Croeso Ffion

Portrait of Ffion, with light pink hair and white and cream clothing, smiling at the camera

Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Ffion Powell fel ein Swyddog Cyllid a Datblygu newydd!

Mae gan Ffion brofiad helaeth yn y maes gwerthu, ble mae wedi rhagori mewn creu a chynnal perthnasoedd busnes hirdymor, yn ogystal â chynyddu a sefydlogi ffrydiau refeniw.

Yn gwneud y naid fawr o werthiant cyfryngau digidol i’r trydydd sector, mae Ffion yn frwdfrydig iawn i ddefnyddio’i sgiliau at achos mwy, yn enwedig i helpu’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.

Ffion and her colleague, Nathan, stood in front of a ProMo Cymru stall with branded banners and a tablecloth.

Yn ei swydd yn ProMo mae’n cefnogi cynhyrchu incwm a datblygu prosiectau a chyfleodd newydd.

Ar ddiwedd mis cyntaf Ffion yn ProMo, gofynnom iddi sut mae’n mwynhau. Dywedodd:

“Mae’r mis cyntaf yma wedi bod yn llawn prosiectau a dysgu – mae amlochredd y sefydliad a’r holl ddarnau sydd yn symud yn agoriad llygaid. Dwi’n awyddus i gyfrannu fy arbenigedd ymhellach yn ProMo ac yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth ym mywydau’r cymunedau rydym yn gweithio â nhw. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm am y croeso cynnes a chefnogol. Mae wedi bod yn bleser bod o gwmpas cymaint o unigolion disglair, dawnus a blaengar.”

Edrychwn ymlaen at weld yr effaith mae Ffion yn ei gael yma gyda ni yn ProMo. Croeso i’r tîm!

Halyna Soltys
12 February 2024

star

Newyddion

divider

Related Articles

Person pointing to a screen teaching a room of people. There is a ProMo Cymru pull up banner behind him.
star

Newyddion

Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr

Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan. Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y […]

star

Newyddion

Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI

Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth?  Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb.  Yr hyn byddech chi’n ei […]

star

Newyddion

Croeso Glain

Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Glain Hughes i’r tîm fel Ysgrifennwr Cynnwys Cymraeg Iau Graddiodd Glain o Brifysgol Aberystwyth yn 2023 gyda gradd mewn Hanes ac mae hi yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Cafodd Glain brofiad gwerthfawr o weithio o fewn y trydydd sector […]