Sut i Gynnal Sesiwn Cyd-gynllunio
Awdur: Joe Roberson;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae sesiwn cyd-gynllunio yn sesiwn gynllunio gydweithredol a chreadigol. Mae’n dod â defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill i mewn i’r broses o gynllunio. Mae’r erthygl hon yn cyflwyno sut i gynnal sesiwn ac yn rhoi dolenni i ganllawiau mwy manwl, heb lawer o jargon.
“Mae’n adnodd ar gyfer darganfod ac archwilio cyfleoedd yn hytrach na chynhyrchu atebion terfynol. Ei nod yw cychwyn trafodaeth ymhlith rhanddeiliaid ac arwain penderfyniadau cynllunio, er enghraifft trwy adeiladu cysyniadau, sy’n llywio’r hyn y dylid ei gynllunio ac ar gyfer pwy” – Gyngy Ifekete
Cydweithredol a chreadigol
Mae sesiynau cyd-gynllunio yn gydweithredol oherwydd bod pobl yn gweithio gyda’i gilydd mewn timau cymysg. Mae gan bawb gyfle cyfartal i gyfrannu. Nid oes neb yno i wneud penderfyniadau.
Mae sesiynau cyd-gynllunio yn greadigol oherwydd eu bod yn cynnwys tasgau ymarferol a chreu pethau. Gallai hyn fod yn creu straeon, gwneud brasluniau ar bapur, cynhyrchu syniadau, neu ddychmygu senarios.
Pryd i gynnal sesiwn cyd-gynllunio
Mae sesiynau cyd-gynllunio yn dda pan fyddwch yn ymchwilio i broblem ac yn archwilio atebion digidol.
Yr amser gorau yn y broses hon yw tua diwedd y cyfnod ‘Darganfod’ neu ymchwil defnyddwyr. Yn y cam yma:
- Byddwch wedi cynhyrchu rhywfaint o fewnwelediadau o ymchwil defnyddwyr
- Efallai nad yw’r ffordd gallech chi symud ymlaen yn glir i chi
- Efallai bod gennych chi rhai cysyniadau ynghylch yr atebion
- Ni fyddwch yn gwybod eto i ba gyfeiriad i fynd gyda datrysiadau
Yna mae sesiynau cyd-gynllunio yn gweithredu fel pont i’r cyfnod prototeipio. Gall rhai hyd yn oed gynnwys creu prototeip.
Gallwch hefyd gynnal sesiynau cyd-gynllunio yn ystod y cyfnod prototeipio. Neu hyd yn oed integreiddio gweithgareddau cyd-gynllunio i sesiynau profi.
Fodd bynnag, sicrhewch fod gennych chi ddigon o amser ar ôl y sesiwn i ddatblygu’r canlyniadau. Fel arall, byddwch wedi gwastraffu amser pobl ac wedi creu disgwyliadau na allwch eu bodloni.
Cofiwch nid ar gyfer gwneud penderfyniadau y mae sesiynau cyd-gynllunio. Ond maent yn dda am gynhyrchu mewnwelediadau i arwain penderfyniadau.
Pam cynnal sesiwn cyd-gynllunio
Mae yna lawer o resymau da dros gynnal sesiwn cyd-gynllunio. Maent yn helpu i:
- Canolbwyntio eich tîm a’ch cydweithwyr ar anghenion defnyddwyr
- Adeiladu ar, neu atgyfnerthu, mewnwelediadau ymchwil
- Dilysu syniadau neu atebion neu syniadau posibl
- Dod â safbwyntiau amrywiol i broblemau cymhleth. Pwysig gan ein bod i gyd yn rhannu rhan o’r mewnwelediad a’r ateb
- Creu mwy o ecwiti ar draws yr holl randdeiliaid – buddiolwyr i uwch reolwyr
- Cyflwyno agoredrwydd a gwelededd i’ch proses gynllunio. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu ag unrhyw ddatrysiadau terfynol.
- Dod â mannau dall i’r amlwg. Mae gan bawb y rhain, mae defnyddwyr a rhanddeiliaid yn dod â gwybodaeth sy’n ein helpu i sylweddoli’r hyn nad oeddem yn ei wybod.
- Osgoi problemau perswadio. Nid oes angen i neb gyflwyno syniadau. Mae hyn yn osgoi sefyllfa ni yn erbyn nhw, neu sefyllfa gystadleuol awgrymog – dim ond archwilio yr ydym ni yma.
Mathau o weithgareddau sesiwn
Dylai pob sesiwn gynnwys:
- Cynhesu
- Cyflwyniad (gan gynnwys rheolau sylfaenol)
- Rhedeg trwy lif y sesiwn
Yna mae’r rhan fwyaf o sesiynau’n cynnwys cyfuniad o 2 neu fwy o’r gweithgareddau canlynol.
1. Ailchwarae ymchwil
Dyma rannu gwybodaeth o’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu hyd yn hyn. Mae’n egluro cynnwys a mewnwelediadau a glywyd gan bobl eraill. Dylech chi wneud hyn bob amser os yw gennych. Cliciwch y ddolen isod i gael mynediad i’r cyflwyniad.

2. Storifwrdd
Gweithgaredd creadigol lle mae cyfranogwyr yn creu straeon o sut beth yw profi’r broblem. Gallent wneud hyn gan ddefnyddio templed storifwrdd neu anodd arall.
Gellir defnyddio storifwrdd hefyd i greu stori newydd, i ddangos ateb posibl i’r broblem a sut y gallai’r defnyddiwr ei brofi.

3. Syniadaeth
Fel arfer, mae creu syniadaeth yn cynnwys cynhyrchu llawer o syniadau gan ddefnyddio gweithgareddau fel Crazy 8’s. Gall hefyd gynnwys dewis un neu fwy o syniadau i’w braslunio neu eu creu allan o Lego neu ddeunyddiau eraill.
Darllenwch: Sut i gynhyrchu syniadau wrth geisio datrys problem trwy ddigidol.

4. Profi datrysiadau presennol
Mae hyn yn cynnwys rhoi datrysiadau presennol o flaen defnyddwyr a gofyn iddynt eu harchwilio. Mae gwneud hyn yn tynnu sylw at broblemau neu brofiadau gwael, gan ddarparu tanwydd ar gyfer syniadaeth.

5. Profi syniadau newydd
Mae hyn yn cynnwys dangos mapiau taith, storifyrddau, brasluniau neu brototeipiau ansawdd isel i bobl. Yna rydych chi’n nodi eu profiadau ac yn gofyn iddynt greu rhywbeth gwell gan ddefnyddio gweithgaredd syniadaeth.

“Mae’r gêm gylch yn ffordd wych i gynhesu pobl. Rhowch bensil a darn o bapur i bobl gyda thua 20 o gylchoedd wedi’u hamlinellu. Gofynnwch iddynt droi cymaint o gylchoedd â phosibl yn rhywbeth gwahanol o fewn 1 munud. Gallai fod yn bitsa, haul, cloc, pêl-droed ac ati. Mae’n gwneud i ymennydd pobl feddwl yn ochrol ac yn gyflym.”– Clare Hopper, Pennaeth Cynllunio, Economist Educational Foundation
14 darn o gyngor i gynnal sesiwn
Dyma restr o’r cyngor gorau. Yn seiliedig ar fy mhrofiad i a phrofiadau eraill.
- Cynllunio’n dda. Ewch drwyddo gyda chydweithiwr. Cael gwared ar y fflwff.
- Gwahodd ystod eang o bobl i fynychu, a fydd yn dod â gwahanol safbwyntiau ac arbenigedd.
- Mae sesiynau wyneb yn wyneb yn caniatáu i bobl ddefnyddio eu sgiliau gorau – efallai y bydd rhai eisiau braslunio datrysiad ar bapur tra bydd eraill yn teimlo’n fwy cyfforddus yn mynegi eu syniadau ar lafar.
- Defnyddio nodiadau gludiog a wal neu fwrdd gwyn.
- Dim syrpreisys. Ar ddechrau’r sesiwn, esboniwch lif y sesiwn.
- Datblygu tasgau byr neu glir y byddwch yn gofyn i bobl eu gwneud. Argraffwch y rhain.
- Sefydlu credadwyedd. Esboniwch o ble mae’r dulliau rydych chi’n eu defnyddio yn dod.
- Rhoi cyd-destun ar ddechrau’r gweithdy. Helpwch y cyfranogwyr i gynhesu a chysylltu. Rhowch wybodaeth iddynt am yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu hyd yn hyn a’r problemau a’r cyfleoedd fel rydych chi’n eu gweld ar hyn o bryd. Pwysleisiwch fod hwn yn brosiect sy’n esblygu a bod popeth yn agored i gwestiynu a myfyrio.
- Annog creadigrwydd. Nid oes syniadau drwg ac mae’n normal peidio â theimlo’n hyderus yn greadigol. Nid yw ysgol a chymdeithas yn annog lefelau uchel o greadigrwydd ond mae’r gofod hwn yn wahanol.
- Dadbersonoli. Defnyddiwch eiriau fel ‘pobl’ yn hytrach na ‘chi’. Mae hyn yn helpu pobl i ymgysylltu’n well.
- Symud trwy bethau’n sydyn unwaith y bydd pawb ar yr un dudalen. Ond peidiwch â mynd yn gyflymach na’r person arafaf yn yr ystafell.
- Darparu byrbrydau a lluniaeth.
- Mwyafrif o dair awr (yn ogystal ag egwyliau) ar gyfer sesiwn.
- Talu neu wobrwyo pobl am fynychu – dylid cynnwys pawb.
Gofyn ‘pam?’ yn ystod sesiynau cyd-gynllunio
Cofiwch nad sesiynau gwneud penderfyniadau yw sesiynau cyd-gynllunio. Felly pan fydd rhywun yn mynegi barn neu safbwynt ar yr hyn maent yn hoffi neu ddim yn hoffi, dylid gofyn iddynt pam. Bydd gofyn pam yn eich helpu i gyrraedd y darn o’u profiad sydd angen i chi ei glywed. Yna ychwanegwch hyn at eich rhestr fewnwelediadau neu fwrdd gwybodaeth.
Adnoddau i gynnal sesiwn cyd-gynllunio
Pecynnau Cymorth
Mae llawer o’r canllawiau yma’n defnyddio adnoddau o, neu’n debyg i, Design Kit.
- Mae canllaw sesiwn cyd-greu Design Kit yn cysylltu â sawl gweithgaredd cyd-gynllunio gwych.
- Mae canllaw hwylusydd Kevan Gilbert yn dda ar gyfer meddwl trwy fanylion eich sesiwn. Rhaid ei ddarllen.
Pam cyd-gynllunio
- Mae manteision sesiwn cyd-gynllunio Unboxed yn esboniad byr a syml o pam dylid cynnal sesiwn fel gweithgaredd ymchwil defnyddwyr.
Enghraifft
- Mae Designing a co-design workshop gan Gyngy Ifekete yn eich tywys trwy gynllun sesiwn. Yna mae’n rhannu mewnwelediad i sut aeth y gweithdy gwirioneddol gyda gwahanol grwpiau.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst