ProMoPapur: Ysgrifennu Cydweithredol Mewn Ffordd Syml
Awdur: Nathan Williams;
Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru

Croeso i ProMoPapur, fersiwn Etherpad ProMo Cymru sydd yn symleiddio’r broses o ysgrifennu a golygu cydweithredol fel ei fod yn hygyrch i bawb.
Mae ProMoPapur yn caniatáu i sawl person weithio ar ddogfen ar yr un pryd, gyda newidiadau’n ymddangos yn syth. Mae lliw yn cael ei benodi i bob cyfrannwr, fel ei fod yn hawdd cadw trac ar bwy sydd wedi gwneud pa newidiadau. Mae’r rhyngwyneb glân, heb unrhyw beth i dynnu sylw, yn golygu eich bod yn canolbwyntio ar eich cynnwys yn hytrach nag nodweddion cymhleth.
Bod hynny’n cyd-gynllunio prosiect gyda phobl ifanc, cynllunio digwyddiad gyda phartneriaid, neu gyd-ddrafftio cais cyllid, mae ProMoPapur yn creu gofod ble mae llais gan bawb. Gallech allforio eich gwaith mewn sawl ffurf a sgwrsio gyda chyfranwyr o fewn yr un ffenestr.
Mae ProMoPapur wedi ei greu fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi sefydliadau trydydd sector gydag offer digidol sydd yn symleiddio’r broses o gydweithio. Nid oes angen creu cyfrif nac gosod meddalwedd – rhannwch y ddolen a dechreuwch gydweithio.
Barod i gydweithio? Ewch i greu pad newydd, neu gofynnwch i ni sut gall ProMoPapur gefnogi eich prosiect nesaf.
Ein Diolch
Mae ProMoPapur wedi bod yn bosib diolch i gyllid hael gan chwaraewyr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r gefnogaeth yma yn caniatáu i ni greu offer digidol sydd yn helpu cymunedau i gydweithio, cysylltu a chreu newid positif ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr am y ffydd barhaus yn ein gwaith i ddefnyddio digidol er budd cymdeithasol.
Cefnogwch ein Gwaith
Mae ProMo yn fenter gymdeithasol ac yn elusen sydd yn ail-fuddsoddi ein helw i brosiectau cymunedol. Wrth gyfrannu rydych chi’n ein helpu ni i gynnal a datblygu offer newydd fel ProMoPapur.
Mae eich cyfraniad, ta waeth pa mor fach, yn ein helpu ni i barhau i gefnogi’r defnydd o ddigidol ar draws y trydydd sector ac i dyfu cyfleoedd creadigol i, a gyda, pobl ifanc a chymunedau.
Sut i Ddefnyddio ProMoPapur
Cychwyn Arni
Mae creu dogfen newydd yn syml. Cliciwch ar y botwm “New Pad” ar ein tudalen cartref, a bydd yn agor dogfen cydweithio newydd. Nid oes angen creu cyfrif na mewngofnodi – mae ProMoPapur wedi ei gynllunio i fod yn hygyrch heb fawr o rwystrau.
Gwahodd Cyfranwyr
Os ydych chi am wahodd pobl eraill i weithio gyda chi, rhannwch URL eich pad. Copïwch y ddolen o far cyfeiriad eich porwr a’i yrru ar e-bost, app negeseuo neu sut bynnag yr ydych chi’n cysylltu â’ch tîm fel arfer. Gall unrhyw un sydd â’r ddolen gael mynediad a golygu’r ddogfen.
Golygu Cydweithredol
Pan fydd sawl person yn ymuno â’ch pad, bydd lliw unigryw yn cael ei benodi i bob person. Mae hyn yn ei wneud yn hawdd i chi weld pwy sydd yn ysgrifennu beth, gan y bydd testun yn ymddangos yn y lliw sydd wedi’i aseinio i’r awdur yno wrth gael ei deipio. Mae’r bar ar yr ochr dde yn dangos pwy sydd yn edrych ar y ddogfen yn bresennol, ynghyd â’u lliw.
Fformatio Testun
Mae ProMoPapur yn cynnig opsiynau fformatio syml ar far offer ar frig yr ardal olygu. Gallech chi:
· Creu penawdau ac is-benawdau
· Gwneud testun yn ‘bold’, italig, neu wedi’i danlinellu
· Creu rhestrau bwled neu wedi’u rhifo
· Ychwanegu mewnoliad i baragraffau
Hanes Fersiynau
Mae pob newidiad i’r ddogfen yn cael ei arbed yn awtomatig. Gellir gweld fersiynau cynt wrth glicio ar y botwm “Time Slider”. Mae hwn yn caniatáu i chi weld sut mae’r ddogfen wedi esblygu dros amser a dychwelyd i hen fersiwn i adfer cynnwys os oes angen.
Gallu Sgwrsio
Mae’r panel sgwrsio integredig yn caniatáu i chi drafod y ddogfen gyda chyfranwyr eraill heb orfod gadael ProMoPapur. Cliciwch ar yr eicon sgwrsio ar ochr dde’r sgrin i agor y panel.
Allforio eich Gwaith
Ar ôl i chi orffen cydweithio, gallech allforio’r ddogfen mewn sawl fformat gwahanol gan gynnwys PDF, Word, HTML, neu destun plaen. Chwiliwch am yr opsiynau allforio yng ngosodiadau’r ddogfen. Argymhellir i chi allforio’ch gwaith unwaith i chi orffen cydweithio.
Preifatrwydd a Diogelwch
Nid yw dolenni dogfennau yn hawdd i’w darganfod, ond nid ydynt yn hollol breifat ychwaith. Os ydych chi’n defnyddio gwybodaeth sensitif, meddyliwch am ddefnyddio opsiwn pad wedi ei ddiogelu gan gyfrinair neu lawrlwytho eich dogfen ar ôl darfod a dileu’r fersiwn ar-lein.
Angen Cymorth?
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau yn defnyddio ProMoPapur neu gyda chwestiynau am ei nodweddion, yna cysylltwch â’n tîm am gymorth.
Cefnogaeth ar gael
Gallech ddarganfod ein holl adnoddau Cymorth Digidol yma.
Os ydych chi’n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae’r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Darganfod mwy.

Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst