star

Dewis yr Adnoddau Digidol Cywir i’ch Elusen a Theimlo’n Dda Amdano



Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Rydych chi’n ceisio dewis adnoddau digidol newydd. Efallai app ar gyfer cyfathrebu â’ch defnyddwyr, llwyfan ar gyfer gwefan newydd, neu adnoddau ar gyfer trefnu tasgau gyda’ch tîm.


Efallai eich bod yn credu bod angen adeiladu rhywbeth o’r newydd, ond ydych chi wedi meddwl am ddefnyddio rhywbeth sydd yn bodoli eisoes? Rhywbeth gallech chi ei ailddefnyddio, gan arbed arian.

“Mae ailddefnyddio yn eich galluogi i brofi a dysgu yn gyflym ac mae’n haws i elusennau gychwyn eu taith cynllunio gwasanaethau digidol.” – Chris Thorpe, CAST

Sut ydych chi’n gwybod os oes rhywbeth fydda’n gallu ateb eich anghenion? Ac os oes dewis, sut ydych chi’n gwybod pa un?

Sut ydych chi’n llywio’r broses penderfynu mewn ffordd sy’n teimlo’n gadarn ac yn ddibynadwy?

Pa gwestiynau ydych chi angen gofyn?

Beth yw’r cwestiynau i’w gofyn? Mae’n beth llawer symlach! Mae cymaint ohono’n ymwneud â gwybod pa gwestiynau i’w gofyn, nid bod â’r holl atebion eich hun. Dwi ddim yn arbenigwr, nid oes rhaid i mi fod – ond dwi angen y cwestiynau cywir.” – Profwr Assemble #1

Mae Assemble yn ganllaw a ysgrifennwyd ar gyfer elusennau

Mae’n helpu elusennau i gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddod o hyd i’r adnodd gorau ar gyfer y gwaith a theimlo’n hyderus yn eu dewisiadau. Mae’n gwneud hyn wrth dywys pobl trwy’r broses o wneud penderfyniadau strwythuredig. Mae’r broses yma’n eu helpu i ofyn y cwestiynau cywir a dod â’r wybodaeth gywir i’r amlwg.

Mae’n casglu popeth mewn un lle:

  • Safbwyntiau randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y tîm a’r defnyddwyr
  • Blaenoriaethau, cyfyngiadau ac aliniadau gofynnol eich sefydliad
  • Enghreifftiau o ddewisiadau a wnaed gan sefydliadau eraill
  • Opsiynau a allai fod yn addas i’ch sefydliad

Ar ôl ei ddefnyddio, dylai elusennau deimlo’n fwy hyderus yn eu penderfyniad.

Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’n rhannu popeth yn ddarnau bach twt… Mae’n glir beth sydd angen ei wneud. Proses i fynd drwyddi… Yn aml, mae’r syniad yna o broses, cam wrth gam, yn cael ei golli.” – Profwr Assemble #2

Dim cyllideb, dim problem

Mae Assemble wedi’i gynllunio gyda dwy ystyriaeth allweddol:

  • Bydd gan elusennau gyllideb fach iawn neu ddim cyllideb i’w gwario
  • Ni fydd ganddynt amser i fynd trwy broses tîm cyfan, ond bydd angen mewnbwn arnynt ar fannau penodol y broses

Mae hefyd yn cefnogi arfer da wrth ddogfennu’r penderfyniadau a wneir. Bydd defnyddio hwn yn golygu fod gennych chi gofnod o’r penderfyniad a wnaed a pham. Yna, os bydd staff yn gadael, bydd y rhai sy’n dilyn yn deall cyd-destun y penderfyniad ac yn gallu parhau i gefnogi ei weithrediad.

O fewn cyfyngiadau tîm, tîm / cyllideb – rydym wedi rhoi ‘ddim yn gwybod’. Mor rhad â phosibl – llai na £50/mis – mae angen i ni edrych ar yr arbedion cost pan fyddwn yn gwneud rhywbeth fel ‘na.” – Profwr Assemble #3

Mae’n meithrin hyder

Dychmygwch eich bod yn gweithio i elusen fach. Un person yw’r tîm digidol sydd â swydd arall i’w rheoli. Chi yw’r person hwnnw! Wrth i’ch gwasanaethau symud ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau ac argymell adnoddau i’w defnyddio. Nid oes cymaint o allu digidol ymysg yr uwch dîm, felly mae angen i chi roi hyder iddynt yn eich argymhellion a’u penderfyniadau.

Wrth weithio trwy broses Assemble, dylech deimlo fel bod eich argymhellion terfynol yn ddibynadwy. Pe bai rhywun yn gofyn i chi yn y dyfodol pam y gwnaethoch y penderfyniad, byddech yn gallu dangos eich proses iddynt a’u helpu i ddeall.

Mae’n ffordd dda o wthio uwch arweinwyr i feddwl am bethau ychydig mwy. Helpu nhw i’w gyfiawnhau, neu sylweddoli pwyntiau lle gallai fod yn broblem, mewn ffordd strwythuredig.” – Profwr Assemble #2

Mae’n osgoi cyflogi asiantaeth yn rhy gynnar

Bydd Assemble yn rhoi hyder i chi wrth gysylltu ag asiantaethau hefyd, gan y bydd yn eich helpu i wneud cymaint â phosibl gydag adnoddau presennol heb orfod talu rhywun i adeiladu rhywbeth o’r newydd. Yna, os daw’r amser i adeiladu adnodd pwrpasol, byddwch yn gallu diffinio’n well yr hyn sydd ei angen am eich bod eisoes wedi rhoi cynnig ar adnoddau sydd yn bodoli’n barod.

Rydym yn chwilio am unrhyw beth i’n cefnogi i ddeall ein prosiect yn well ein hunain heb orfod cynnwys neb arall.” – Profwr Assemble #2

Rhowch gynnig ar Assemble

Cliciwch y ddelwedd i gael mynediad i Assemble

Mae Assemble mewn Beta ond ar gael i elusennau ei ddefnyddio nawr.

Mae ‘Beta’ yn golygu y gellir ei ddefnyddio, ac mae’n ddefnyddiol fel y mae, ond mae’n dal yn cael ei ddatblygu. Profwyd y fersiwn flaenorol (yr Alffa) gan bum elusen a’i defnyddiodd i lywio eu penderfyniadau, fframio gweithdai a chynorthwyo trafodaethau arweinyddiaeth. Cyn hynny, profodd deg elusen y cysyniad.

Ond nid yw Beta Assemble wedi’i brofi ‘yn y maes’ eto. Disgwylir gwneud gwelliannau yn ystod yr haf ond, am y tro, mae’n agored i elusennau gael mynediad Beta. Llenwch y ffurflen hon i gael mynediad (byddwn yn gofyn a ydych yn fodlon i ni gysylltu am adborth, ond nid oes rhaid i chi gytuno).

Byddem yn argymell ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r canllaw asesu risg ar gyfer dewis meddalwedd trydydd parti ar gyfer eich elusen.

Rhowch gynnig ar Assemble.


Diolch i Madeleine Maxwell a’r Engine Room am eu gwaith ar Assemble.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889