Swyddfa VR: Camu i Ddyfodol Gweithio o Gartref
Llond bol o weithio gartref ar ben eich hun? Eisiau gweithle mwy ysbrydoledig? Eisiau cydweithio’n rhwydd gyda chydweithwyr o bell? Mae Realiti Rhithwir (VR) yn cynnig cyfle i greu amgylcheddau swyddfa gartref ymdrochol sy’n fwy cynhyrchiol o bosib.
Creu swyddfa gartref gwell gyda VR
Mae VR yn cynnig cyfle unigryw i gynllunio gweithle wedi’i deilwra sy’n darparu ar gyfer eich anghenion a’ch dewisiadau penodol. Gallwch greu amgylchedd swyddfa gartref ymdrochol sydd â’r posibilrwydd o fod yn fwy cynhyrchiol yn VR! Dyma sut mae’n gweithio:
Apiau swyddfa VR pwrpasol
Mae’r apiau yma yn gweithredu fel eich man gwaith rhithwir. Mae opsiynau poblogaidd yn cynnwys Immersed VR, VSpatial, a Meta Horizon Workrooms. Maent yn caniatáu i chi addasu eich swyddfa rithwir gyda ffenestri gyda golygfeydd syfrdanol, gosod sgriniau rhithwir i weithio arnynt, neu gydweithio ag eraill mewn ystafell gynadledda rithwir.
Sgriniau lluosog
Dychmygwch sawl monitor yn arnofio yn eich gofod VR, perffaith ar gyfer amldasgio! Dim desgiau mawr yn y ffordd – mae VR yn caniatáu i chi drefnu a newid maint eich sgriniau rhithwir fel dymunir, gan fanteisio orau o’ch gweithle heb orfod gwneud hyn yn y byd go iawn.
Integreiddio bysellfwrdd
Er bod menig VR yn parhau i ddatblygu, mae’r mwyafrif o apiau swyddfa VR yn caniatáu i chi ddefnyddio bysellfwrdd a llygoden neu dracpad yn y byd go iawn i ryngweithio â’r gweithle rhithwir. Mae hyn yn rhoi profiad teipio cyfarwydd ar gyfer gwaith di-dor.
Technoleg ‘Passthrough’
Mae technoleg ‘Passthrough’ yn caniatáu i chi gyfuno’ch VR a’r byd go iawn. Mae’r nodwedd glyfar yma yn caniatáu ichi weld eich amgylchedd go iawn trwy’r penset wrth wasgu botwm. Eisiau gwneud coffi, edrych ar eich ffôn, neu ysgrifennu rhywbeth ar bapur? Gallech newid rhwng y byd rhithwir a’r byd go iawn gyda ‘Passthrough’ heb orfod tynnu’r penset.

Beth yw manteision defnyddio VR wrth weithio gartref?
Mae llawer o fanteision posibl i ddefnyddio VR i weithio gartref, gan gynnwys:
- Gwell ffocws: Gall VR leihau ymyriadau wrth rwystro’ch amgylchedd corfforol. Dychmygwch weithio mewn caban tawel ar fynydd yn lle desg flêr gyda chymdogion swnllyd.
- Ergonomeg well: Mae VR yn caniatáu mwy o osodiadau ergonomig. Gellir addasu’ch man gwaith rhithwir i uchder a lleoliad perffaith, gan leihau straen cefn a gwddf o bosibl. Nid oes angen llawer o le ar gyfer gosodiad a all gostio cannoedd, os nad miloedd, o bunnoedd i’w efelychu yn eich bywyd go iawn.
- Gwell cydweithio: Mae offer cydweithio VR yn caniatáu i chi gyfarfod gyda chydweithwyr yn rhithiol mewn gofodau a rennir, gan feithrin ymdeimlad o bresenoldeb a gwaith tîm. Dychmygwch drafod syniadau gyda chydweithwyr ar draws y byd mewn sesiwn bwrdd gwyn rhithwir.
- Ffactor hwyl: I fod yn gwbl onest, gall gweithio o gartref fod yn undonog. Mae VR yn rhoi ychydig o hwyl a newydd-deb i’ch diwrnod gwaith. Dychmygwch gyflwyno eich prosiect diweddaraf mewn amffitheatr rithwir neu fynychu cyfarfod tîm ar draeth trofannol rhithwir. Gall fod yn newid golygfa braf sy’n rhoi hwb ac egni i chi.
Ond, efallai na fydd y buddion yma yn briodol i bawb. Er bod VR yn cynnig posibiliadau cyffrous, nid yw’n gweithio mor llyfn a awgrymir yn yr hysbysebion bob tro.

Beth ellir ei wneud i wella VR?
Mae yna wastad lle i wella, yn enwedig gyda thechnoleg newydd. Dyma rai agweddau ar weithleoedd VR sy’n parhau i gael eu datblygu:
- Integreiddio bysellfwrdd llyfn: Weithiau, gall fod yn anodd teipio yn defnyddio ‘Passthrough’, felly mae posib gwneud mwy o gamgymeriadau.
- Straen llygaid a cyfforddusrwydd: Gall defnyddio VR achosi straen llygaid, cur pen, a phendro i rai.
- Pwysau penset a bywyd batri: Gall pensetiau VR presennol deimlo’n drwm ar ôl gwisgo am ychydig oriau, a gall bywyd batri gyfyngu ar eich diwrnod gwaith.
- Afatarau afrealistig: Er bod posib addasu eich afatar VR, mae’n parhau i edrych fel cartŵn. Gall arwain at letchwithdod cymdeithasol wrth ymuno â chyfarfodydd â gweithwyr proffesiynol eraill ar-lein, sydd efallai ddim yn deall ac yn meddwl bod ymuno gyda VR yn gimigaidd.
Er bod technoleg VR yn parhau i ddatblygu, mae’n cynnig cipolwg ar ddyfodol gwaith. Gyda’r potensial i wella ffocws, creadigrwydd a chydweithio, gall VR fod yn allweddol i ddatgloi profiad gwaith mwy cynhyrchiol a deniadol o gartref.
Gwybodaeth bellach am Wasanaethau Cymorth Digidol ProMo Cymru yma.
Chwiliwch ein cronfa enfawr o adnoddau digidol yma. Blogiau, canllawiau, a phecynnau cymorth ar newid digidol, gwasanaethau digidol, gweithio’n ddigidol, ariannu digidol a mwy.
Tania Russell-Owen
26 Mawrth 2025
Digidol Trydydd Sector
Technoleg
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]
Newyddion
Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]
Meic
Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng
Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]