Gwireddu Newid – Ymunwch â Bwrdd ProMo

Picture of the top half of a bearded man in a white shirt smiling at the camera. The background is black. This is the Chief Executive of ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes.

Ydych chi’n angerddol am waith ieuenctid a chymunedol? Yn awyddus i ddefnyddio’ch sgiliau i wireddu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru? Yna ymunwch â’n Bwrdd.

Mae dod yn Ymddiriedolwr gyda ProMo Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth, ennill profiad yn y sector elusennol a dielw, a chyfrannu i wasanaethau a phrosiectau arloesol sydd yn cefnogi cymunedau.

Mae ProMo Cymru wedi bod yn flaengar yn datblygu gwasanaethau sydd yn grymuso ac yn hysbysu pobl ifanc, cymunedau a sefydliadau dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys:

  • Meic – llinell gymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru
  • TheSprout – llwyfan gwybodaeth ieuenctid i Gaerdydd a thu hwnt
  • Prosiectau Digidol – yn cynnig cymorth a hyfforddiant digidol am ddim i sefydliadau trydydd sector
  • TheAbacus – gofod celf a digwyddiadau yn cael ei arwain gan y gymuned gan gydweithio ag artistiaid lleol
  • EVI – canolfan cymunedol a diwylliannol yn gwasanaethu cymuned Glyn Ebwy a’r ardaloedd cyfagos

Pam ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr?

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i greu bwrdd amrywiol a chynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan ferched ac unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig.

“Rydym yn deall bod bwrdd amrywiol yn cyflwyno profiadau a safbwyntiau gwahanol, gan arwain at benderfyniadau strategol gwell, a chysylltiad cryfach gyda’r cymunedau rydym yn ei wasanaethu,” meddai Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo Cymru.

“Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad yn y maes ieuenctid, marchnata neu adnoddau dynol yn arbennig, ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi profiad bywyd a rhai dan 25 oed sydd eisiau profiad arweinyddiaeth,” ychwanegodd Marco.

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • Rôl wirfoddol gyda chostau teithio
  • Cyfarfod bob 8 wythnos (5:30yh – 7:30yh) – ar-lein a Bae Caerdydd
  • Darparir anwythiad a hyfforddiant
  • Byddwch yn rhan o dîm creadigol a chefnogol sydd yn gwneud gwir wahaniaeth

Diddordeb gwneud cais?

Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi! Cysylltwch â sue@promo.cymru i fynegi diddordeb neu cysylltwch â Marco Gil-Cervantes am sgwrs anffurfiol: marco@promo.cymru neu ffoniwch 079 7066 2341.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu newid!

Tania Russell-Owen
5 Chwefror 2025

star

ProMo Cymru

star

Newyddion

star

Bwrdd

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889