News
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Ymunodd Dean â ProMo-Cymru yn 2011 fel Eiriolwr Gynghorwr ar ein llinellau cymorth. Mae ganddo brofiad helaeth o gefnogi unigolion ac mae wedi gweithio gydag ymchwilwyr noddfa a ffoaduriaid cyn iddo ymuno â thîm ProMo. Yn ei swydd bresennol fel Swyddog Cefnogi Ymgysylltiad mae’n cysylltu gydag amrywiaeth o sefydliadau a phobl broffesiynol wrth iddo gefnogi […]
Andrew Collins | 29 May 2024
Mae gan Joe flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru, yn cysylltu gyda chymunedau a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd difreintiedig. Mae wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles i famau ifanc yng Nghymoedd De Cymru, wedi cyflwyno dosbarthiadau sgiliau bywyd i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, ac […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Mae John yn Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn rheoli cyllid ochr elusennol ac ochr masnachol y cwmni. Mae gan John ddegawdau o brofiad cyllidol yn gweithio yn y maes ymarfer cyfrifeg, ac yn y diwydiant hysbysebu. Yn ei amser gyda ProMo-Cymru mae John wedi rheoli sefydliad y llinell gymorth Meic, trosglwyddo asedau’r Loteri Fawr ac […]
Tania Russell-Owen | 28 May 2024
Llwyddodd Halyna i raddio mewn Seicoleg o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2020 ac mae ganddi brofiad mewn cyfryngau digidol, marchnata a chyfathrebu. Cychwynnodd ei siwrne gyda ProMo fel gwirfoddolwr, cyn symud at ei rôl llawn amser presennol fel Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys. Mae’n gyfrifol am gynllunio, creu a chyhoeddi cynnwys ar draws sawl prosiect ProMo […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Llwyddodd Lucy i dderbyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Caerdydd yn 2022. Cychwynnodd ei pherthynas gyda ProMo Cymru gyda lleoliad profiad gwaith cyn iddi ddod yn aelod o staff llawn amser. Mae Lucy yn angerddol am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan i godi ymwybyddiaeth o’r materion sydd yn bwysig i bobl ifanc. Mae ganddi […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae Marco wedi bod yn arwain ProMo-Cymru i ddod yn sefydliad blaenllaw. Mae’n arbenigo mewn economeg gymdeithasol a datblygiad, democratiaeth ddiwylliannol a rhoi grym i leisiau ar y cyrion. Mae ProMo Cymru wedi datblygu dull arweinyddiaeth ddosranedig, yn rhoi grym i unigolion, timau a sefydliadau i arloesi a thrawsffurfio.
Tania Russell-Owen | 21 August 2024
Ymunodd Jo â ProMo Cymru gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd. Wedi cymhwyso fel athrawes Ysgol Gynradd, bu hefyd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion uwchradd, addysg oedolion, ac un i un gyda dysgwyr hŷn. Ynghyd â hyn, roedd Jo yn Ofalwr Maeth – profiad sydd yn […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Gyda blynyddoedd o brofiad cefnogaeth TGC mae Matthew yn goruchwilio ein system SharePoint, ffonau VoIP, datblygiad a diogelwch Gwe. Ers ymuno gyda ProMo-Cymru yn 2013 mae Matt wedi bod yn cefnogi’r staff gyda diweddariadau i’r system TGC a hyfforddi yn y defnydd effeithlon o feddalwedd newydd.
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Yn 2022 llwyddodd Megan i gwblhau gradd meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang. Mae ganddi brofiad mewn ymgyrchoedd digidol a chysylltiadau cyhoeddus strategol, mewn rheoli cyfryngau cymdeithasol, ymchwil cyfathrebu trydydd sector manwl, a chynhyrchu cynnwys graffeg, ffotograffig ac ysgrifenedig ar gyfer prosiectau amrywiol. Mae prif rôl Megan yn ProMo-Cymru yn ymwneud â […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Mae Molly yn astudio Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudiad yn y brifysgol ar hyn o bryd. Mae ganddi swydd interniaeth â thâl yn ProMo Cymru. Gyda chefndir mewn animeiddio 2D a 3D, VFX a dylunio graffeg, mae Molly yn dod a sgiliau gwerthfawr i’n tîm Cyfryngau. Yn ei swydd, mae Molly yn creu dyluniadau ar […]
Tania Russell-Owen | 29 May 2024
Mae Nathan, sydd â chefndir newyddiadurol, wedi bod yn gweithio o fewn datblygiad cymunedol ers sawl blwyddyn bellach. Roedd yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru gydag ymgysylltiad digidol, yn cyfrannu at ddatblygiad llwyfannau ar-lein a strategaethau cenedlaethol i gynyddu ymgysylltiad. Mae Nathan yn rhedeg sawl prosiect yn ProMo-Cymru ac yn gweithio ar ddatblygu cyllid.
Tania Russell-Owen | 23 May 2024
Mae Sam yn gweithio’n agos gyda’r tenantiaid a’r rhai sy’n llogi’r EVI, yn cydlynu’r sawl agwedd o redeg y ganolfan ar weithrediadau o ddydd i ddydd. Mae Sam wedi gweithio ar sawl prosiect adfywio yn y gorffennol ac roedd yn rhan o’r tîm datblygu oedd yn gyfrifol am drawsffurfio’r EVI o adeilad wag hen i’r […]