Tudalennau ‘Cael Help’ Newydd i Meic

Mewn tirwedd ddigidol sydd wastad yn newid, mae Meic yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ddarganfod er mwyn cefnogi lles plant a phobl ifanc Cymru.
Prosiect datblygu gwe Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Mae’n cael ei reoli gan ProMo Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gwasanaeth wedi gwella’r profiad i’w defnyddwyr wrth gyflwyno tudalennau ‘Cael Help‘ newydd ar wefan www.meic.cymru. Mae’r datblygiad yn rhan o’u hymrwymiad i sicrhau ei bod yn hawdd i bobl ifanc fedru darganfod gwybodaeth a chyngor hanfodol am y materion sydd yn bwysig iddyn nhw.
Datblygu rhyngwyneb cyfeillgar gyda chategorïau wedi’u teilwro
Cyn y datblygiad yma, roedd rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio’r bar chwilio i ddarganfod blogiau perthnasol. Nid oedd hyn yn broses hawdd os nad ydych chi’n gwybod yn union yr hyn rydych yn chwilio amdano. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ newydd wedi’u gosod yn amlwg ar y dudalen gartref er mwyn cael mynediad hawdd.
Ceir categorïau ac is-gategorïau penodol ar y tudalennau ‘Cael Help’. Mae pob pwnc yn ymateb i agweddau penodol bywydau pobl ifanc, fel iechyd meddwl, galar, e-smygu, bwlio, straen arholiadau, problemau ariannol, a gwneud ffrindiau.
Mae’r blogiau wedi’u tagio ar draws sawl categori perthnasol, yn rhoi’r cyfle gorau i’r plant a’r bobl ifanc i ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Wrth gategoreiddio fel hyn, mae tîm Meic wedi gweld ble mae’r bylchau yn y cynnwys. Maent wedi datblygu cynllun cynnwys i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu darganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Cymorth holistig
Mae Meic yn deall pwysigrwydd dull holistig tuag at les ac iechyd meddwl. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ yn cynnwys dolenni i wasanaethau allanol sydd yn arbenigo mewn heriau penodol. Mae’r we o adnoddau rhyng-gysylltiedig yma yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r help sydd ei angen y tu hwnt i lwyfan Meic.
Wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y tudalennau ‘Cael Help’, y gobaith yw y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r cymorth yma yn amser eu hunain pan fyddant ei angen. Mae hyn o fudd i’r bobl ifanc sydd eisiau cymorth anffurfiol ond ddim eisiau sgwrsio gyda rhywun. Mae’r rhai sydd angen cymorth pellach yn cael eu cyfeirio a’u hannog i siarad gyda’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic.


Golwg a theimlad newydd
Yn 2023, lansiodd Meic ei gyfrif TikTok. Y bwriad oedd cyrraedd mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru a darparu cymorth yn y gofodau ble maent yn treulio’u hamser yn barod.
Gyda’r datblygiad yma, mae pobl ifanc wedi cyd-gynhyrchu golwg a theimlad newydd i’r llwyfan, sydd wedi cynnwys creu masgotiaid categori. Mae’r cymeriadau digidol yma, sydd wedi’u darlunio â llaw, yn cynrychioli’r categori ac yn helpu i egluro’r cynnwys. Mae esiamplau yn cynnwys mochyn ar gyfer y categori arian a deilen ar gyfer y categori amgylchedd. Mae’r adran ‘Cael Help’ yn defnyddio’r golwg newydd yma i ddangos y cynnwys ac i sicrhau cysondeb rhwng y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog gan gynnig hyblygrwydd i’r defnyddwyr wrth ddewis eu hiaith.
Canlyniadau
Mae cyflwyniad y tudalennau ‘Cael Help’ yn nodi cam sylweddol yng nghenhadaeth Meic i rymuso pobl ifanc Cymru.
Gyda chynllun sydd yn gyfeillgar i’r defnyddiwr, cynnwys blog cyfoethog, a dolenni i wasanaethau allanol, mae Meic yn sicrhau nad llinell gymorth yn unig yw’r gwasanaeth, ond canolbwynt o gymorth a gwybodaeth.
Wrth i blant a phobl ifanc lywio trwy gymhlethdodau bywyd, mae Meic yma i wrando, helpu, arwain a chefnogi ieuenctid Cymru.

Halyna Soltys
31 Ionawr 2024
Gwybodaeth
Meic
Erthyglau Perthnasol

Astudiaethau Achos DTS
Cyswllt Conwy Yn Creu CRM Yn Canolbwyntio ar Ddefnyddwyr
Bu ProMo Cymru yn cefnogi ‘Cyswllt Conwy’ i symud o daenlenni rhwystredig i system CRM bwrpasol, hawdd i’w defnyddio. Beth oedd y broblem? Sefydlwyd Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu yn 1997 i helpu hyrwyddo hawliau pobl gydag anableddau dysgu sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae ei nodau yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael […]

Llinell Gymorth
Hysbyseb Swydd: Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth
Gwnewch Wahaniaeth: Byddwch yn Bencampwr i Bobl Ifanc Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth gyda Meic a thîm Gweithredu Cymdeithasol ProMo Cymru (llawn amser, rhan amser, sesiynol, dan hyfforddiant) Ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl bob dydd? Rydym yn chwilio am Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth angerddol ac ymroddedig. Byddech yn bencampwr dros blant, pobl […]

ProMo Cymru
Gwireddu Newid – Ymunwch â Bwrdd ProMo
Ydych chi’n angerddol am waith ieuenctid a chymunedol? Yn awyddus i ddefnyddio’ch sgiliau i wireddu newid go iawn ym mywydau pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru? Yna ymunwch â’n Bwrdd. Mae dod yn Ymddiriedolwr gyda ProMo Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth, ennill profiad yn y sector elusennol a dielw, a chyfrannu […]