star

DigiSafe: Y Canllaw Cam wrth Gam i Ddiogelu Digidol ar Gyfer Elusennau



Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 3 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Ers mis Ebrill 2020 mae elusennau ledled y DU wedi bod yn sydyn i fudo eu gwasanaethau wyneb yn wyneb ar-lein. Maent wedi rhoi eu gwybodaeth am ddiogelu ar waith mewn cyd-destun newydd gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad. Ond mae canllawiau arfer gorau wedi bod yn wasgaredig ac yn anodd ei darganfod weithiau. Tan nawr.


Mae DigiSafe yn ganllaw diogelu digidol cam wrth gam. Mae wedi’i ysgrifennu ar gyfer elusennau sy’n cynllunio gwasanaethau digidol newydd neu’n symud rhai presennol ar-lein.

“Canllaw sy’n helpu elusennau i barhau i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol wrth dorri tir newydd o ran cynnwys ac arddull.” – Charné Tromp, Arweinydd DigiSafe yn CAST.

I asesu risg

Proses asesu risg yw asgwrn cefn DigiSafe. Gall elusennau ddefnyddio hwn cyn, yn ystod, ac ar ôl symud eu gwasanaethau ar-lein. Mae’n eirioli dros ddull ailadroddus o reoli risg. Golygai hyn defnyddio’ch cofrestr risg fel dangosfwrdd i arwain sut rydych chi’n cynllunio’ch gwasanaeth.

I gynllunio gwasanaethau newydd neu wasanaethau presennol

Os ydych chi’n symud eich gwasanaethau ar-lein, bydd DigiSafe yn eich helpu i:

  • Dysgu egwyddorion diogelu digidol
  • Meddwl am sut i’w rhoi ar waith mewn senarios penodol yn eich gwasanaeth e.e. fideo, grwpiau ar-lein ac ati

Os ydych chi eisoes wedi symud eich gwasanaethau ar-lein, bydd DigiSafe yn eich helpu i olrhain risgiau ac adolygu eich cynnydd.

I hyfforddi staff i gydnabod problemau diogelu wrth gyflwyno ar-lein

Mae gallu cydnabod risg a gweld camdriniaeth yn gallu bod yn wahanol wrth gyflwyno ar-lein. Felly mae DigiSafe yn egluro sut i adnabod camdriniaeth all-lein ac ar-lein wrth gyflwyno fel hyn.

Dull cynllunio’n gyntaf

Mae hefyd yn cymryd dull cynllunio’n gyntaf. Mae’n helpu elusennau i gynnwys diogelu ac asesu risg ym mhob cam o’u taith ddigidol. Mae’n gweithio i elusennau sy’n symud gwasanaethau ar-lein am y tro cyntaf, rhai sydd efallai’n ceisio deall sut i ysgrifennu polisi diogelu digidol. Ac mae’n gweithio i’r rhai sydd eisoes yn asesu risg, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau ar-lein.

Fformat GitBook

Mae DigiSafe wedi’i ysgrifennu yn GitBook, llwyfan cyhoeddi ar-lein. Yn haws i’w lywio na PDF, mae hefyd yn galluogi defnyddwyr i roi adborth ar eu profiad. Gan ei fod yn hawdd ei ddiweddaru, mae’n osgoi peryglon PDFs sy’n mynd allan o ddyddiad.

Wedi’i ysgrifennu gan bedwar sefydliad

Mae DigiSafe yn adnodd Catalyst. Golygai hyn ei fod wedi’i ysgrifennu a’i gynllunio gan rwydwaith o sefydliadau sy’n gweithio i siarter Catalyst. Yn yr achos hwn, y bobl dan sylw oedd:

  •  Charné Tromp o CAST, elusen yn y DU sy’n cyflymu’r defnydd o dechnoleg ar draws y sector cymdeithasol.
  • Cordelia Ruck a Jo Sharpen o AVA, elusen yn y DU sy’n ymroddedig i roi terfyn ar drais a chamdriniaeth ar sail rhywedd.
  • Joe Roberson o Working with Joe, asiantaeth dylunio cynnwys ar gyfer y sector cymdeithasol.
  • Noam Sohachevsky o SIDE Labs, asiantaeth ymchwil defnyddwyr a chynllunio heb god ar gyfer y sector cymdeithasol.

Wedi’i ariannu gan The Clothworkers’ Foundation

“Mae ein derbynwyr grantiau wedi gofyn am DigiSafe. Felly rydym yn falch iawn o’i ariannu. Byddem yn annog pob elusen i’w ddefnyddio i wneud eu gwasanaethau ar-lein yn ddiogel ac yn effeithiol.” – Philip Howard, Pennaeth Grantiau yn The Clothworkers’ Foundation.

Defnyddiwch DigiSafe nawr

Mae DigiSafe yn barod i’w ddefnyddio ar www.digisafe.thecatalyst.org.uk

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889