Tyrd yn Gynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed Cyflogedig gyda Meddwl Ymlaen Gwent!

Group of young people at the Mind Our Future Gwent residential. They're posing for a group picture with a sign that reads 'the farm is an outdoor classroom'.

Wyt ti’n berson ifanc sy’n angerddol am lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent? Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn recriwtio pobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Ngwent i ymuno â ni fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed.


Gwybodaeth gefndirol

Mae Meddwl Ymlaen Gwent yn brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol dan arweiniad ProMo Cymru a Mind yng Ngwent, gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i gyd-gynllunio a datblygu atebion arloesol ar gyfer gwella iechyd meddwl a gwydnwch ledled Gwent.

Y bobl ifanc eu hunain sy’n ymchwilio gwasanaethau presennol, yn nodi unrhyw fylchau ac yn creu dulliau newydd i sicrhau bod gan bobl ifanc y rhanbarth gymorth iechyd meddwl amserol a phriodol. Yn y pen draw, mae’r prosiect yn gweithio tuag at ddyfodol mwy iach yn feddyliol i bobl ifanc Gwent.

Yn ystod blwyddyn gyntaf ein prosiect, ymchwiliodd Meddwl Ymlaen Gwent i brofiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent.

Cyflogwyd 10 ymchwilydd cyfoed o Went (Caerffili, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen neu Gasnewydd) i helpu i siarad â’u cyfoedion, dadansoddi data, dewis themâu allweddol, ac ysgrifennu adroddiad i rannu ein canfyddiadau. Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Darganfod ym mis Hydref 2023, ac roedd yn cynnwys 7 mewnwelediad allweddol, ac yna diffiniwyd beth oedd y problemau pwysicaf allan o’r rhain.

Yn 2024 ac yn gynnar yn 2025, datblygwyd a phrofwyd datrysiadau i fynd i’r afael â rhai o’r mewnwelediadau a’r problemau a ddaeth o’n hymchwil.

Bellach, rydym yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â’r grŵp presennol a helpu i ehangu ein datrysiadau dros y flwyddyn nesaf, gan ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn ogystal â lledaenu ymwybyddiaeth am y prosiect ar draws Gwent.

Oes gen ti:

  • Angerdd dros yrru newidiadau positif yn y system iechyd meddwl
  • Sgiliau cyfathrebu cryf, gan gynnwys gwrando a chyflwyno
  • Ymrwymiad a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
  • Agwedd ‘gallaf wneud’ ac yn ddibynadwy iawn
  • Cysylltiadau â chymunedau neu grwpiau o bobl ifanc (e.e., clybiau chwaraeon, grwpiau LHDTCRh+, ac ati)
  • Y parodrwydd i deithio ar draws Gwent (er bod mwyafrif y gwaith yn digwydd ar-lein, bydd rhai digwyddiadau a hyfforddiant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb)
  • Amser i ymrwymo 10 awr y mis i’r prosiect

Bydd dy dasgau’n cynnwys:

  • Ymgysylltu â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol (gan gynnwys mynychu digwyddiadau, siarad â phobl, rhoi cyflwyniadau, datblygu cynnwys ar gyfer y cylchlythyr, ac ati)
  • Datblygu a chyflwyno hyfforddiant i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol gyda chefnogaeth Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed eraill a staff (wyneb yn wyneb ran amlaf)
  • Cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm, sesiynau gwerthuso, a gweithdai gyda dy gyfoedion, tîm staff a rhanddeiliaid
  • Mynychu preswylfeydd ieuenctid blynyddol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb

Beth yw’r buddiannau i ti?

  • Hybu dy sgiliau a hyder wrth rannu dy lais a syniadau mewn gofod diogel
  • Dylanwadu ar newid positif mewn cymunedau ledled Gwent
  • Oriau rhan-amser i gyd-fynd â dy ymrwymiadau presennol, gyda chyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb
  • Mynediad i gyfleoedd dysgu perthnasol i wella dy sgiliau a dy CV
  • Preswylfeydd blynyddol hwyliog gyda gweddill y tîm
  • Staff cefnogol sydd yn awyddus i ti ffynnu
  • 10 awr y mis ar gyfradd Cyflog Byw Cenedlaethol (£12.60 yr awr) ac ad-daliad am unrhyw deithio sy’n gysylltiedig â dy waith ledled Gwent
  • Mynediad i gyfleoedd diddorol fel cymryd rhan mewn grwpiau cynghori cenedlaethol neu ranbarthol, cymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid eraill, mynychu cynadleddau a digwyddiadau, cymryd rhan mewn sesiynau ymgynghori

Dyma sydd gan un o’n Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed i’w ddweud am eu profiad:

“Mae fy ngwaith gyda Meddwl Ymlaen Gwent wedi cael effaith domino positif sydd wedi newid fy mywyd er gwell. Wrth wneud hyn rwyf wedi cael cyfle i helpu pobl ifanc eraill. Ar ôl blynyddoedd o ynysu cymdeithasol, pryder, iselder a diffyg hyder, mae MYG wedi rhoi’r cyfle i mi wneud rhywbeth positif, nid yn unig ar gyfer tyfiant fy hun, ond i helpu pobl ifanc eraill hefyd.”

Dyddiadau pwysig i’r calendr

  • Rydym yn cyfarfod bob dydd Mercher o 4:00yh i 5:30yh (ar-lein ar Zoom). Byddai disgwyl i ti fynychu cyfarfodydd o ddydd Mercher, 10fed Medi 2025.
  • Mae ein preswyl blynyddol nesaf o ddydd Gwener, 17eg i ddydd Sul, 19eg Hydref 2025 (arhosiad dwy noson ger Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Mae ein cyfarfod rhanddeiliaid nesaf ar ddydd Llun, 10fed Tachwedd o 2yp i 6yh (wyneb yn wyneb yng Nghasnewydd)

Sicrha y gallet ymrwymo i’r rhain cyn gwneud cais.

Sut i wneud cais:

I wneud cais, llenwa’r ffurflen hon.

Dyddiad cau ceisiadau yw dydd Llun, 25ain Awst 2025.

Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliadau anffurfiol a gynhelir ar Zoom rhwng dydd Llun, 1af  a dydd Iau, 4ydd Medi 2025.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen gais, cysyllta â Sarah ar sarah@promo.cymru.

Sarah Namann
24 Gorffennaf 2025

star

Newyddion

star

Swyddi

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]

star

Newyddion

Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889