Newyddion
Tania Russell-Owen | 21 Awst 2024
Ymunodd Jo â ProMo Cymru gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd. Wedi cymhwyso fel athrawes Ysgol Gynradd, bu hefyd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion uwchradd, addysg oedolion, ac un i un gyda dysgwyr hŷn. Ynghyd â hyn, roedd Jo yn Ofalwr Maeth – profiad sydd yn […]
Andrew Collins | 29 Mai 2024
Mae gan Joe flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru, yn cysylltu gyda chymunedau a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd difreintiedig. Mae wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles i famau ifanc yng Nghymoedd De Cymru, wedi cyflwyno dosbarthiadau sgiliau bywyd i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, ac […]
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Mae John yn Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn rheoli cyllid ochr elusennol ac ochr masnachol y cwmni. Mae gan John ddegawdau o brofiad cyllidol yn gweithio yn y maes ymarfer cyfrifeg, ac yn y diwydiant hysbysebu. Yn ei amser gyda ProMo-Cymru mae John wedi rheoli sefydliad y llinell gymorth Meic, trosglwyddo asedau’r Loteri Fawr ac […]
Tania Russell-Owen | 25 Mehefin 2025
Daw Julie â blynyddoedd o brofiad manwerthu ac arlwyo i’w rôl fel Cogydd Caffi EVI. Yn adnabyddus am ei sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli stoc gref, mae ganddi brofiad o arlwyo ar gyfer digwyddiadau maerol ym Mlaenau Gwent hyd yn oed! I gychwyn, cynigiodd Julie wirfoddoli yng nghaffi prysur EVI. Yn sydyn iawn, daeth yn […]
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Llwyddodd Lucy i dderbyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd yn 2022. Cychwynnodd ei pherthynas gyda ProMo Cymru gyda lleoliad profiad gwaith cyn iddi ddod yn aelod o staff llawn amser. Mae Lucy yn angerddol am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan i godi ymwybyddiaeth o’r materion sydd yn bwysig i bobl ifanc. Mae ganddi […]
Tania Russell-Owen | 20 Mawrth 2025
Graddiodd Marley gyda gradd Rheoli Digwyddiadau yn 2024. Mae ganddi brofiad o gynllunio a chyflawni nifer o ddigwyddiadau, o uwchgynadleddau rhyngwladol i wyliau cerddoriaeth, ac mae wedi creu digwyddiad elusennol ei hun yn cefnogi Venture Arts. Yn ProMo Cymru, mae Marley yn gweithio ar draws yr adran Cyllid ac Adnoddau Dynol, gan ddatblygu ei galluoedd […]
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Gyda blynyddoedd o brofiad cefnogaeth TGC mae Matthew yn goruchwilio ein system SharePoint, ffonau VoIP, datblygiad a diogelwch Gwe. Ers ymuno gyda ProMo-Cymru yn 2013 mae Matt wedi bod yn cefnogi’r staff gyda diweddariadau i’r system TGC a hyfforddi yn y defnydd effeithlon o feddalwedd newydd.
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Marco wedi bod yn arwain ProMo-Cymru i ddod yn sefydliad blaenllaw. Mae’n arbenigo mewn economeg gymdeithasol a datblygiad, democratiaeth ddiwylliannol a rhoi grym i leisiau ar y cyrion. Mae ProMo Cymru wedi datblygu dull arweinyddiaeth ddosranedig, yn rhoi grym i unigolion, timau a sefydliadau i arloesi a thrawsffurfio.
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Yn 2022 llwyddodd Megan i gwblhau gradd meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang. Mae ganddi brofiad mewn ymgyrchoedd digidol a chysylltiadau cyhoeddus strategol, mewn rheoli cyfryngau cymdeithasol, ymchwil cyfathrebu trydydd sector manwl, a chynhyrchu cynnwys graffeg, ffotograffig ac ysgrifenedig ar gyfer prosiectau amrywiol. Mae prif rôl Megan yn ProMo-Cymru yn ymwneud â […]
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Mae gan Molly radd baglor mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Mae ganddi swydd interniaeth â thâl yn ProMo Cymru. Gyda chefndir mewn animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’n tîm Cyfryngau. Yn ei swydd, mae Molly yn creu […]
Tania Russell-Owen | 29 Mai 2024
Mae Nathan, sydd â chefndir newyddiadurol, wedi bod yn gweithio o fewn datblygiad cymunedol ers sawl blwyddyn bellach. Roedd yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru gydag ymgysylltiad digidol, yn cyfrannu at ddatblygiad llwyfannau ar-lein a strategaethau cenedlaethol i gynyddu ymgysylltiad. Mae Nathan yn rhedeg sawl prosiect yn ProMo-Cymru ac yn gweithio ar ddatblygu cyllid.
Tania Russell-Owen | 23 Mai 2024
Mae Sam yn gweithio’n agos gyda’r tenantiaid a’r rhai sy’n llogi’r EVI, yn cydlynu’r sawl agwedd o redeg y ganolfan ar weithrediadau o ddydd i ddydd. Mae Sam wedi gweithio ar sawl prosiect adfywio yn y gorffennol ac roedd yn rhan o’r tîm datblygu oedd yn gyfrifol am drawsffurfio’r EVI o adeilad wag hen i’r […]