star

Sut i Greu Cynnwys Gydag AI



Awdur: Edd Baldry ac Andy Gordon; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Yn yr erthygl yma byddem yn rhannu enghreifftiau o sut i ddefnyddio adnoddau cynnwys AI (a elwir hefyd yn Modelau Iaith Mawr) wrth greu cynnwys. Gall hyn gyflwyno effeithlonrwydd gweithredol, cynyddu sgôp codi cyllid, a chael mwy o effaith sefydliadol.


I’r rhai sy’n brin o amser, ein hargymhelliad yma yn Torchwood, fel sy’n wir ar fis Medi 2023, yw defnyddio GPT-4 gan OpenAI i gynhyrchu testun. Cewch fynediad i GPT-4 wrth danysgrifio i ChatGPT+.

Ein hargymhelliad ar gyfer gweithio gyda delweddau yw defnyddio Firefly gan Adobe. Ar gyfer cerddoriaeth, cynhyrchu llais neu drawsgrifio nid oes arweinydd clir. Byddwn yn mynd i fwy o fanylder yn yr erthygl.

Ynglŷn â Modelau Iaith Mawr

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn dod yn gatalydd ar gyfer arloesi elusennol. Ar flaen y gad o ran y newid hwn mae Modelau Iaith Mawr (LLMs). Mae LLMs yn fath o AI sy’n defnyddio algorithmau dysgu dwfn i efelychu deallusrwydd dynol. Maent yn defnyddio modelau ystadegol i ddadansoddi symiau enfawr o ddata ac yna’n defnyddio prosesu iaith naturiol (NLP) i greu cynnwys yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu. Mae enghreifftiau LLM yn cynnwys ChatGPT, Jasper a Copy.AI. Mae elusennau’n dysgu defnyddio’r offer hwn i gynhyrchu cynnwys.

Ysgrifennu cynnwys newydd

Fel elusen, mae angen i’ch cyfathrebu fod o ansawdd uchel ac yn gywir. Gallai hyn fod yn bost cyfryngau cymdeithasol, yn creu astudiaeth achos neu’n diweddaru copi gwefan. Gyda’r ‘prompt’ a’r canllawiau cywir, gall LLMs ragori yn y maes yma.

Rydych chi’n cael yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn. Rydym yn defnyddio egwyddor 20:60:20 lle mae’r awdur yn gwneud y meddwl cychwynnol am y ‘prompts’, ac yn gwneud y gwaith golygu terfynol, ond mae’r LLM yn gwneud y gwaith yn y canol. Dyma sut:

Dull gwael: defnyddio un ‘prompt’, “Ysgrifennwch erthygl am sut y gall sefydliadau dielw ddefnyddio AI cynhyrchiol i greu cynnwys”. Bydd yr ‘prompt’ yma yn cael ymateb generig iawn. Mae’n ‘prompt’ gwael gan nad oes digon o feddwl cychwynnol wedi bod.

Dull gwell: adeiladwch yr erthygl yn ailadroddus, yn yr un ffordd ag y byddech chi’n gweithio gyda bod dynol arall. Defnyddiwch ‘prompt’ cychwynnol: “Dwi angen ysgrifennu erthygl. Y pwnc yw sut gall sefydliadau dielw ddefnyddio AI cynhyrchiol i greu cynnwys. Beth wyt ti’n meddwl yw’r pum pwnc pwysicaf i’w trafod?”

Mae’r pum pwnc a ddychwelir yn rhoi man cychwyn i chi adeiladu arno. Gallwch ysgrifennu sawl ‘prompt’ arall ar gyfer y pynciau hynny sy’n ymddangos yn fwyaf perthnasol. Mae hyn yn tywys yr LLM tuag at ganlyniad gwell.

Ailysgrifennu cynnwys presennol ar gyfer cyd-destun gwahanol

Gall modelau iaith mawr helpu i ailysgrifennu cynnwys. Yn aml, rydym yn canfod ein hunain yn ailysgrifennu cynnwys ar gyfer gwahanol lwyfannau (er enghraifft LinkedIn, X ac Instagram). Dyma enghraifft o awgrym ar gyfer LinkedIn:

“Isod mae astudiaeth achos gan (elusen x) am (pwnc). Fedri di grynhoi’r astudiaeth achos ar gyfer LinkedIn. Dwi am i’r post LinkedIn gael effaith fawr. Dylai gydymffurfio â’u harferion gorau. Dylai fod uchafswm o 200 cymeriad fesul brawddeg. Dylai fod uchafswm o dair brawddeg i baragraff. Mae angen i’r 135 cymeriad cyntaf fod yn fachyn cyffrous i ddenu’r defnyddiwr i ddarllen ymlaen (e.e. cwestiwn neu ddatganiad trwm). Dylai’r post fod ynglŷn â’r hyn y gall y darllenydd ei ddysgu neu ei ddefnyddio yn eu gwaith. Sicrha nad yw’r post yn fwy na 500 gair.”

Sylwch pa mor benodol yw’r cyfarwyddiadau. Byddwch chi’n cael y gorau o LLMs trwy fod yn eglur. I fanteisio o LLM mae angen i chi ddeall bod cyd-destun yn allweddol.

Adrodd straeon yn weledol

Mae llun yn arf pwerus iawn, a fideo hyd yn oed fwy. Mae cyfleoedd newydd i elusennau greu eu cynnwys gweledol o ansawdd uchel eu hunain. Gellir creu’r rhain o fewn amserlenni tynn ac am gostau cymharol isel. Enghreifftiau o eneraduron testun-i-ddelwedd neu destun-i-fideo yw Midjourney, Pictory a Stable Diffusion.

Mae Firefly gan Adobe yn ddiddorol iawn gan fod Adobe wedi addo ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio’n fasnachol ac mae bellach wedi’i gynnwys yn Photoshop. Mae’n cynhyrchu canlyniadau cryf ac mae ganddo ryngwyneb hawdd ei ddefnyddio. O’n safbwynt ni, dyma’r adnodd amlwg i sefydliadau dielw ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Mae yna rai enghreifftiau gwych o adrodd straeon gweledol a gynhyrchir gan AI. Dau rydyn ni’n eu hoffi’n arbennig yw ymgyrch ‘Future of Nature’ WWF sy’n canolbwyntio ar ddychmygu dyfodol dystopaidd ac iwtopaidd. Yr ail yw post cyfryngau cymdeithasol diweddar Cyfeillion y Ddaear yn ail-ddychmygu mannau llawn natur. Roedd hyn ar gyfer eu rhaglen Garddwr Cod Post gyda’r Co-operative.

Deall eich peryglon LLM

Dylai elusennau ddeall bod peryglon yn gysylltiedig â defnyddio’r adnoddau yma. Nid ydym yn bwriadu dychryn pobl rhag eu defnyddio, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r ffordd maent yn gweithio a’r peryglon bosib.

Mae’r peryglon yn deillio o’r ffaith eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi ar ddeunydd a grëwyd gan fodau dynol. Golygai hyn bod y deunyddiau y mae LLMs yn eu dadansoddi yn cynnwys celwyddau ac anghywirdebau dynol.

Hyd yn hyn, mae LLMs hefyd wedi cael eu hyfforddi i fynegi eu hunain yn glir ac yn hyderus. Mae hyn yn broblem os yw’n dweud rhywbeth sydd ddim yn wir, gan y bydd yn gwneud iddo swnio’n wir! Atgyfnerthir hyn gan ein tueddiad fel bodau dynol i ymddiried mewn peiriannau i roi’r ateb cywir.

Os ydych chi’n defnyddio modelau iaith mawr i gynhyrchu neu syntheseiddio, dylech chi fod yn ymwybodol o naw camsyniad am LLMs. Dylech chi osgoi bod fel y cyfreithiwr yn Efrog Newydd a geisiodd arbed amser gan ddefnyddio ChatGPT i baratoi ei achos llys.

Beth i’w ddefnyddio

‍Fel sy’n wir ym mis Medi 2023, mae Torchbox yn argymell:‍


Credydau: Diolch i Andy Gordon ac Ed Baldry o’r asiantaeth ddigidol Torchbox am gyfrannu’r erthygl hon i Catalyst.

Delwedd: Trwy garedigrwydd Torchbox.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889