Sut i Greu Cynnwys Gwrth-ormesol
Awdur: Ettie Bailey;
Amser Darllen: 11 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae iaith yn rhan o ryddhad. Wrth newid ein geiriau, rydym yn helpu – fesul gair, fesul brawddeg, fesul paragraff – i greu byd mwy cyfiawn.
Yn rhan 1, edrychom ar:
- y syniad o gynnwys cynhwysol
- pam nad yw cynhwysiant yn mynd yn ddigon pell
- pam mae angen cynnwys gwrth-ormesol yn lle hynny
Yn yr erthygl yma, byddem yn edrych ar sut i greu cynnwys gwrth-ormesol. Mae yna adnoddau pellach ar waelod y darn yma hefyd.
12 awgrym ymarferol ar gyfer cynnwys gwrth-ormesol
1. Deall bod iaith yn gallu achosi niwed
“Mae geiriau yn gallu ymosod; yn gallu anafu, yn gallu eithrio,” dywed awduron ‘Words That Wound’.
Mae hynny’n wir am sarhad a bygythiadau. Ond gall yr ymadroddion mwyaf diniwed achosi niwed hefyd.
Er enghraifft, mae dweud “boneddigion a boneddigesau” yn awgrymu mai dim ond dau ryw sydd, er bod sawl rhywedd mewn gwirionedd. Mae’n gallu eithrio pobl sydd ddim yn uniaethu fel dyn neu ddynes. Gallech chi ddweud pawb, pobl, cydweithwyr neu gyfeillion yn lle hynny.
“Yn y dwylo anghywir, gellir defnyddio geiriau fel arf. Ond yn y dwylo cywir, gallant newid y byd.” – Amanda Montell
2. Byddwch yn gywir
Pan fyddwn wedi arfer â gair neu ymadrodd, efallai na fyddwn yn cwestiynu ei ystyr llythrennol. Er enghraifft:
- Mae’n aml yn gywir ei alw’n drais gwrywaidd yn erbyn menywod a merched, nid trais yn erbyn menywod a merched. Dynion sy’n dueddol o fod yn droseddwyr yn yr achosion yma. Mae peidio ag enwi dynion yn eu gwneud yn anweledig, gan awgrymu ei fod yn naturiol, a gall awgrymu mai menywod a merched sy’n gorfod datrys hyn.
- Mewn sawl rhan o’r byd, mae gwresogi byd-eang yn adlewyrchu graddfa’r newid yn fwy cywir na chynhesu byd-eang (ac roedd y geiriau ‘newid hinsawdd’ yn boblogaidd yn wreiddiol am ei fod yn swnio’n llai brawychus na chynhesu byd-eang.)
- Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn cael eu gwneud yn dlawd oherwydd systemau a pholisïau (am drafodaeth fanwl, darllenwch fy erthygl am ddefnyddwyr gwasanaeth a’r naratif ‘nhw a ni’ yn y sector elusennol.)
Pa eiriau neu ymadroddion sy’n boblogaidd yn eich sector? A ydynt yn disgrifio pobl yn gywir, neu a ydynt yn awgrymu mai efallai nhw sydd yn gyfrifol am y sefyllfaoedd a’r systemau na gafodd ei greu ganddynt? Meddyliwch am rai ymadroddion y gallech chi eu hailysgrifennu, i roi enw mwy cywir i’r mater.
3. Peidiwch â gosod grwpiau dominyddol yn y canol
Mae dynion yn aml yn cael eu gweld fel bodau dynol normal neu niwtral. O ddymis prawf damweiniau i aerdymheru swyddfa, rydyn ni’n byw mewn byd sydd wedi’i adeiladu ar gyfer dynion. Rydym hefyd yn gosod Gwynder, heterorywioldeb, bod yn cisryweddol, bod yn niwronodweddiadol – a llawer o nodweddion diwylliannol goruchafol eraill – fel ein safon o ‘normal’.
“Os yw rhywun yn cychwyn eu stori gyda ‘Gwelais y person ‘ma yn ddiweddar’, mae’n bur debyg y bydd y rhai sy’n clywed y stori honno fel arfer yn meddwl am y person anadnabyddus yma fel dyn Gwyn, dosbarth canol, nes byddant yn cael gwybodaeth bellach,” meddai Scott Kiesling.
Os mai dim ond sôn am hil neu ryw ydym ni pan nad ydynt yn Wyn, yn wryw, neu’n cisrywiol (ac ati), yna rydym yn atgyfnerthu eu cyfreithlondeb fel y safon anweledig y caiff grwpiau eraill eu mesur yn ei herbyn.
Er mwyn herio hyn, ceisiwch osgoi cyffredinoli grwpiau dominyddol (fel galw grŵp rhyw gymysg o bobl yn ‘guys’).
Ceisiwch beidio gosod nodweddion diwylliannol dominyddol fel Gwynder, gwrywdod neu heterorywioldeb yn y canol. Gallai fod mor syml â dweud: mae’r person yma’n Wyn, yn wrywaidd, yn heterorywiol.
4. Anghofiwch am y rhyw ddeuaidd
Mae llawer ohonom wedi cael ein dysgu i feddwl mai dim ond dau ryw sydd. Mae ymadroddion fel ‘boneddigion a boneddigesau, bechgyn a merched’ yn atgyfnerthu’r syniad o ryw ddeuaidd.
Ond mae yna lawer iawn o rywiaethau, nid dau yn unig. Ceisiwch ddweud ‘pob rhyw’ yn lle’r ddau.
Mae defnyddio teitlau niwtral o ran rhywedd fel ‘cadair’ yn lle ‘cadeirydd’ neu ‘gadeirwraig’ hefyd yn helpu i osgoi cam-rywio.
Dewch i’r arfer o ddweud eich rhagenwau. Gallech eu cynnwys wrth i chi gyflwyno’ch hun, ynghyd â’ch enw. Gallech chi gynnwys eich rhagenwau yn eich bio cyfryngau cymdeithasol, yr enw sy’n ymddangos mewn cyfarfod fideo, a’ch llofnod e-bost.
Teimlo’n ddryslyd gan ragenwau? Mae Lal Zimman yn dweud ein bod ni i gyd eisoes yn gwybod sut i ofyn am, cofio, a defnyddio’r darnau pwysig yma o wybodaeth. Mae’n debyg iawn i gael enw rhywun yn gywir.
Rydym yn gwybod:
- Ni ellir dyfalu enw rhywun wrth edrych arnynt
- Gallech ddyfalu eu henw, ond efallai byddech chi’n anghywir.
- Mae llawer o enwau, nid dau yn unig
- Gall anghofio neu gamddefnyddio enw rhywun yn fwriadol fod yn niweidiol iawn
- Os ydych chi’n cael yr enw’n anghywir, rydych chi’n ymddiheuro’n sydyn ac yn ymdrechu i gael yr enw’n gywir y tro nesaf.
Mae’r un peth yn wir o ragenwau hefyd.
Byddwch yn gyfforddus gyda:
- Dweud rhagenwau eich hun
- Gofyn am ragenwau rhywun, (cofiwch nad ydynt yn rhagenw â ‘ffafrir’ neu ‘dewiswyd’, dim ond eu rhagenwau ydynt)
- Ymddiheuro’n sydyn ac o ddifrif os ydych chi’n gwneud camgymeriad
Am awgrymiadau pellach, darllenwch fy mlog ar sut i fod yn fwy cynhwysol i LHDTCRhA+.
5. Dysgu sut i ymddiheuro
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau.
Pan fyddwch chi’n gwneud camgymeriad, peidiwch â chosbi eich hun. Mae’n helpu mwy os ydych chi’n:
- Cydnabod eich bod wedi gwneud niwed (peidiwch â gwadu, ymosod arn neu geisio beio’r person a gafodd ei niweidio)
- Perchnogi’r camgymeriad (dweud ‘fi’ neu ‘ni’ os yw’n briodol)
- Dweud sori (heb unrhyw ‘os na ond’)
- Cadwch bethau’n fyr, yn glir ac yn onest
- Dywedwch beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf
- Canolbwyntiwch ar beidio gwneud yr un camgymeriad eto
6. Ymrwymo i ddysgu cyson
Mae iaith yn newid o hyd. Nid yw hynny’n beth drwg; mae’n arwydd o gynnydd cymdeithasol. Gallem deimlo’n falch pan fydd ein cynnwys yn dyddio. Efallai ei fod yn arwydd bod cymdeithas yn dod yn llai gormesol.
Dysgwch gan eraill
Mae rhai o fy hoff grewyr X (Twitter), LinkedIn, Instagram a TikTok yn bobl sy’n siarad am eu profiadau o ragfarn ar sail oedran, gallu, hil, dosbarth a mwy.
Ond ni ddylem wneud eilun o hunaniaeth pobl. Maen nhw’n grêt i’w dilyn am eu bod nhw’n siarad am ystod enfawr o faterion, nid yn unig eu profiadau nhw. Felly ewch i’w dilyn am eu bod nhw’n ddoniol, yn graff, ac yn gwisgo dillad gwych. A phan fyddwch chi’n eu dilyn, bydd yn ehangu eich golwg ar y byd hefyd.
X (Twitter)
- @NeuroRebel
- @LifeOfABlindGrl
- @AutisticCallum
- @MollyWattTalks
- @Tinu
- @Dillon_Nadia (hefyd ar Instagram fel @AutisticBlackGirl)
- @Wonder_Cripple
- @LucyEdwardsOfficial
- @UnmaskedWithEllie
- @chellaman
- @alokvmenon
- @mattxiv
- @damianimated
- @wheelchair_rapunzel
- @TheSineadBurke
- @ShayleeMansfield
- @Neurodifferent
TikTok
Dysgwch o ganllawiau arddull
Mae yna ganllawiau arddull cynnwys cynhwysol gwych ar gael. Dyma rai o fy ffefrynnau:
Wrth gwrs, mae iaith yn newid. Mae prosesau fel gostyngiad, defnydd o fwytheiriau a gwynnu ieithyddol yn golygu y gall termau a fu unwaith yn flaengar newid i fod yn sarhad. Felly bydd rhywfaint o’r canllawiau yma’n dyddio. Ond mae hynny’n iawn!
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau iaith ac ysgrifennu
Cewch ddiweddariadau ar iaith ymwybodol (neu wrth-ormesol) yn y newyddion, ynghyd ag adnoddau defnyddiol gyda’r cylchlythyr The Conscious Language.
Tanysgrifiwch i’m cylchlythyr i gael awgrymiadau ymarferol ar bynciau penodol, fel sut i ysgrifennu hashnodau a hyperddolenni hygyrch, neu sut i siarad yn fwy cywir am anabledd.
7. Osgoi mwytheiriau
Mae deud pethau fel ‘anghenion arbennig’, ‘heriol’ neu ‘abl wahanol’ yn fwytheiriau. Ymdrechion i siarad am anabledd neu wahaniaeth rhywun, heb ei enwi’n uniongyrchol.
Rydym yn tueddu i ddefnyddio mwytheiriau am faterion sy’n cael eu hystyried yn gywilyddus, niweidiol neu aflan. Rydym yn osgoi’r mater, gan nad yw’n cael ei ystyried yn gwrtais nac yn barchus. Ond nid oes dim negyddol am anabledd.

Yn hytrach, defnyddiwch iaith:
- Clir
- Penodol
- Cadarnhaol
Er enghraifft, mae’n glir, penodol a chadarnhaol i ddweud ‘yn defnyddio cadair olwyn’. Mae’n ddifrïol dweud ‘wedi’i gyfyngu i gadair olwyn’ neu ‘yn gaeth i gadair olwyn’. Nid yw’n gywir, ychwaith. Gall cadeiriau olwyn roi rhyddid i bobl.

8. Deall croestoriad
Croestoriad yw’r syniad bod systemau gormes yn croestorri.
Er enghraifft, mae menyw traws Ddu yn cael ei niweidio gan orgyffwrdd hiliaeth a rhywiaeth (misogynoir) a rhagfarn rhyw cis a rhywiaeth (transmisogyny). Fel menyw cwiâr, Gwyn, cisrywiol, dosbarth canol, nid wyf yn gorfod wynebu nifer o’r rhagfarnau yma. Felly, gall fod yn gamarweiniol ac yn ddi-fudd grwpio’r ddwy ohonom o dan yr ymbarél LHDTCRhA+, pan fydd ein profiadau bywyd yn hollol wahanol.
Mae termau ymbarél yn ddefnyddiol mewn rhai achosion. Os ydym wir yn siarad am bawb sydd ddim yn cisrywiol, yna nid ydym yn cuddio y tu ôl i gyffredinoli.
Ond gofynnwch i chi’ch hun: ydw i wir yn siarad am grŵp cyfan, er enghraifft, pob person o liw? Neu ydw i yn sôn am bobl Ddu mewn gwirionedd, ac os felly, dylwn i ddweud pobl Ddu?
9. Ysgrifennu i bawb
Ni ellir gwahanu iaith wrth-ormesol oddi wrth gynnwys hygyrch.
Mae pobl yn cael eu anableddu gan y rhwystrau mae cymdeithas yn ei osod.
Gall cynnwys anhygyrch ein anablu. Er enghraifft, mae cynnwys sain heb is-deitlau na thrawsgrifiad, yn anablu pobl fyddar/Byddar/trwm eu clyw rhag cael mynediad iddo.
Bydd defnyddio iaith syml, er enghraifft, yn helpu pawb bron iawn. Mae’n osgoi mwytheiriau, ac efallai gall ein helpu i roi’r gorau i ganoli grwpiau dominyddol. Mae hefyd yn fwy clir ac yn haws i bawb ei gofio, pa un ai ydynt yn flinedig neu â dyslecsia, yn bell eu meddwl neu â dyspracsia.
Darllenwch fy awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu syml i ddarganfod beth yw ysgrifennu syml, pam ei fod yn bwysig a sut i’w ymarfer.
Rhai arferion gorau hygyrchedd:
- Creu testun amgen ar gyfer delweddau ystyrlon
- Defnyddiwch y rheol ‘Camel’ ar gyfer hashnodau
- Ysgrifennu hyperddolenni disgrifiadol
- Ceisiwch osgoi jargon, idiomau neu gyfeiriadau diwylliannol (oni bai eich bod yn eu hegluro’n glir yn eu cyd-destun).
10. Peidiwch â rhagdybio
Nid yw’n bosib dweud beth yw statws hil/rhyw/anabledd rhywun o edrych arnynt. Ac ni allwch ddweud beth yw eu dewisiadau, megis a ydynt yn defnyddio iaith person-gyntaf neu iaith hunaniaeth-gyntaf.
Er enghraifft, mae’n well gan y mwyafrif o bobl awtistig yn y DU ddefnyddio iaith hunaniaeth-gyntaf (‘dwi’n awtistig’) nid iaith person-gyntaf (‘Rwy’n berson ag awtistiaeth’). Ond mae pawb yn wahanol. Felly hyd yn oed os yw’n well gan 90% o’r grŵp ddefnyddio un ffordd, mae angen i chi ofyn bob tro.
“Os ydych chi wedi cyfarfod ag un person ag awtistiaeth, yna un person ag awtistiaeth rydych chi wedi cwrdd â nhw” – Dr Stephen Shore.
Mae hyn yn wir i unrhyw hunaniaeth. Er enghraifft, os ydych chi wedi cyfarfod ag un person Byddar, yna un person Byddar rydych chi wedi cwrdd â nhw.
11. Gofynnwch i bobl
“Sut ydych chi’n disgrifio’ch hun?”
“Sut ydych chi’n adnabod eich hun?”
“Pa ragenwau ydych chi’n eu defnyddio?”
Gallai gofyn i rywun am eu rhyw, hil neu rywioldeb y tu allan i’r cyd-destun fod yn anghwrtais neu’n wahaniaethol.
Os yw’n wirioneddol berthnasol, ac rydych chi’n gwrtais ac yn broffesiynol, yna gall cwestiynau fel yma fod yn fwy cynhwysol, nid gwaharddol. Efallai byddai’n berthnasol, er enghraifft, gofyn a ydych chi angen gwirio sut i’w disgrifio mewn cyfweliad ysgrifenedig, neu beth i roi yn eu disgrifiad cyn iddynt siarad mewn digwyddiad.
Mae’n gofyn yn gallu teimlo’n lletchwith, ond mae’n llawer gwell na cheisio dyfalu eu rhyw/rhywioldeb/hil a’i gael yn anghywir.
12. Rhannwch eich dysgu
Gall fod yn syml cywiro iaith niweidiol. Tynnwch sylw’n gwrtais at yr hyn y mae’r person wedi’i ddweud, eglurwch pam y gallai fod yn niweidiol, ac yna eglurwch beth y gallent ei ddweud yn lle hynny.
“Sylwais eich bod yn dweud [ymadrodd]. Roeddwn i’n arfer dweud hynny, ond wedyn dysgais pam ei fod yn niweidiol. Rwy’n dweud hyn nawr.”
Gall cywiro rhagenwau fod yn hawdd hefyd.
“Dim ond i chi fod yn ymwybodol, rhagenwau Ashley yw ‘nhw’.”
Gallwch hefyd ateb gan ddefnyddio’r enw cywir, rhagenw neu air arall.
Daliwch ati gyda’r momentwm
Ydych chi’n barod i greu cynnwys gwrth-ormesol? Cychwynnwch arni heddiw, a daliwch ati i rannu eich taith, fel eich bod yn annog pobl eraill hefyd.
Adnoddau
Fideos
Erthyglau, canllawiau a chylchlythyrau….
- Canllaw Hygyrchedd a Chynhwysiant Intuit
- Iaith gynhwysol mewn technoleg
- Newid Iaith Elusennau
- Cynllunio cyfathrebu trwy lens amrywiaeth a chynhwysiant
- Canllaw Arddull Blaengarwr
- Mae gan sefydliadau dielw broblem ‘ni a nhw’
- Cylchlythyr Fighting Talk
- 10 awgrym ymarferol ar gyfer iaith gynhwysol LHDTCRhA+
Llun gan Priscilla Gyamfi ar Unsplash
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst