 4 teitl posibl ar gyfer post Instagram am werthoedd ein helusen. Ein gwerthoedd yw [gwerthoedd]
- Ysgrifennwch gapsiwn Instagram 100 gair addysgiadol am [pwnc] mewn tôn anffurfiol a chynnwys hashnodau perthnasol
Cofiwch: chi sy’n gyfrifol, chi sy’n gwybod orau
Mae’n annhebyg y bydd ChatGPT yn cynhyrchu cynnwys digon da i chi allu ei ddefnyddio gair am air. Bydd angen i chi:
- Adolygu a gwirio ffeithiau yn yr ymateb
- Golygu’r ymateb
- Dileu unrhyw beth sy’n amherthnasol, yn anghywir, yn rhagfarnllyd neu’n wahaniaethol
Hefyd, nid oes gan ChatGPT eich dilysrwydd, creadigrwydd, empathi a’ch dealltwriaeth o naws. Nac eich cyfuniad unigryw o brofiad o’r materion y mae eich elusen yn delio â nhw. Nac eich gwybodaeth am ei heriau a’i dyheadau.
Felly, er bod ChatGPT yn ddefnyddiol ac yn gallu arbed egni meddyliol, nid yw’n cymryd lle meddwl beirniadol. Ac mae’n gwneud camgymeriadau, felly peidiwch â dibynnu arno. Edrychwch arno fel offeryn arall i’ch helpu yn eich gwaith.
Gwybodaeth bellach
Ydych chi’n meddwl am foeseg AI? Darllenwch ein canllaw i ddefnyddio AI yn foesegol.
Eisiau cyflwyniad mwy cyffredinol i AI? Gallwch ddarllen erthygl Andy Gordon ac Edd Baldry o Torchbox am sut i greu cynnwys gan ddefnyddio AI neu eu cyflwyniad i AI ar gyfer elusennau.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst